Ymadawyr Gofal, Gofalwyr Ifanc, a Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio

Ymadawyr Gofal, Gofalwyr Ifanc, a Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio; myfyriwr yn siarad

£1,500 y flwyddyn a phecyn cymorth cynhwysfawr

Bwrsariaeth yw hon i ymgeiswyr sydd wedi bod mewn gofal, sydd â chyfrifoldebau gofalu, neu sydd wedi’u dieithrio oddi wrth eu teuluoedd neu eu gwarcheidwaid yn ystod eu harddegau.

Mae dechrau yn y brifysgol yn amser cyffrous: amgylchedd newydd, pobl newydd a phrofiadau newydd.  Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn teimlo ychydig yn bryderus pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, waeth beth fo'u cefndir, lle aethant i'r ysgol neu pa mor hyderus y maent yn ymddangos.     Rydym wedi creu pecyn o gefnogaeth bwrpasol wedi'i gynllunio'n benodol i'ch helpu i symud ymlaen i Brifysgol Aberystwyth a llwyddo yma.  

Ydw i'n gymwys i gael cymorth?

Os ydych wedi ticio'r blwch ar eich ffurflen gais UCAS i nodi eich bod yn rhywun sy'n gadael gofal, byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i’ch cais ddod i law.  Gallwch hefyd hunangyfeirio drwy lenwi ein furflen gais ar gyfer Bwrsariaeth Ymadawyr Gofal, Gofalwyr Ifainc, a Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio oddi wrth eu teuluoedd

Mae ein pecyn cymorth ar gael i'r categorïau canlynol o fyfyrwyr amser llawn sy'n hanu o'r DU:

Categori

Diffiniad

Y dystiolaeth sydd ei hangen

Ymadawyr Gofal

Myfyrwyr sydd yn iau na 25 oed ac sydd wedi bod yng ngofal eu Hawdurdod Lleol am gyfnod o 13 wythnos o leiaf yn yr adeg rhwng 14 oed a dechrau eu cwrs.

Cadarnhad o'ch sefyllfa mewn llythyr oddi wrth eich Awdurdod Lleol neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau ichi fod dan ofal yr Awdurdod Lleol am o leiaf 13 wythnos ar ôl troi 14 oed, eich bod nawr wedi gadael gofal yr Awdurdod, a'ch bod yn unigolyn wedi gadael gofal yn ôl y diffiniad Deddf Plant (Ymadael â Gofal)

Gofalwyr Ifainc

Myfyrwyr sydd yn iau na 25 oed ac sy'n gyfrifol am roi gofal sylweddol heb dâl i aelod o’r teulu na allant ymdopi heb eu cymorth.   Gall hyn fod o ganlyniad i salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.

Cadarnhad o'ch statws fel Oedolyn Ifanc sy'n Ofalwr trwy'r corff Cyllid Myfyrwyr perthnasol, neu lythyr oddi wrth eich Awdurdod Lleol/Gwasanaethau Cymdeithasol neu Grŵp Cefnogi Gofalwyr.  Nid oes hawl gan fyfyrwyr derbyn Lwfans Gofalwr ar yr un pryd â'r Fwrsariaeth hon.

Myfyrwyr wedi'u Dieithrio oddi wrth eu teuluoedd

Myfyrwyr sydd yn iau na 25 oed ac nad ydynt yn cael cefnogaeth gan eu teulu bellach oherwydd rhwyg yn eu perthynas sydd wedi rhoi terfyn ar unrhyw gyswllt rhyngddynt. Does gan fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio ddim perthynas gyfathrebol ag unrhyw riant, ac yn aml eu rhwydweithiau teuluol ehangach hefyd.

 

Cadarnhad o'ch sefyllfa yn eich asesiad Cyllid Myfyrwyr, neu mewn llythyr oddi wrth weithiwr proffesiynol sy'n gyfarwydd â'ch amgylchiadau teuluol.  

Myfyrwyr Annibynnol / Heb Gefnogaeth

Os nad ydych yn syrthio i unrhyw un o'r categorïau uchod ond eich bod yn awyddus i drafod pa gymorth ychwanegol y gallwn ei gynnig, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.

