3. Pa gwestiynau fydd yn yr HGM?

Mae’r HGM yn holi am eich profiadau ar fodiwl penodol ar eich cwrs. Mae'n gyfle i rannu eich barn a'n helpu i addasu a gwella'r profiad myfyriwr. Mae’r HGM yn cynnwys cwestiynau craidd am agweddau amrywiol ar fod yn fyfyriwr, gan gynnwys:

  • Ansawdd yr addysgu
  • Her academaidd a dysgu cyfunol
  • Asesu ac adborth
  • Cymorth academaidd
  • Trefniadaeth a rheolaeth
  • Adnoddau dysgu
  • Y gymuned ddysgu a dysgu cydweithredol
  • Llais y myfyrwyr
  • Bodlonrwydd cyffredinol

Yn ogystal â hynny, mae'n gyfle i gydlynydd y modiwl ychwanegu hyd at bedwar cwestiwn ychwanegol sy’n berthnasol i’r modiwl.