Nyrsio - Bwrsariaethau Llety
£3,500 oddi ar y ffi llety (mewn llety'r Brifysgol) yn y flwyddyn gyntaf.
2 wobr ar gael i fyfyrwyr o fannau penodol o Gymru.
Rhaid i gyfeiriad cartref ymgeiswyr fod yn y categori 'mwyaf difreintiedig' ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. I wirio eich cymhwysedd, ewch i dudalen Llywodraeth Cymru a nodwch eich cod post. Ar y map sy'n ymddangos, cliciwch ar ble rydych chi'n byw. Bydd siart yn ymddangos ar ochr de isaf y tudalen, gan ddangos ym mha gategori mae eich cyfeiriad. Os ydy'ch cyfeiriad yn cwmpo yn y darn glas tywyll ar y chwith, ac os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y fwrsariaeth hon, anfonwch e-bost at ysgoloriaethau@aber.ac.uk gan gynnwys datganiad (uchafswm o 500 o eiriau) yn amlinellu pam yr ydych yn meddwl eich bod yn haeddiannol i dderbyn y fwrsariaeth. Cofiwch wneud hyn cyn gynted â phosibl.
Mae ymgeiswyr nyrsio yn gymwys i wneud cais am holl Ysgoloriaethau cyffredinol Prifysgol Aberystwyth AR WAHÂN I'R Arholiadau Mynediad .
Gweler hefyd tudalennau Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru sy'n amlinellu'r Bwrsariaethau sydd ar gael ar gyfer astudio nyrsio yng Nghymru.