Ffair Astudio Uwchraddedig

Ffair Astudiaethau Uwchraddedig 2023, 15 Chwefror, 16:30 – 19:00, Canolfan y Celfyddau Aberystwyth
Dysgwch fwy am ein cyrsiau uwchraddedig, siarad â'n hadrannau academaidd a chael rhagor o wybodaeth am gyllid a llety.
Cofrestrwch nawr er mwyn:
-
- Dysgu am y cyfleoedd yr ydym yn eu cynnig i uwchraddedigion
- Dysgu am sut y gall astudiaethau uwchraddedig wella eich rhagolygon gyrfa
- Dod i wybod am ysgoloriaethau a chyfleoedd ariannu
- Dysgu mwy am lety a chymorth i fyfyrwyr
- Sgwrsio â myfyrwyr uwchraddedig a dysgu am eu profiadau.
"Fe wyddwn mod i am barhau i astudio, ac roeddwn yn ‘nabod ac yn ymddiried yn y staff dysgu yn Aber. Roedd yn hawdd newid i astudio ar lefel uwchraddedig, ac mae’r gefnogaeth yn wych."
"Dewisais Brifysgol Aberystwyth am fod ganddi gymaint o enw da ar gyfer fy maes astudio penodol."