Cynlluniau Ariannu

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwneud cais i gynlluniau Taith (llywodraeth Cymru) ac i Turing (llywodraeth y DU) am arian i gefnogi eich amser dramor.

Rydym hefyd yn rhoi arian i fyfyrwyr cymwys o'r Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd sy'n unigryw i Aberystwyth.

Bydd y tîm Cyfleoedd Byd-eang yn asesu eich amgylchiadau personol a hyd, cyrchfan a natur y cyfle tramor o'ch dewis i benderfynu pa gronfa fydd yn eich cefnogi orau.

Mae'r Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd yn gyfle gwych sy'n unigryw i Aberystwyth, diolch i rodd hael iawn gan un o gyn-fyfyrwyr Aber. 

Mae’r gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd yn helpu tuag 
at gostau byw a theithio ar gyfer gweithgareddau byr yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ar gael i fyfyrwyr rhan-amser ac amser llawn o’r DU sy’n dilyn cyrsiau sylfaen, israddedig neu gyrsiau Meistr a ddysgir sy’n dymuno gweithio, astudio, gwirfoddoli neu fynychu cynadleddau.    

 I fod yn gymwys rhaid i fyfyrwyr: 

  • fod yn fyfyriwr o'r DU ar gwrs sylfaen, israddedig neu gwrs Meistr a ddysgir 
  • cymryd rhan mewn rhaglen 2 ddiwrnod i 4 wythnos yn un o’r gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd.
  • gwblhau holiadur ymchwil a mynychu digwyddiadau cyn mynd dramor ac ar ôl dychwelyd.