Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth

Mae dyfeisiadau a datblygiadau digidol wedi newid y ffordd mae pobl a sefydliadau'n rhyngweithio, gan ddod â chyfleoedd a heriau i lyfrgelloedd, gwasanaethau gwybodaeth, amgueddfeydd, a storfeydd archifau.   

Erbyn hyn, mae galw mawr am lyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth proffesiynol, gan fod angen i gyflogwyr reoli eu hasedau mwyaf gwerthfawr yn ein 'heconomi wybodaeth' fyd-eang.   

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i'ch hyfforddi yn y sgiliau sydd eu hangen i gasglu, curadu a rheoli gwybodaeth, adnoddau treftadaeth, archifau a chofnodion ar fformatau digidol a ffisegol er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ddiwylliannol a'n gwybodaeth yn cael eu cadw i'r 21ain ganrif a thu hwnt.  

CILIP
ARA
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ac Ansawdd y Dysgu ym mhynciau Llyfrgellyddiaeth a Rheoli Gwybodaeth ( (Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times, 2021)
  • Mae Aberystwyth yn dref hanesyddol 'gyfoethog o ran gwybodaeth'.
  • Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi'i lleoli drws nesaf i gampws y Brifysgol. Mae'n un o bum llyfrgell hawlfraint y DU ac yn gartref i fwy na 6,000,000 o gyfrolau.

Pam astudio Astudiaethau Gwybodaeth?

  • Fe'i sefydlwyd ym 1964, ac mae gan yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth enw da yn rhyngwladol ers hir am ddarparu cyrsiau safonol a phroffesiynol sy'n canolbwyntio ar anghenion y myfyriwr.  
  • Mae Aberystwyth yn dref hanesyddol 'gyfoethog o ran gwybodaeth' sy'n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig sy’n ymgorffori Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru); Cyngor Llyfrau Cymru; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; amgueddfeydd sirol a chasgliadau archifau.  
  • Ategir arbenigedd y staff gan gysylltiadau proffesiynol clòs yn lleol a chenedlaethol. Gwneir cyfraniadau at brosiectau addysgu, gwaith ymarferol, ac ymchwil yr adran gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, swyddfeydd cofnodion lleol, gwasanaethau llyfrgell y Brifysgol, a sefydliadau cof cenedlaethol fel y Llyfrgell Brydeinig, yn ogystal â chyd-aelodau o'r Glymblaid Cadwraeth Ddigidol.  

Cyflogadwyedd

Mae cyfleoedd gyrfa i’w cael yn sectorau traddodiadol y gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth, mewn sefydliadau diwylliannol a threftadaeth, y cyfryngau, cyhoeddi a newyddiaduraeth. Mae graddedigion hefyd yn mynd ymlaen i weithio’n Swyddogion Gwybodaeth a Rheolwyr neu Ddadansoddwyr Gwybodaeth. 






Ymchwil

Mae gan yr Adran ddiddordebau ymchwil ar draws meysydd astudiaethau gwybodaeth, archifau a rheoli cofnodion. Dyma rai o'r prif themâu:

  • y gymdeithas wybodaeth gan gynnwys cynhwysiant digidol a chynhwysiant cymdeithasol, datgelu gwybodaeth, preifatrwydd a chyflogwyr yn cadw golwg ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. 
  • rheoli archifau a chofnodion gan gynnwys curadu digidol, cofnodion ystadau, cof diwylliannol a hunaniaeth  
  • ymddygiad gwybodaeth gan gynnwys effaith ymddygiad gwybodaeth ar fethiant gwybodaeth, chwilio am wybodaeth yn ein bywydau bob dydd, ceisio gwybodaeth draws-ieithyddol a serendipedd  
  • trefnu gwybodaeth ac adalw gwybodaeth, gan gynnwys modelu data ar gyfer dadansoddi, darganfod ac adalw, dosbarthu a mynegeio, ontoleg a thacsonomeg, tagio, adalw delweddau, ac agweddau rhyng-destunol 
  • cyfathrebu academaidd, gan gynnwys newid dulliau cyfathrebu academaidd yng nghyswllt y datblygiadau mewn technoleg cyfathrebu, a ffactorau effaith cyfnodolion 
  • rheoli gwybodaeth, gan gynnwys rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau a gallu sefydliadau i ddysgu gwybodaeth newydd a’i defnyddio’n effeithiol.  

 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.