Cysylltwch â ni

Pwyntiau cyswllt 

Mae gennym dîm ymroddedig a all eich helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnoch os ydych yn cael unrhyw broblemau: 

  • Robin Lovatt, Swyddog Ehangu Cyfranogiad, yw eich pwynt cyswllt cyn i chi gyrraedd Prifysgol Aberystwyth - o lenwi eich ffurflen UCAS, i ymweld â'r Brifysgol, i gyrraedd ar gyfer Wythnos y Croeso Mawr ar ddechrau'r tymor – ehangu-cyfranogiad@aber.ac.uk / 01970 628786
  • Gall ein tîm o Uwch Gynghorwyr Myfyrwyr eich helpu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais Cyllid Myfyrwyr – student-adviser@aber.ac.uk / 01970 621761
  • Marion Thomson, Ymgynghorydd Myfyrwyr (Cynhwysiant) yw eich pwynt cyswllt ar ôl i chi gyrraedd Prifysgol Aberystwyth. Bydd y tîm yn falch o'ch cefnogi drwy gydol eich taith fel myfyriwr ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr gyda ni – ffostaff@aber.ac.uk neu mnt@aber.ac.uk / 01970 628423

Unwaith y cadarnheir eich bod yn gymwys, gallwch fanteisio ar ddarpariaeth amrywiol i'ch cynorthwyo drwy gydol eich amser gyda ni, gan gynnwys:

Gwneud cais ac ymweld â ni

 

Sut mae gwneud cais?

Os oes angen help arnoch i ymchwilio i opsiynau addysg uwch, cwblhau eich ffurflen UCAS neu eich cais Cyllid Myfyrwyr, mae gennym dîm o arbenigwyr wrth law a fydd yn hapus i'ch cynghori. 

 

Cynnig Cyd-destunol

Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael ystyriaethau arbennig megis cynnig is na'r meini prawf mynediad cyhoeddedig safonoll.

 

Ymweld â ni

Os byddwch yn dod i Ddiwrnod Agored neu Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr gallwn ad-dalu rhan o'ch costau teithio.      Byddem hefyd yn falch o gwrdd â chi a'ch tywys o amgylch yr adnoddau sydd gan y Brifysgol i'w cynnig.

 

Y Brifysgol Haf

Os hoffech gael rhagflas o fywyd Prifysgol cyn gwneud cais, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb i chi, gan gynnwys ein Prifysgol Haf.

Materion Ariannol

Bwrsariaeth Ariannol - £1,500 y flwyddyn

Un o’r prif bryderon i bobl ifanc sy'n gadael gofal yw lefel y cymorth ariannol sydd ar gael.  Mae ein pecyn yn cynnwys dau daliad o £750 yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc bob blwyddyn (un ym mis Rhagfyr ac un ym mis Mawrth).

Os ydych yn cymryd blwyddyn dramor neu flwyddyn allan fel rhan o'ch cwrs, gallwch wneud cais i gael y cyllid yn ystod y flwyddyn honno (bydd angen i chi wneud hynny ar wahân gan nad yw taliadau o'r fath yn cael eu cynnwys yn awtomatig).

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau eraill

Cewch ddal unrhyw rai o'n hysgoloriaethau a'n bwrsariaethau eraill ar y cyd â'ch Bwrsariaeth Gadael Gofal, gan wneud eich pecyn ariannol yn fwy gwerthfawr.

Cyngor ar Arian a Chyllidebu

Gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys rheoli eich arian a'ch helpu i lenwi ffurflenni cais ar gyfer cyllid myfyrwyr.

Cronfa Galedi

Mynediad i gronfa ddisgresiynol sy'n rhoi cymorth i fyfyrwyr sy'n cael anawsterau ariannol.

Cyllid Myfyrwyr

Gwybodaeth am Ffioedd Dysgu a Benthyciadau Myfyrwyr.

 

Ar ôl i chi gyrraedd Aberystwyth

 

Llety

Cewch sicrwydd o le yn llety'r Brifysgol am 52 wythnos y flwyddyn, am bob blwyddyn o'ch cwrs (bydd angen i chi wneud cais ar wahân am lety dros yr haf). 

