Canolfan Access Aberystwyth
Croeso
Croeso i wefan y Ganolfan Access. Yma, cewch wybodaeth am y gwasanaethau y mae’r Ganolfan yn eu cynnig, a sut y gellwch eu defnyddio. Mae hon yn Ganolfan Allgymorth i Ganolfan Asessu Prifysgol Bangor.
Rydym yn ymdrin yn bennaf â cheisiadau am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA), ac mae’r rhan fwyaf o’r wefan hon yn ymwneud ag egluro’r drefn o ran gwneud cais.
Rydym yn darparu Asesiadau Anghenion Astudio ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i dderbyn y LMA. Mae hyn yn golygu siarad â chi ynglyn â’ch anabledd a’r rhwystrau a gewch, ac yna argymell y strategaethau a’r cyfarpar ategol a fydd yn eich galluogi i gael addysg ar yr un lefel â’ch cyd-fyfyrwyr.
Trefn Gwneud Cais
Cam Un
Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’ch Corff Cyllido i’w hysbysu am eich bwriad i wneud cais am y LMA. Bydd yn anfon ffurflen atoch, i’w llenwi a’i hanfon yn ôl. Gellwch wneud hyn mewn cysylltiad â’r Cynghorwr Anabledd, neu â’r Uned Dyslecsia fel y bo’n briodol.
Cam Dau
Rhoi eich ‘Tystiolaeth Feddygol’ i’r Ganolfan Access. Gall hon fod yn nodyn gan feddyg, neu’n ddogfennaeth arall sy’n rhoi tystiolaeth o’ch anabledd. Yn achos myfyrwyr Dyslecsig, rhaid i’r ddogfen hon fod yn adroddiad diweddar gan Seicolegydd Addysgol. Rhaid inni anfon hwn i’r Corff Cyllidol ei harchwilio. Yr Corff Cyllido fydd yn penderfynu a oes gennych hawl i gael y LMA. Rhaid i’ch hawl gael ei phrofi cyn y gellir cynnal Asesiad Anghenion.
Cam Tri
Unwaith fod eich Corff Cyllido wedi cadarnhau fod gennych hawl, cewch Asesiad Anghenion Astudio. Yn y fan hon, byddwch, fel rheol, yn dod i’r Ganolfan Access, a byddwn yn trafod eich anghenion yng nghyswllt anabledd. Byddwn yn ysgrifennu adroddiad yn argymell y gefnogaeth berthnasol etc. sydd ei hangen arnoch.
Cam Pedwar
Bydd gofyn ichi ddarllen yr adroddiad y byddwn yn ei lunio, cyn inni ei anfon i’r Corff Cyllido. Eich cais chi yw hwn, ac mae angen ichi fod yn hapus yn ei gylch cyn inni ei hanfon i’ch Corff Cyllido.
Cam Pump
Mae eich adroddiad yn mynd i’r Corff Cyllido (a chewch chi gopi ohono). Yr Corff Cyllido sy’n penderfynu pa rai o’n hargymhellion y gall dalu amdanynt gyda chyllid y LMA. Dylai ysgrifennu atoch i’ch hysbysu am ganlyniad yr asesiad.
Cam Chwech
Unwaith y cewch gadarnhad y bydd yr Corff Cyllido yn cyllido’r cymorth etc. sydd wedi’i argymell, dylech roi copi o’r llythyr i’r sawl sy’n rhoi’r cymorth (e.e. Gwasanaethau Myfyrwyr, yr Uned Dyslecsia, neu, yn achos cyfarpar, y ganolfan Access). Rhaid i’r cyflenwydd gael cadarnhad y bydd yr Corff Cyllido yn talu am y gwasanaethau a’r cyfarpar a ddarperir.
Yn achos cefnogaeth astudio yn yr Uned Dyslecsia, gellwch, fel arfer, gymryd hon cyn i’r Corff Cyllidol gysylltu â chi. Ni ellir cyflenwi eitemau eraill, megis cyfarpar, heb gadarnhad gan yr Corff Cyllido.
Gwybodaeth Ychwanegol
Unwaith y byddwch wedi cael asesiad o’ch anghenion, byddwn yn anelu at gael eich adroddiad yn barod ichi ei ddarllen o fewn pythefnos.
Gallwn roi mwy o gymorth a chyfarpar yn ddiweddarach yn eich cwrs, os bydd angen. Bydd angen i’r Ganolfan Access drafod yr angen ychwanegol â chi, a bydd yn ysgrifennu at yr Corff Cyllido, gan ofyn am unrhyw eitemau ychwanegol y bo eu hangen.
