Ysgoloriaeth CPD Tref Aberystwyth

£4,000 yn y flwyddyn gyntaf, mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.
I gynnig Ysgoloriaeth i bêl-droedwyr dawnus (gwrywaidd neu benywaidd) a fydd yn chwarae i garfan tîm cyntaf y dref.
Ymhlith y manteision eraill mae aelodaeth Blatinwm o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol, cyfleoedd datblygu hyfforddi pêl-droed, yswiriant meddygol, gwasanaeth ffisiotherapi, cit ar gyfer gemau ac ymarfer.
Sut mae gwneud cais?
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael profiad o chwarae ar lefel sy’n cyfateb i Uwch Gynghrair Cymru.
Mae croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r Clwb i drafod a ydych yn gymwys: abertownfc@live.co.uk a gallwch Wneud Cais Ar-lein erbyn 15 Gorffennaf 2024.
Mae'r ysgoloriaeth hon bellach wedi cau ar gyfer mynediad 2023.