Telerau ac Amodau ar gyfer mynediad yn 2022

  1. Mae’n rhaid bod ymgeiswyr yn gwneud cais i astudio amser-llawn am radd mewn unrhyw bwnc (israddedig neu uwchraddedig) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  2. Mae’n RHAID bod ymgeiswyr wedi chwarae ar lefel Uwch Gynghrair Cymru o leiaf, neu ar lefel gyfatebol (y Vanarama National League fyddai hyn yn Lloegr).
  3. Dylai ymgeiswyr lenwi a chyflwyno’r ffurflen gais ar gyfer Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth/Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth erbyn 15 Gorffennaf yn y flwyddyn cychwyn yn y Brifysgol. Os bydd unrhyw ysgoloriaethau heb eu dyrannu, rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr oedd wedi rhoi Aberystwyth yn ddewis wrth gefn yn wreiddiol, neu’r rhai sy’n ymgeisio trwy’r Clirio hyd at 31 Awst. Ystyrir ceisiadau gan banel dyfarnu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Brifysgol a’r Clwb Pêl-droed, ac mae’n bosib y gwahoddir ymgeiswyr i Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth am dreial. Mae penderfyniad y panel dyfarnu yn derfynol a rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr am y canlyniad cyn dechrau’r tymor.
  4. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gwneud cais i Brifysgol Aberystwyth erbyn 15 Gorffennaf ac sy’n rhoi Aberystwyth yn ddewis cadarn. Mae’n rhaid bod ymgeiswyr wedi cael eu derbyn ar eu dewis gyrsiau i fod yn gymwys. 
  5. Telir yr Ysgoloriaeth mewn 2 randaliad cyfartal yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs.
  6. Bydd gofyn i ddeiliaid Ysgoloriaethau hyfforddi gyda/chwarae i dîm pêl-droed BUCS Prifysgol Aberystwyth os nad ydynt yn dechrau gyda charfan tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth o wythnos i wythnos – gallai hyn fod oherwydd bod amserlenni gemau Prifysgol Aberystwyth/ Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn gwrthdaro, nad ydynt yn cael eu dewis, neu eu bod wrthi’n gwella ar ôl cael anaf ac ati. Caiff unrhyw drefniant o’r fath ei gytuno rhwng Bwrdd Cyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth a Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
  7. Efallai y bydd gofyn i ddeiliaid yr Ysgoloriaeth gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi, a allai gynnwys timau pêl-droed Prifysgol Aberystwyth, addysg i hyfforddwyr Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth, timau Academi Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth a/neu waith estyn allan i’r gymuned. Bydd rhywfaint o hyblygrwydd o ran amseriad unrhyw ofyniad o’r fath, i wneud yn siŵr na fydd yn amharu ar astudiaethau academaidd. 
  8. Ni ellir dal yr Ysgoloriaeth hon ar y cyd ag Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth, ond gellir ei dal ar y cyd ag unrhyw ysgoloriaethau israddedig eraill a gynigir. Cynghorir ymgeiswyr uwchraddedig i gysylltu â’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion i weld a fyddai hyn yn effeithio ar unrhyw ysgoloriaethau Uwchraddedig.
  9. Ariennir yr ysgoloriaeth ar y cyd rhwng Cronfa Aber a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth. Gwneir y taliad yn uniongyrchol i gyfrif banc deiliad yr ysgoloriaeth mewn rhandaliadau cyfartal ddwywaith y flwyddyn (Mawrth a Rhagfyr).
  10. Dylai deiliaid yr Ysgoloriaeth ymddwyn mewn modd sy’n gweddu i gynrychiolwyr y Brifysgol a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.
  11. Os na fydd y cynnydd academaidd, neu os na fydd y cynnydd yn foddhaol yn unrhyw un o’r meysydd hyn, a hynny heb achos da, bydd yr Ysgoloriaeth yn dod i ben.