ffeithlun esbonio'r HGM

Cliciwch ar y ddelwedd i'w gwneud yn fwy

 

Esbonio cwestiynau'r HGM

Rydyn ni’n deall y gall rhai o gwestiynau’r Holiadur Gwerthuso Modiwl fod yn ddryslyd. Dyma rai pwyntiau i geisio’u hegluro:

C4 Yr Addysgu ar fy modiwl:

A yw'r modiwl hwn wedi fy ysbrydoli i gyflawni fy ngwaith gorau?

  • Ydych chi’n teimlo bod y modiwl yn ennyn eich diddordeb a’ch annog i weithio i eithaf eich gallu?
  • A yw’r modiwl yn gwneud i chi fod eisiau ennill graddau da?

C9 Asesu ac adborth:

A roddwyd adborth ar fy ngwaith yn brydlon?

  • A roddwyd yr adborth i chi mewn pryd – 15 diwrnod gwaith
  • A gawsoch adborth mewn pryd i weithredu arno (h.y. ar gyfer aseiniadau dilynol)

C21 Y gymuned ddysgu:

A ydw i'n teimlo’n rhan o gymuned o staff a myfyrwyr?

  • A gawsoch gyfle i weithio gyda myfyrwyr eraill?
  • A ydych wedi gallu gweithio gyda’r myfyrwyr yn eich dosbarth?

C22/C23 Llais y Myfyrwyr:

A yw’n glir sut y gweithredwyd ar adborth a barn myfyrwyr am y modiwl hwn?

  • A gawsoch gyfle i roi eich barn/adborth?
  • A gawsoch gyfle i roi adborth am y modiwl trwy Holiadur Gwerthuso Modiwl?
  • A gawsoch gyfle i roi adborth trwy Rho Wybod Nawr?
  • A wnaed gwelliannau gan y darlithydd ar sail eich adborth chi neu’ch cymheiriaid?

A gaiff buddiannau academaidd myfyrwyr y modiwl hwn eu cynrychioli’n dda gan gynrychiolwyr academaidd UMAber?

  • A oedd gennych gynrychiolydd Academaidd UM?
  • Oeddech chi’n gwybod pwy oedd eich cynrychiolydd Academaidd?
  • A wnaeth eich Cynrychiolydd Academaidd helpu i gasglu adborth am eich cwrs?