Sut i Dalu
Ar gyfer unrhyw ymholidau, cysytllwch a'r swyddfa ffioedd 01970 622043 rhwng 09:00 a 16:00 ar Dydd Llun i Dydd Gwener.
Mae apwyntiad wyneb yn wyneb ar gael yn Nerbynfa Penbryn yn wythnosol, ar fore Mercher rhwng 9:00 a 12:40 i archebu slot cliciwch yma. Bydd hefyd sesiwn galw heibio rhwng 14:00 a 15:15 ar brynhawn dydd Mercher.
Taliad Llawn a Rhandaliadau
Daw ffioedd dysgu yn ddyledus yn llawn pan fyddwch yn cofrestru, oni bai eich bod yn sefydlu Cynllun Talu Cylchol Cerdyn trwy ein porth ar-lein, i ganiatáu taliad trwy uchafswm o dri rhandaliad, a fydd yn cael eu tynnu o'ch cerdyn talu ar ddyddiadau a bennwyd ymlaen llaw. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod digon o arian ar gael yn eich cyfrif i wneud y taliad.
Talu ar-lein yw’r unig ddull sydd ar gael lle gellir talu’r Ffioedd Dysgu mewn rhandaliadau a RHAID eu sefydlu cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gofrestru, neu rydych mewn perygl o golli’r taliad cyntaf sy’n ddyledus.
Mae angen taliad llawn ar unwaith ar bob dull talu arall.