Canllaw cam wrth gam

Canllaw cam wrth gam; myfyriwr ar graig gyda cyfrifiadur

Cyn ymgeisio drwy UCAS.com, bydd angen i chi gofrestru.

Byddwch yn gwneud hyn yn eich ysgol / coleg a bydd angen i chi holi eich athro / ymgynghorydd gyrfaoedd am eich enw defnyddiwr a chyfrinair dros dro, ac yn fwyaf pwysig, y gwirair. Os nad ydych chi’n mynychu ysgol/coleg, peidiwch â phoeni, gallwch eich cofrestru eich hun hefyd.

Bydd angen i chi ddilyn y camau isod wrth gwblhau ffurflen gais ar-lein UCAS.

1. Ymchwilio, ymchwilio ac ymchwilio (eto)

Byddwch eisoes wedi cael eich cynghori i wneud ymchwil ar y cyrsiau a’r prifysgolion rydych chi’n dymuno astudio ynddyn nhw. I rai pobl gall y rhestr fod yn faith ond i eraill bydd yn eithaf cyfyng.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r cwrs rydych chi’n ei hoffi drwy ddefnyddio’r botwm calon ar y chwiliad cwrs UCAS ar-lein. Bydd hyn yn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn cadw’r holl chwiliadau rydych chi wedi’u hoffi yn yr un storfa.

2. Dechreuwch osod eich gwybodaeth bersonol nawr

Rydym ni’n argymell y dylech ddechrau cwblhau eich proffil tua diwedd Mehefin neu ddechrau Gorffennaf. Bydd hyn yn eich helpu i gwblhau rhan ddiflas y cais i’w gael yn barod i chi ddechrau ymgeisio i brifysgolion. Ceir pum adran i chi eu llenwi sef:

  • Gwybodaeth bersonol (e.e. manylion ysgol, anghenion cymorth ac ati);
  • Addysg (gallwch ychwanegu unrhyw bynciau rydych chi’n gweithio atynt neu wedi’u cwblhau eisoes);
  • Cyflogaeth (os oes gennych chi unrhyw brofiad gwaith neu swydd ran amser, gallwch eu hychwanegu yma);
  • Datganiad personol (cyfle i chi ddweud ychydig amdanoch chi eich hun wrth y darparwr);
  • Manylion cyswllt (gallwch ychwanegu eich manylion cyswllt e.e. rhif ffôn symudol ac ebost a’u diweddaru drwy gydol y broses ymgeisio).

Cofiwch fod rhaid i chi gadw’r adrannau hyn pan fyddwch chi wedi’u cwblhau, neu bydd yr wybodaeth y byddwch chi wedi’i gosod yn cael ei cholli a bydd rhaid i chi ddechrau eto.

Lawrlwythwch ein Canllaw Ymgeisio ar gyfer Prifysgol am wybodaeth cam wrth gam.

3. Cyllid Myfyrwyr (ymgeiswyr y DU a’r UE)

Gallai’r dudalen hon ymddangos os ydych chi wedi ateb rhai cwestiynau penodol o’r categori uchod. Nid yw UCAS yn trefnu eich cyllid myfyriwr, ond os oes angen cymorth ariannol arnoch yn y Brifysgol (benthyciad ffioedd dysgu, grant/benthyciad cynhaliaeth), gallwch roi caniatâd i UCAS rannu eich gwybodaeth gyda’r cwmni cyllid myfyrwyr perthnasol. Mae hyn yn helpu i gyflymu’r broses ymgeisio a dyfarnu eich cyllid myfyriwr.

4. Y Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw un o elfennau pwysicaf eich cais UCAS, felly i gael y cyngor gorau, rydym yn argymell eich bod yn darllen ein tudalen benodol fydd yn eich helpu i sicrhau datganiad gwych.

Cliciwch i wylio ein fideos yma ar Sut i Ysgrifennu eich Datganiad Personol

5. Dewis pum cwrs

Dim ond pum cais i bum prifysgol y cewch chi eu gwneud. Gallai eich pum dewis fod yn yr un prifysgolion gyda gwahanol gyrsiau, neu i wahanol sefydliadau ar gyfer yr un cwrs. Lawrlwythwch ein canllaw i ddewis eich cwrs a’ch prifysgol.

Awgrymiadau Defnyddiol:

  • Gwnewch yn siŵr mai dyma’r cwrs iawn i chi!
  • Gofynnwch i’ch hun a allech chi eich gweld eich hun yn astudio ac yn byw yn y Brifysgol rydych chi wedi’i dewis?
  • Ydy bywyd myfyrwyr yn apelio atoch chi? (Clybiau a Chymdeithasau Chwaraeon, bywyd y dref, cyfleusterau).
  • Ydych chi’n hoffi’r llety?
  • Oes gan y Brifysgol amrywiaeth o gyfleoedd e.e. astudio dramor, gweithio mewn diwydiant?
  • Oes cyfleoedd da i raddedigion eich cwrs?

6. Adolygu eich cais

Mae mor bwysig eich bod yn edrych dros yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu a gwneud yn siŵr eich bod yn ymgeisio i’r brifysgol iawn i wneud y cwrs iawn. Mae’n gamgymeriad hawdd rhoi’r cod cwrs anghywir neu ddrysu pa Brifysgol rydych chi’n ei dewis!

7. Holwch am eirda a thalwch eich ffi

Bydd angen geirda ar eich cais gan naill ai eich athro, cynghorwr neu weithiwr proffesiynol sy’n eich adnabod yn academaidd neu’n broffesiynol. Bydd angen geirda ar bawb sy’n ymgeisio, oni bai eich bod yn cael caniatâd gan y brifysgol/coleg rydych chi’n ei ddewis.

Y ffi ymgeisio ar gyfer 2024 yw £27.50 a gallwch wneud cais ar gyfer uchafswm o 5 dewis.

Gallwch dalu gyda cherdyn debyd/credyd ar-lein.

Ymgeisiwch nawr drwy UCAS.com