Ysgoloriaethau Chwaraeon

£1,000 y flwyddyn
Rydym yn cynnig Ysgoloriaethau Chwaraeon bob blwyddyn i fyfyrwyr newydd i’r Brifysgol sy'n rhagori mewn maes chwaraeon penodol.
Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi athletwyr medrus i sicrhau cydbwysedd rhwng chwaraeon ac astudio, rydym wedi nodi rhai 'chwaraeon ffocws' allweddol lle gallwn gynnig arbenigedd penodol. Wrth ddatblygu nifer o bartneriaethau cyffrous gydag arbenigwyr yn eu maes, gallwn alluogi myfyrwyr i gael mynediad at hyfforddiant arbenigol a chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer y chwaraeon hyn, yn agos at Aberystwyth.
Chwaraeon |
Pêl-droed |
Beicio Mynydd |
Pêl-rwyd |
Rygbi |
Cerdyn Gwyllt |
---|---|---|---|---|---|
Manylion |
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal trafodaethau gyda Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth am amrywiaeth o fentrau a manteision i helpu myfyrwyr i ddatblygu ac ymgysylltu â phêl-droed yn y gymuned. |
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal trafodaethau gyda Pharc Beicio Dyfi ynghylch partneriaeth i fyfyrwyr sy'n gallu beicio o ddifrif! Mentora a mynediad i'r Parc Beicio yw rhai o'r manteision cyffrous sy'n cael eu trafod. |
Rydym wedi cydgysylltu â Chwaraeon yr Urdd i gynnig cyrsiau addysg hyfforddwyr, profiad ymarferol, a datblygiad hyfforddwyr/chwaraewyr. |
Mae gan Brifysgol Aberystwyth gysylltiadau â Chlwb Rygbi'r Scarlets, sy'n arwain at gyfleoedd i gydweithio a darparu cyngor ar raglenni cryfder a chyflyru. |
Os oes camp arall rydych chi'n cymryd rhan ynddi i ansawdd arbennig o uchel, a bod lle i gefnogi eich cynnydd yn y Brifysgol, gallwch wneud cais am ein dewis Cerdyn Gwyllt. |
Mae deiliaid yr ysgoloriaethau yn derbyn pecyn o fudd-daliadau ychwanegol gan gynnwys:
- Aelodaeth Platinwm am ddim o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol
- Gwarant o lety mewn eiddo Prifysgol drwy gydol y cwrs
- Mynediad ffafriol i ardaloedd cryfder a chyflyru yn y gampfa ar adegau penodol
- Rhaglen cymorth wedi'i deilwra gan y partneriaid allweddol, lle bo ar gael
- Grant Addysg Hyfforddwyr Undeb y Myfyrwyr (60% o gyllid tuag at hyrwyddo datblygiad personol ar gyfer cymhwyster chwaraeon e.e. hyfforddi, dyfarnu, cymorth cyntaf ac ati)
- Gweithdai cymorth addysgiadol ar adferiad, maeth a phrofi, a ddarperir gan ein tîm Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- Cymorth mentora i gynorthwyo gyda gyrfa ddeuol astudio a chwaraeon
Mae Ysgoloriaethau Chwaraeon yn agored i ymgeiswyr Israddedig ac uwchraddedig ar gyfer cyrsiau llawn amser yn y Brifysgol (nid yw myfyrwyr presennol yn gymwys i wneud cais). Mae’n bosib y gofynnir i ymgeiswyr i ddod am gyfweliad i drafod eu cais ymhellach, a rhaid iddynt ddarparu geirda i gefnogi eu cais. Mae'n ofynnol i ddeiliaid yr ysgoloriaethau cynrychioli'r Brifysgol yn eu chwaraeon a darparu diweddariadau yn rheolaidd am berfformiadau a chyflawniadau perthnasol.
Sut alla i wneud cais?
- Cwblhau a chyflwyno’r Ffurflen Gais ar-lein, gan gynnwys geirda, erbyn 30 Mehefin 2024.
- Telerau ac Amodau
*Noder: dim ond i ymgeiswyr newydd i'r Brifysgol y mae cystadleuaeth yr Ysgoloriaeth Chwaraeon yn agored, nid yw myfyrwyr presennol yn gymwys i wneud cais.