Sut i gael Cymorth
Rydym ni yma i'ch helpu chi ac mae croeso i chi gysylltu unrhyw bryd.
Ffurflen gofrestru ar-lein
Llenwch ein ffurflen gofrestru os ydych chi eisiau rhoi gwybod i ni ynglŷn â'ch trafferthion eich hun. Bydd hyn yn helpu'r ymarferydd i ddysgu mwy am y sefyllfa, fel bod modd awgrymu'r llwybr cymorth cywir a'r wybodaeth berthnasol yn unol â'ch anghenion, e.e. cwnsela yn ogystal â rhywfaint o ddolenni i wefannau hunangymorth.
Llenwch y ffurflen cyn ffonio neu e-bostio i drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda.
Ffurflen mynegi pryder ar-lein
Gallwch roi gwybod i ni os ydych chi'n pryderu am rywun arall. Gall ein Siartiau Llif Iechyd Meddwl eich helpu i wybod beth i'w awgrymu wrth rywun.
Iechyd Meddwl: Ymateb i Argyfyngau (PDF)
Llenwch y ffurflen mynegi pryderon er mwyn rhoi manylion i ni ynglŷn â'r pryderon, a bydd aelod o'r staff yn cysylltu â chi i gynghori ar y ffordd orau o symud ymlaen.
Os yw'r pryderon ynglŷn â rhywun arall yn effeithio ar eich lles chi eich hun, cewch gymorth gennym ni drwy lenwi'r ffurflen gofrestru ar-lein.
Sgwrs sydyn
Rydym ni'n cynnig slotiau byr 10/15-munud ar gyfer sgwrs sydyn. Cewch ein ffonio neu anfon e-bost atom er mwyn gweld pa bryd a sut mae modd trefnu sgwrs. Os ydych yn teimlo y bydd angen sgwrs hirach arnoch, rydym yn eich cynghori chi i lenwi ein ffurflen gofrestru a threfnu Apwyntiad Adnoddau a fydd yn para tua 30-45 munud.
E-bost
Ffôn
01970 621761 neu 01970 622087
Sylwer os gwelwch yn dda, yn ystod y cyfnodau prysur, mae'n bosib na fydd modd i ni gysylltu'n ôl â chi mor fuan ag y byddem ni'n hoffi. Dim ond pan fo'r Brifysgol ar agor y gallwn ymateb. Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch chi yn y cyfnodau pan fo'r Brifysgol ar gau, defnyddiwch Togetherall, ein A i Z o dudalennau lles, eich meddyg teulu neu ewch i'n Tudalen wybodaeth ar gyfer Argyfyngau.