Gweithredu Diwydiannol

Diweddariad 14 Ebrill

Ar ddydd Llun, 3 Ebrill, cyhoeddodd yr UCU bod yr aelodau wedi pleidleisio dros barhau i gynnal gweithredu diwydiannol. Fe allai’r gweithredu diwydiannol hyn gynnwys streicio neu weithredu o natur gwahanol, er enghraifft mae’r UCU wedi cyhoeddi bwriad i gynnal boicot marcio ac asesu gan ddechrau ar ddydd Iau 20 Ebrill oni bai bod trafodaethau cyn hynny’n golygu newid i gynlluniau’r Undeb. 

Rydym yn gwybod fod hwn yn gyfnod ansicr i chi, a’n nod ni yw lleihau unrhyw ansicrwydd gymaint a sy’n bosib, trwy leihau effaith y gweithredu diwydiannol hwn arnoch chi. 

Mae llawer iawn o’n staff yn gweithio yn ôl yr arfer, felly dylech barhau i ymwneud yn llawn â'ch astudiaethau, trwy fynychu sesiynau addysgu a drefnwyd ar ôl i chi ddychwelyd o wyliau'r Pasg.  

Byddwn yn parhau i weithio gydag adrannau i asesu unrhyw effaith ar eich astudiaethau a byddwn yn adolygu a diweddaru ein Cwestiynau Cyffredin islaw. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi gyda mwy o wybodaeth cyn gynted ag y gallwn. 

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw bryderon penodol, cysylltwch gyda’ch adran neu â Rho Wybod Nawr. 

Gwybodaeth Streic Gyffredinol - Cwestiynau Cyffredin

Beth ddylwn i ei ddisgwyl yn ystod Gweithredu Diwydiannol a Gweithredu'n Brin o Streic?

Camau cyfreithiol a gymerir gan aelodau undeb llafur i brotestio yn erbyn eu cyflogwr yw gweithredu diwydiannol. Y math mwyaf cyffredin o weithredu diwydiannol yw streic. Yn ystod streic, gall staff wrthod gweithio ac ymuno â llinell biced wrth fynedfeydd i brotestio.

Ochr yn ochr â streicio bydd aelodau UCU hefyd yn gweithredu'n brin o streic (ASOS) sy’n golygu yn yr achos hwn y bydd yr aelodau sy’n cymryd rhan yn:

  • Gweithio i gontract.
  • Peidio ag ymgymryd ag unrhyw weithgareddau gwirfoddol.
  • Peidio â chyflenwi ar ran cydweithwyr absennol.
  • Peidio ag aildrefnu darlithoedd neu ddosbarthiadau wedi'u canslo oherwydd streic. Dileu deunyddiau sydd wedi'u llwytho i fyny sy'n ymwneud â darlithoedd neu ddosbarthiadau a/neu beidio â rhannu deunyddiau sy'n ymwneud â darlithoedd neu ddosbarthiadau a fydd yn cael eu canslo neu sydd wedi'u canslo o ganlyniad i streic.

Beth yw pwrpas y streic?

Mae Undeb y Prifysgolion a Cholegau wedi galw am streicio dros gyflogau a phensiynau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe UCU yma: https://www.ucu.org.uk/article/12609/Biggest-ever-university-strikes-set-to-hit-UK-campuses-over-pay-conditions--pensions

Gweithredu Diwydiannol – Effaith ar y Dysgu

Beth fydd yn digwydd gydag arholiadau? 

Rydym yn gweithio i leihau effeithiau posib gweithredu diwydiannol UCU ar arholiadau/asesiadau ddiwedd semester 2.  

Ein disgwyliad yw y bydd eich asesiadau, eich arholiadau a'ch seremonïau graddio yn mynd yn eu blaen fel y cynlluniwyd. Mae hyn yn golygu y dylech barhau i gyflwyno gwaith a mynychu arholiadau fel y trefnwyd. 

Fel o’r blaen, bydd  mwyafrif y staff yn gweithio yn ôl yr arfer.  Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai nifer fach o  asesiadau a/neu arholiadau gael eu heffeithio yn ystod y cofnod asesu sydd i ddod. 

Mae ein Senedd eisoes wedi cymeradwyo rheoliadau brys i leihau effaith gweithredu’r UCU. Bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau cyn belled â bod modd eich bod yn gallu derbyn canlyniadau modiwlau, symud ymlaen yn eich cynlluniau astudio, derbyn canlyniadau dyfarniadau a, lle y byddwch yn gymwys, mynychu seremonïau graddio yn y dyfodol.  

Lle byddwn yn darganfod eithriadau lle na all myfyrwyr fodloni deilliannau dysgu rhaglenni neu fodloni gofynion Cyrff Statudol a Rheoleiddiol Proffesiynol oherwydd effaith gweithredu diwydiannol yr UCU, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r myfyrwyr hynny i gytuno ar lwybr a fydd yn eu trosglwyddo i gam nesaf eu dysgu.  

Mae gwybodaeth bellach am newidiadau i'n confensiynau arholiadau ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/exam-conventions

Beth fydd yn digwydd os caiff fy narlithoedd eu canslo?

Dylech fynychu pob dosbarth sy'n cael eu cynnal. Os caiff unrhyw ran o'ch amserlen addysgu ei ganslo, dylech ddefnyddio'r adnoddau cwrs sydd ar gael (er enghraifft, rhestrau darllen cyrsiau) i barhau â'ch dysgu ar gyfer eich cyrsiau. 

