Gwasanaeth Caplaniaeth Aberystwyth
Mae Eglwysi Aberystwyth yn falch o gyhoeddi gwasanaeth Caplaniaeth newydd ar gyfer Prifysgol Aberystwyth a fydd yn cynnwys sawl eglwys. Mae tîm y Gaplaniaeth yn cynnwys arweinwyr a gweinidogion o nifer o eglwysi yn y dref. Ein nod yw gwasanaethu pawb sy’n astudio a gweithio yn y Brifysgol, ni waeth beth fo’u sefyllfa, eu cred neu eu ffordd o fyw; mae hynny’n cynnwys pobl a chanddynt ffydd grefyddol, a phobl hebddi. Bydd yn cynnig cymorth bugeiliol ac ysbrydol. Gyda chefnogaeth y Brifysgol, rydym yn awyddus i ddarparu cyswllt diduedd a chyfrinachol i chi gael siarad am unrhyw faterion yr hoffech eu trafod. Os ydych am siarad â’n tîm, fe allwn ddarparu apwyntiadau wyneb-yn-wyneb a rhithiol. Y ffordd hawsaf o gysylltu â ni yw ebostio i hello@aberchaplains.uk
Gallwn gynnig cymorth y Gaplaniaeth yn y Gymraeg ac mae gennym Gaplaniaid gwryw a benyw i’ch cefnogi chi.
Am ragor o fanylion am y tîm a’r eglwysi sy’n cefnogi’r gwasanaeth, anfonwch ebost atom neu ewch draw i’n gwefan aberchaplains.uk