Mae'r Ganolfan Access yn gweithio i'r amseroedd canlynol:
Beth fyddwn ni’n ei wneud |
Graddfa amser |
Cynnig apwyntiad chi ar gyfer Asesiad Anghenion unwaith y byddwn wedi derbyn y papurau angenrheidiol (fel rheol cadarnhad Corff Cyllido a naill ai tystiolaeth feddygol neu adroddiad Seicolegydd Addysg)... |
...cyn gynted ag y bydd y wybodaeth hon gennym a'n bod mewn cysylltiad uniongyrchol â chi |
Cynnig apwyntiad i chi ar gyfer Asesiad Anghenion o fewn ... |
... y 15 diwrnod gwaith nesaf |
Ar ôl i chi gael eich asesiad, byddwn yn anfon copi drafft o’r adroddiad atoch i’w ddarllen (a chytuno â’r cynnwys drwy lenwi’r ffurflen amgaeedig) ... |
... o fewn 10 diwrnod gwaith o’ch apwyntiad asesiad |
Cytuno a gwneud unrhyw newidiadau i’ch adroddiad Asesiad unwaith y byddwn wedi clywed oddi wrthych ... |
... o fewn 2 ddiwrnod gwaith |
Anfon copi terfynol eich adroddiad Asesiad Anghenion at eich corff cyllido ... |
... o fewn 1 diwrnod gwaith |
Anfon copi terfynol o’ch adroddiad Asesiad Anghenion atoch ... |
... o fewn 3 diwrnod gwaith |
Gall asesiadau gael eu cynnal mewn lleoliadau eraill ledled y DU - cliciwch ar y ddolen: DSA-QAG
Beth yw LMA?
Beth yw’r Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)?
Gellir defnyddio’r lwfans i roi’r cymorth ychwanegol sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr ag anableddau. Ei fwriad yw darparu cyllid ar gyfer eitemau a fydd yn gymorth i unioni unrhyw anfanteision a fo ar y myfyrwyr hynny.
Beth y gellir ei ddarparu?
Pwrpas y LMA yw darparu cyllid i dalu’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch cwrs AU, ac sy’n deillio’n uniongyrchol o’ch anabledd. Gall y LMA roi cymorth dynol, cyfarpar, a chymorth tuag at gostau eraill sy’n ymwneud ag anabledd, a theithio. Ni all gyllido: costau cysylltiedig ag anabledd a fyddai arnoch p’un a fyddech yn fyfyriwr neu beidio, a chostau astudio a allai fod ar bob myfyriwr.
Pwy all wneud cais am LMA?
Yn gyffredinol, gall unrhyw fyfyriwr mewn Addysg Uwch sydd ag anabledd wneud cais (yn cynnwys y rhai sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol megis Dyslecsia).
Lle dylwn gychwyn?
Ewch i adran y Drefn Gwneud Ceisiadau am wybodaeth lawn. Yn y lle cyntaf, mae angen i’ch corff cyllido gael gwybod am eich bwriad i wneud cais am LMA, yn achos myfyrwyr Brifysgol Aberystwyth, gellwch gysylltu â’r Ymgynghorydd Hygyrchedd (hygyrchedd@aber.ac.uk).
Lle mae’r Ganolfan ACCESS?
Prifysgol Aberystwyth
Mae’r gwasanaeth estyn allan ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y Ganolfan Groeso ar Gampws Penglais, lle gallwch chi'n gael mynediad at ystod o wasanaethau.
Os cewch drafferth cael hyd i’r adeilad, gellwch gael cymorth yn y brif dderbynfa yn y fynedfa i’r campws.
Sat Nav: SY23 3FB
Cysylltu â Ni
Prifysgol Aberystwyth |
Cymorth Myfyrwyr |
Amseroedd agor: Dydd Llun i Ddydd Iau o 9y.b i 5.00y.p, Dydd Gwener o 9y.b i 4.00y.p heblaw am Wyliau Banc.
Pam dewis Canolfan Allgymorth Aberystwyth?
- Rydym yn darparu gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol;
- Rydym yn darparu adroddiadau ac asesiadau o ansawdd uchel;
- Rydym yn canolbwyntio ar fyfyrwyr ac yn cael adborth ardderchog am ein gwasanaeth.
|
Oriau Swyddfa
Bydd personél ar gael i ateb galwadau ac ymholiadau myfyrwyr. |
Asesiadau o Anghenion
Aseswyr ar gael i gynnal asesiadau anghenion. |
Dydd Llun |
9y.b i 5.00y.p |
10y.b i 3y.p |
Dydd Mawrth |
9y.b i 5.00y.p |
10y.b i 3y.p |
Dydd Mercher |
9y.b i 5.00y.p |
10y.b i 3y.p |
Dydd Iau |
9y.b i 5.00y.p |
10y.b i 3y.p |
Dydd Gwener |
9y.b i 4.00y.p |
10y.b i 3y.p |
Dydd Sadwrn |
Ar gau |
Ar gau |
Dydd Sul |
Ar gau |
Ar gau |
Ein rhif achrediad i'w: 110667