Os oes rhywfaint o fy addysgu wedi’i ganslo, sut bydd fy adran yn sicrhau bod y cynnwys yn cael ei gyflwyno yn ddigonol?

Gall eich adran aildrefnu’r addysgu, neu gynnig sesiynau perthnasol ar adegau eraill, neu ddarparu deunyddiau i chi eu hadolygu'n annibynnol, neu ddarparu addysgu asyncronig ar-lein, neu gynnig cyfuniad o'r dewisiadau amgen hyn.

Lle bo’r addysgu wedi’i ganslo ac nad yw wedi bod yn bosibl i’ch adran sicrhau bod y cynnwys wedi’i gyflwyno’n ddigonol, bydd eich adran yn sicrhau nad yw unrhyw asesiad dilynol y byddwch yn ei wneud (h.y. gwaith cwrs, arholiadau ac ati) yn eich profi ar y cynnwys hwn.

Os na fydd fy narlith yn cael ei chynnal a fyddai’n cael fy marcio'n absennol?

Er ei bod yn bosibl y bydd eich cofnod yn dangos absenoldeb ar gyfer dosbarth sydd heb gael ei gynnal, peidiwch â phoeni am hyn gan na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd pan nad yw dosbarthiadau’n cael eu cynnal oherwydd gweithredu diwydiannol.

Beth ddylwn i'w wneud os ydw i wedi colli sesiwn addysgu gan nad oedd yn rhedeg oherwydd weithred diwydiannol?

Rydym yn eich sicrhau na fydd monitro presenoldeb yn cynnwys camau dilynol ar sesiynau addysgu a gollwyd oherwydd gweithred ddiwydiannol UCU.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gen i asesiad i'w wneud?

Dylech gymryd bod yr holl dyddiadau cyflwyno ar gyfer gwaith cwrs yn dal i fod yn berthnasol a dylech gyflwyno'ch gwaith yn unol â hynny. Os bydd streic yn effeithio ar eich dyddiad cau, bydd eich adran yn rhoi gwybod i chi. Bydd cosbau arferol yn birthstool i waith na chaiff ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau a gadarnhawyd.

A fydd y streic yn effeithio ar fy ngallu i raddio?

Mae'r Brifysgol yn gweithio i leihau unrhyw effaith bosibl y gweithredu diwydiannol ar y rhai a fyddai'n disgwyl  graddio yr haf hwn, ac rydym yn disgwyl y bydd pob myfyriwr cymwys yn medru graddio fel y cynlluniwyd.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i am wneud cwyn?

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fyddwch dan anfantais oherwydd y gweithredu diwydiannol. Mae hyn yn cynnwys rhoi mesurau lliniaru ar waith i helpu i unioni effaith streiciau a chefnogi myfyrwyr, yn ogystal â sicrhau na chewch eich asesu ar unrhyw ddeunydd a gollwyd oherwydd bod sesiwn addysgu wedi'i chanslo.

Mae'n bwysig cofio hefyd na fydd pob aelod o staff ar streic ac mae'r campws ar agor fel arfer.

Gan ei bod hi’n sefyllfa sy’n datblygu, ni allwn ar hyn o bryd asesu’n llawn effaith gweithredu diwydiannol ar addysgu a dysgu, na gwerthuso’n gywir a yw’r cymorth a’r mesurau lliniaru sydd wedi eu rhoi ar waith yn unioni effaith streic yn ddigonol. Y rheswm am hyn yw y bydd mesurau’n amrywio yn dibynnu ar eich maes astudio ac mae’n bosib eu rhoi ar waith nawr, yn ddiweddarach yn y tymor, ac yn ystod cyfnod eich rhaglen. Mae hyn yn golygu nad ydym yn bwriadu ystyried ceisiadau am iawndal ac ad-daliad ffioedd sy’n ymwneud â’r cyfnod presennol o weithredu diwydiannol hyd nes y gallwn roi ystyriaeth lawn i’r effaith ar ein myfyrwyr.

Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa hon.

Rwy’n astudio ar fisa Myfyriwr neu Haen 4 – sut gallai hyn effeithio arnaf?

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na ddylai dosbarthiadau sy’n cael eu canslo oherwydd gweithredu diwydiannol gael eu trin fel absenoldeb anawdurdodedig. Felly, os yw eich darlithydd ar streic, ni fydd hyn yn cyfrif fel peidio ag ymgysylltu. Pe bai’r Gwasanaeth Mewnfudo Myfyrwyr yn cysylltu â chi ynghylch eich diffyg ymgysylltiad academaidd ar gyfer y cyfnod hwn, byddwch yn cael y cyfle i egluro bod hyn oherwydd bod gweithgareddau astudio wedi’u canslo oherwydd gweithredu diwydiannol. Mewn achosion o'r fath, gallwch fod yn dawel eich meddwl na chewch eich cosbi am beidio ag ymgysylltu.

Cymorth i Fyfyrwyr yn ystod Gweithredu Diwydiannol

Os oes gennych unrhyw bryderon sy’n effeithio ar eich iechyd meddwl a’ch lles, mae ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gael i chi o hyd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am gymorth a manylion cyswllt yma: https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/student-life/support/