Bwrsariaeth Margaret Evelyn “Lynne” Williams

Bwrsariaeth yw hon i gefnogi myfyrwyr israddedig sy’n astudio am radd anrhyddedd sengl/gyfun yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Rhaid bod ymgeiswyr wedi mynychu ysgol uwchradd yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin neu Sir Abertawe.

Mae’r Fwrsariaeth yn werth £500 yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio. Mae uchafswm o ddwy wobr y flwyddyn ar gael.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y Ffurflen Gais a’i chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2025.