Cynnydd mewn achosion Llid yr Ymennydd B mewn pifysgolion mewn rhannau o’r DU

Mae achosion o glefyd meningococol grŵp B, haint sy’n peryglu bywyd, ar gynnydd ymhlith myfyrwyr sy’n astudio ym mhrifysgolion yn y DU – cymerwch amser i ddarllen hwn fel eich bod yn ymwybodol o’r symptomau a beth i’w wneud os ydych yn meddwl y gallech chi neu rywun rydych yn ei adnabod, fod wedi eich effeithio.

Beth yw clefyd meningococol grŵp B? 

Mae clefyd meningococol yn haint sy'n peryglu bywyd sy’n cael ei achosi gan facteria a all fynd ymlaen i achosi llid yr ymennydd a septisemia (gwenwyn gwaed). 

Gall y clefyd ddatblygu'n gyflym iawn felly mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r arwyddion a'r symptomau fel y gallwch gael cymorth meddygol cyn gynted â phosibl. 

Arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a septisemia 

 Ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod unrhyw un o'r symptomau canlynol: 

  • twymyn gyda dwylo a thraed oer 
  • chwydu 
  • yn gysglyd neu'n anodd deffro 
  • dryswch ac anniddigrwydd 
  • poen difrifol yn y cyhyrau 
  • croen golau blotiog, smotiau neu frech 
  • cur pen difrifol 
  • gwar anystwyth 
  • ddim yn hoffi goleuadau llachar 
  • confylsiynau neu drawiadau 

Pryd i gael cymorth meddygol 

Dylech gael cyngor meddygol cyn gynted â phosibl os ydych yn pryderu y gallai fod gennych lid yr ymennydd. 

Peidiwch ag aros nes bod brech yn datblygu. 

Ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf ar unwaith os ydych yn meddwl y gallech fod yn ddifrifol wael. 

Ffoniwch GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os nad ydych yn siŵr a yw'n rhywbeth difrifol neu os ydych yn meddwl eich bod wedi dod i gysylltiad â rhywun â llid yr ymennydd. 

Cael eich brechu yn erbyn llid yr ymennydd 

Dylai pob myfyriwr prifysgol gael ei imiwneiddio rhag y gwahanol fathau o lid yr ymennydd. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr y DU wedi cael y brechlyn meningococcal ACWY (MenACWY) rhwng 13 a 15 oed a brechlyn meningococol B (MenB) fel babanod 

Os nad ydych wedi cael y brechlynnau hyn am unrhyw reswm, siaradwch â’ch meddyg teulu am gael eich brechumae hyn yn cynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Mae’r brechlyn MenACWY yn amddiffyn rhag 4 math o glefyd meningococol a septisemia ac mae ar gael am ddim i fyfyrwyr sy’n mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.