Bwrsariaeth Waldo Williams

Bwrsariaeth yw hon i gefnogi myfyrwyr israddedig sy’n astudio am radd anrhydedd sengl/gyfun yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Mae’r Fwrsariaeth ar gael i ymgeiswyr iaith gyntaf, ail iaith a dechreuwyr pur sy’n astudio yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac mae hi ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio ar sail amser llawn neu yn rhan-amser.

Mae’r Fwrsariaeth yn werth £500 yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio. Mae uchafswm o ddwy wobr y flwyddyn ar gael.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y Ffurflen Gais a’i chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2025.