Ysgoloriaeth Defi Fet
Ysgoloriaeth Defi Fet - £500 y flwyddyn
Mae’r ysgoloriaeth hon ar gael i fyfyrwyr rhagorol sy’n dilyn eu hastudiaethau drwy’r Gymraeg dros 5 mlynedd eu gradd. Byddant yn derbyn £500 y flwyddyn a mentora gan fentor profiadol yn y maes yng Nghymru. Rhaid ymgeisio am yr ysgoloriaeth cyn dod i Brifysgol Aberystwyth. Yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i ddeiliaid ddilyn o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg. Disgwylir i ddeiliaid hefyd cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, cynorthwyo â dysgu Cymraeg i’w cyd-fyfyrwyr, cwblhau asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg ac ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) ar ffermydd Cymraeg. Yn ystod eu hamser yn RVC, rhaid i ddeiliaid yr ysgoloriaeth ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Clinigol (EMS) yng Nghymru mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog Cymraeg/Saesneg. Bydd y sawl sy’n derbyn myfyrwyr ar leoliad yn tystio i’r agweddau cyfrwng Cymraeg. Mae un ysgoloriaeth ar gael yn flynyddol. Dyfarnir yr ysgoloriaeth ar sail y meini prawf canlynol:
- Graddau ardderchog yn yr ysgol / prifysgol
- Awydd i astudio drwy’r Gymraeg a asesir drwy ddarn ysgrifenedig 500 gair ar bwnc gosod
- Argymhelliad gan athro
- Dal Prifysgol Aberystwyth fel dewis cyntaf, gan gynnwys prawf o hyn
Mae'r ysgoloriaeth hon bellach wedi cau ar gyfer mynediad 2023.
Ar gyfer ceisiadau mynediad 2024, derbynir ceisiadau drwy'r Ffurflen Gais Arlein erbyn 11 Mehefin 2024.