Ffurflen Gais am Fwrsariaeth Chwaraeon

Mae ceisiadau ar gyfer mynediad 2024 bellach wedi cau.

Ar gyfer mynediad 2025, cwblhewch a chyflwynwch y Ffurflen Gais ar-lein, gan gynnwys geirda, erbyn 30 Mehefin 2025.

Yn y blwch uchod rhestrwch eich cyflawniadau ym myd chwaraeon dros y 2 flynedd ddiwethaf, gan gynnwys y lefel a gyrhaeddwyd, unrhyw achlysur pan oeddech yn cynrychioli ysgol/clwb/gwlad (gan gynnwys safleoedd cenedlaethol, canlyniadau twrnameintiau / cystadlaethau ayyb). Nodwch ddata gwrthrychol am eich perfformiad, manylion o amserau gorau, a dyddiadau hefyd

Yn y blwch uchod nodwch eich uchelgais chwaraeon am y tair blynedd nesaf, ynghyd â manylion o sut y byddwch yn bwriadu gwireddu eich amcanion.

Yn y blwch uchod rhowch fanylion am unrhyw glybiau chwaraeon y buoch yn aelod ohonynt, neu unrhyw hyfforddiant gan gynnwys hyfforddiant ar lefel uwch a gawsoch yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Nodwch y dyddiadau hefyd.

Yn y blwch uchod nodwch a ydych wedi cael unrhyw anafiadau / salwch sydd wedi eich rhwystro rhag hyfforddi a chystadlu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Os ydych chi, rhowch fanylion.

Yn y blwch uchod, a heb ddefnyddio mwy na 500 o eiriau, nodwch rhai ffactorau ychwanegol sydd yn cefnogi eich cais ar gyfer Ysgoloriaeth Chwaraeon y n Aberystwyth, gan gynnwys manylion eich rhaglen hyfforddi gyfredol.

Geirda a Thystiolaeth Ychwaegol

Gofynnwn i chi gynnwys llythyr geirda gan ganolwr. Dylai yr unigolyn hwnnw allu gwneud sylwadau ar eich cyflawniadau ym myd chwaraeon, a chadarnhau pa mor gyraeddadwy a chredadwy mae eich gobeithion, e.e. hyfforddwr / Corff Llywodraethu. Os hoffech gyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol i gefnogi eich cais llwythwch y wybodaeth yng ngham nesaf y ffurflen.

Datganiad

Drwy gyflwyno y ffurflen hon rwyf yn datgan bod y manylion a roddwyd ar y ffurflen gais hon yn ddisgrifiad cywir o fy statws a fy nghyflawniadau ym myd chwaraeon. Os bydd y cais yn llwyddiannus, rwyf yn ymrwymo i gydymffurfio ag amodau y wobr, ac yn derbyn y gellir defnyddio fy manylion mewn deunyddiau cyhoeddusrwydd y Brifysgol