Pecyn Dechrau

Gallwn ddarparu amrywiaeth o eitemau defnyddiol i'ch helpu i gael eich traed oddi tanoch yn ystod wythnosau cyntaf y tymor, gan gynnwys dillad gwely, offer cegin a £50 o gredyd ar eich CerdynAber.

Sesiynau galw heibio anffurfiol yn ystod Wythnos y Croeso Mawr

Byddwn yn eich gwahodd i ddod i gael sgwrs gyfeillgar dros baned o de yn ystod Wythnos y Croeso Mawr fel bod modd i chi drafod unrhyw bryderon/anghenion sydd gennych.

Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr

 

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio gyda myfyrwyr i sicrhau bod iechyd a lles yn rhan annatod o fywyd bob dydd.  Maent yn cynnig technegau sy'n seiliedig ar atebion i feithrin gwytnwch ac i ddatblygu pecyn o sgiliau i reoli materion lles yn ymwneud â bywyd yn y Brifysgol a thu hwnt, mewn modd effeithiol.

Gall ein Cwnselwyr a'n Hymarferwyr Iechyd Meddwl Arbenigol hwyluso llwybrau cymorth i wasanaethau statudol priodol pan fo angen. 

Aelodaeth Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth

Mae pob myfyriwr sy'n byw yn llety'r Brifysgol yn derbyn Aelodaeth Blatinwm Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn rhad ac am ddim - mae hyn yn cynnwys y gampfa, ystafell pwysau rhydd, dosbarthiadau ymarfer i grwpiau, beicio mewn grŵp, wal ddringo BoxRox yn ogystal â'r pwll a'r sawnariwm.   

Gwasanaethau Hygyrchedd

Gallwn roi addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer y rhai sydd ag anabledd, cyflwr corfforol/iechyd meddwl neu wahaniaeth dysgu penodol.

Yma i Helpu

 

Mentora 'Ffordd Hyn'

Rydym yn neilltuo Mentora Ffordd Hyn i fyfyrwyr cymwys yn awtomatig.   Mae ein Mentoriaid Ffordd Hyn wedi derbyn hyfforddiant a byddant yn gallu darparu cyngor rhad ac am ddim a chyfrinachol ar bob agwedd ar fywyd Prifysgol (academaidd, cymdeithasol ac ariannol) a gallant hefyd eich cynorthwyo â phethau fel rheoli amser, cymhelliant, a dangos i chi ble mae ein prif wasanaethau a chyfleusterau wedi'u lleoli.

Undeb y Myfyrwyr

Rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau a gweithgareddau i'ch cynorthwyo yn ystod eich amser yn Aberystwyth, gan gynnwys gwasanaeth cynghori rhad ac am ddim sy'n cael ei redeg gan gynghorwyr profiadol mewn amgylchedd proffesiynol a chyfeillgar.  Mae digon o gyfleoedd i gwrdd â phobl a gwneud cysylltiadau cymdeithasol drwy ein hamrywiaeth eang o glybiau a chymdeithasau.  Rydym yn cynnal sesiwn Cwrdd a Chyfarch yn ystod Wythnos y Croeso Mawr i gyflwyno ein hunain a'n cyfleusterau i fyfyrwyr annibynnol (a ddisgrifir weithiau fel myfyrwyr heb gymorth) a fydd hefyd yn cael eu cynrychioli gan Swyddog Myfyrwyr Annibynnol etholedig yn ystod eu hamser gyda ni.

Cynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid

Gall Cynorthwywyr Adrannol helpu myfyrwyr newydd gydag amrywiaeth eang o bethau, er enghraifft eu tywys o gwmpas yr Adran a'r Brifysgol, esbonio ble mae pethau ac egluro sut i gael gafael ar adnoddau dysgu a'u defnyddio.

Tiwtor Personol

Ar ôl i chi gyrraedd Aberystwyth bydd Tiwtor Personol yn cael ei neilltuo i chi yn eich adran academaidd.  Byddant wrth law i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau academaidd, yn ogystal â'ch helpu i wybod ble i ddod o hyd i gymorth, sut a ble i ddod o hyd i gyngor a sut i fanteisio ar y cymorth hwn i wneud y gorau o'ch profiad yn y Brifysgol.

Gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol am ddim

Cefnogir Clinig Cyfreithiol Teuluol Prifysgol Aberystwyth gan ymarferwyr cyfraith teulu arbenigol, Emma Williams, ac mae'n darparu profiad go iawn i fyfyrwyr presennol y gyfraith yn y trydydd flwyddyn.  Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim ar faterion yn ymwneud â chyfraith teulu a gall helpu gyda chwblhau gwaith papur ar gyfer amrywiaeth o faterion.

Diogelwch

Mae ein Tîm Diogelwch cyfeillgar ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i'ch helpu gydag unrhyw faterion a allai godi.

Cyngor Gyrfaoedd a Phrofiad Gwaith

 

Cyngor Gyrfaoedd a Phrofiad Gwaith

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig cymorth o ddechrau eich blwyddyn gyntaf hyd nes i chi raddio. Maen nhw'n cynnig help gyda CVs, ffurflenni cais, cyfweliadau, a gallant helpu i drefnu lleoliadau profiad gwaith.

Mae'r Brifysgol hefyd yn cymryd rhan yn rhaglen Cyflawni drwy Brofiad Gwaith GO Wales a gynlluniwyd ar gyfer categorïau penodol o fyfyrwyr. Mae'r cynllun yn cynnig cymorth wrth benderfynu pa fath o brofiad gwaith fyddai'n gweithio orau i chi, gan gynnwys Cysgodi Gwaith, Blasu Gwaith a Lleoliadau Gwaith. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help gyda chostau teithio a chostau eraill fel bod ymgymryd â phrofiad gwaith yn ddewis fforddiadwy i chi.

SgiliauAber

Mae sgiliau Aber yn cwmpasu amrywiaeth o adnoddau a gynlluniwyd i gynorthwyo eich dysgu a'ch datblygiad, gyda chymorth ar bynciau fel arfer academaidd da, ysgrifennu academaidd, arholiadau, cyflwyniadau, strategaethau dysgu a chymorth iaith.

GwaithAber

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i waith rhan-amser i gael profiad gwaith ymarferol a chyflogedig o fewn y Brifysgol.

Graddio

 

Graddio

Os ydych angen cymorth tuag at eich costau graddio, gallwch wneud cais am Grant Graddio i dalu am y gost o logi eich cap a'ch gŵn.

 

Astudiaethau Uwchraddedig

Os byddwch yn penderfynu symud ymlaen i astudiaethau Uwchraddedig yn Aberystwyth, byddwn yn rhoi disgownt o £1,000 i chi oddi ar eich ffi dysgu PG.  Ni ellir cynnal hyn gydag Ysgoloriaeth Aber Grad, a bydd ond yn berthnasol i'r cwrs uwchraddedig cyntaf y byddwch yn ymgymryd ag ef yn syth ar ôl graddio o'ch cwrs israddedig.

 

Dolenni cyswllt defnyddiol

  • Gwybodaeth i Fyfyrwyr sy'n Gofalu - cymorth i ofalwyr gan yr awdurdod lleol (yn cynnwys myfyrwyr nad ydynt fel arfer yn byw yng Ngheredigion)
  • Stand Alone - cynorthwyo myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio oddi wrth eu teuluoedd
  • Propel - I fyfyrwyr sydd wedi gadael gofal ac sy'n mynd ymlaen i addysg uwch
  • UCAS advice i fyfyrwyr sydd wedi gadael gofal
  • UCAS advice i ofalwyr ifanc
  • UCAS advice i fyfyrwyr wedi’u dieithrio oddi wrth eu teuluoedd
  • Storfa'r Jiwbili banc bwyd sy'n gwasanaethu ardal Aberystwyth

Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?

Cewch eich talu mewn rhandaliadau cyfartal yn syth i’ch cyfrif banc bob blwyddyn – y cyntaf ddechrau mis Rhagfyr a’r ail ddechrau mis Mawrth.