Bwrsariaethau Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc) 2022

Bwrsariaethau sy’n dibynnu ar brawf modd

Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu gan y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol. Gweler Bwrsariaeth trwy brawf modd y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol.

Bwrsariaethau Sbardun - £500

Os ydych yn astudio mewn ysgol uwchradd neu goleg yng Nghymru, gallwch ofyn i Bennaeth y Chweched Dosbarth eich enwebu am Fwrsariaeth gwerth £500 yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio. Mae gennym 4 o'r bwrsariaethau i'w cyflwyno, ac mae 2 ohonynt yn cael eu neilltuo i siaradwyr Cymraeg.

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i'ch ysgol/coleg gyflwyno enwebiad erbyn 31 Gorffennaf 2022 yn amlinellu eich addasrwydd am y fwrsariaeth. Rhaid cyflwyno'r enwebiadau ar ein ffurflen gais ar-lein.

Bwrsariaethau Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg - £400 y flwyddyn

Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru ar fodiwlau'n cynnwys o leiaf 5 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy'n cyflwyno aseiniadau penodedig yn Gymraeg, yn cael £400 am bob blwyddyn y gwnânt hynny.

Does dim angen ymgeisio am y fwrsariaeth hon - bydd yn cael ei dyfarnu'n awtomatig i fyfyrwyr cymwys.

Bwrsariaeth Ddwyieithog Astudiaethau Efrydiau Allanol (EMS) - £500 dros 2 flynedd

Mae'r fwrsariaeth hon ar gael i fyfyrwyr sy'n gwneud o leiaf 6 wythnos o'u profiad 12 wythnos Astudiaethau Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog Cymraeg/Saesneg. Bydd y sawl sy'n derbyn myfyrwyr ar leoliad yn tystio i'r agweddau cyfrwng Cymraeg a gall myfyrwyr gyflwyno cais am daliad ar ôl i'r chwe wythnos gael eu cwblhau a'u cadarnhau.

Am wybodaeth bellach cysylltwch a vetssat@aber.ac.uk 

Bwrsariaethau Cyflawniad - £500

Bydd 4 bwrsariaeth i fyfyrwyr sy'n gallu dangos eu bod nid yn unig yn gallu cyflawni'n academaidd, ond sydd hefyd wedi rhagori wrth arwain a/neu wasanaethu cyn dod i brifysgol. Bydd angen cyflwyno'r ffurflen gais ar-lein cyn 30 Medi 2022. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu yn ystod tri mis cyntaf y semester newydd.

Bwrsariaethau Gweledigaeth - £500

Bydd 4 bwrsariaeth i fyfyrwyr sy'n cwblhau aseiniad ar ddechrau eu hail flwyddyn yn mynd i'r afael â mater allweddol sy'n wynebu'r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru. Rhoddir manylion i fyfyrwyr ym mis Mai 2023 a gwneir y dyfarniad ym mis Rhagfyr 2023.

Am wybodaeth bellach cysylltwch a vetssat@aber.ac.uk 

Gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru - £250

Mae'r dyfarniad o £250 ar gael i fyfyrwyr Israddedig 2il flwyddyn mewn Gwyddor Filfeddygol sy'n gallu dangos cysylltiad cryf â Chymru.

Nod y wobr yw cydnabod cyflawniadau unigol a chynorthwyo'r ymgeisydd llwyddiannus i ymgymryd ag astudiaeth neu brosiect penodol sy'n gysylltiedig â'i astudiaethau, megis taith astudio neu aseiniad. Gall costau dalu am unrhyw gostau teithio neu offer angenrheidiol mewn cysylltiad â’r prosiect/astudiaeth. Nid yw costau byw a ffioedd cwrs safonol yn gymwys.

Sut gallaf ymgeisio?

  • Dylai ceisiadau gael eu gwneud drwy’r Ffurflen Gais Ar-lein erbyn 13 Ebrill 2024. Bydd hefyd gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad byr ar y campws ym mis Mai 2024 (dyddiad i'w gadarnhau).
  • Telerau ac Amodau

Am wybodaeth bellach ynglŷn a Chwmni Anrhydeddus Lifai Cymru ewch i www.liverycompanywales.cymru

 

Anogir myfyrwyr i ymgeisio am gynifer o fwrsariaethau ag y dymunant ond mae'r brifysgol yn cadw'r hawl i flaenoriaethu ceisiadau gan fyfyrwyr a fu'n aflwyddiannus yn flaenorol.

Mae myfyrwyr sy'n cofrestru ar y cwrs Milfeddygaeth (BVSc) hefyd yn cael manteisio ar y gwasanaethau a gynigir gan ein Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd, yn cynnwys y Gronfa Caledi.