27. Sut y galla i fod yn siŵr y bydd camau'n cael eu cymryd yn sgil fy sylwad
Mae Cydlynwyr Modiwlau yn adolygu eu Holiaduron Gwerthuso Modiwlau er mwyn gwybod beth weithiodd yn dda a beth y gellid ei wella. Bydd y sylwadau hynny'n cael eu rhannu â chydlynydd eich modiwl, a bydd ef/hi yn defnyddio'r adborth i ddatblygu'r modiwl i wella eich profiad ar y modiwl. Yn yr un modd, byddwch yn elwa ar eich adborth yn yr arolwg ‘Sut ydyn ni'n gwneud?’ (yr HGM Cryno) a'r gwelliannau a'r newidiadau y mae arweinydd y modiwl wedi'u gwneud o ganlyniad i adborth blaenorol i'r HGM. Caiff yr adborth sy'n ymwneud â modiwlau ei ddadansoddi er mwyn nodi themâu allweddol.
Mae eich adborth yn rhan bwysig o broses ansawdd y Brifysgol.