Gorolwg o Aberystwyth

Yn gartref i Brifysgol Aberystwyth (y coleg ger y lli) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae tref Aberystwyth wedi ei leoli’n ddelfrydol yn swatio rhwng mynyddoedd Pumlumon a bae godidog ac eang Ceredigion.

Mae glannau’r bae yn amgylchynu’r dref, gyda’i chastell canoloesol, y pier a'r promenâd Fictoraidd a harbwr.

Mae Aberystwyth yn dref Prifysgol fywiog, yn gyrchfan glan môr a chartref-oddi-gartref i ryw 9,000 o fyfyrwyr. Drwy gydol y flwyddyn mae'r dref yn llawn bywyd gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd yn heidio yma a thwristiaid yn cael ei suo yma i fwynhau golygfeydd Aberystwyth, gan greu naws cosmopolitan amlwg i'r dref.

Mae ffasâd lliwgar y tai trefol Fictoraidd yn edrych i lawr dros ddau gilomedr o bromenâd gosgeiddig y dref, lle mae myfyrwyr, pobl leol ac ymwelwyr yn cymysgu wrth iddynt loncian neu gerdded ar ei hyd. Mae'r dref wedi cadw llawer o'i gymeriad pensaernïol Fictoraidd, a gweler llawer o westai, llety myfyrwyr ar hyd y teras.

Ceir traddodiad sy'n gweld ymwelwyr a myfyrwyr fel ei gilydd yn 'cicio'r bar' ar y pwynt mwyaf gogleddol y promenâd o dan Graig Glais (neu 'Consti' fel y ceir ei adnabod gan bobl leol). Mae’r traddodiad sy'n dyddio'n ôl i ddechrau'r ugeinfed ganrif er bod ei wreiddiau bellach yn aneglur.

Mae'r promenâd llydan yn cynnig gofod i eistedd, ymlacio, fwynhau machlud yr haul dan gysgod Craig Glais. Ar ddiwrnod clir gallwch weld yr Wyddfa neu eisteddwch lawr gan fwynhau golygfeydd godidog Aberystwyth - y machlud haul syfrdanol, morluniau dramatic a thon ar ôl ton o adar y ddrycin yn heidio bob gaeaf. Mae adloniant ar hyd y promenâd yn cynnwys pwll padlo, arcêd ar y pier a'r bandstand Fictorianaidd a ail-fodelwyd yn ddiweddar.

Mae'r dref yn gynefin i ddolffiniaid trwynbwl -  a chewch eu gweld yn aml yn bwydo iddi ar lannau traeth y dre ar doriad gwawr neu fachlud haul fel arfer.

Harbwr Aberystwyth oedd un o fannau prysuraf Cymru, gyda llongau yn hwylio i gyrchfannau ym mhellafoedd y byd. Mae’r harbwr yn aber i afonydd Ystwyth a Rheidol (sef afon fwyaf serth ym Mhrydain).  Mae tref Aberystwyth yn gnewyllyn i fywyd gwledig lleol ac mae nifer yn ymweld i gael blas ar gaffis, bariau, a bwytai niferus y dref. Yn wir, Aberystwyth oedd y dref gyntaf yng Nghymru i ennill y faner borffor, gan ddangos ei fod yn dref gyda bywyd nos groesawgar a diogel.

Yn edrych dros ochr ddeheuol y dref a harbwr mae bryn Pen Dinas, bryngaer fawreddog o Oes yr Haearn. Mae ras rhedeg flynyddol yn y dref ble mae rhedwyr yn rhedeg fyny Pen Dinas, ar draws y Promenâd a fyny’r Graig Glais. Nid yw hyn yn ras ar gyfer y rhai a chalonnau na phen-gliniau gwan.

Mae castell Aberystwyth yn pontio dwy ochr y promenâd y dref. Mae'r strwythur oedd unwaith yn gastell Normaniaid trawiadol bellach yn adfeilion, wedi ei erydu gan ganrifoedd o stormydd o’r môr a defnydd helaeth o gerrig y castell wedi ei defnyddio i adeiladu’r tai sydd bellach yn ei hamgylchynu.

Ar gyfer y rhai sy'n chwilio am olwg panoramig o'r dref, y Graig Glais, yw'r lle gorau i fwynhau tirwedd y môr a’r mynyddoedd, y dref a’i phrifysgol. Os yn amharod i gerdded i fyny’r Graig Glais mae dewis amgen tymhorol ar gael sef y rheilffordd drydan. Mae Aberystwyth yn gartref i reilffordd drydan hiraf Prydain sydd yn rhedeg o ben gogleddol y promenâd gyda threnau yn rhedeg bob ychydig funudau yn ystod y gwanwyn, haf a dechrau'r hydref.

Wrth gyrraedd y copa cewch fwynhau golygfa panorama anhygoel sydd ar ddiwrnod clir yn ymestyn cyn belled â mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro i'r de, tra bod yr ehangder Bae Ceredigion i gyd yn agor allan i'r gorllewin, a mynyddoedd Eryri hefyd i'w gweld i’r Gogledd. Mae caffi ar y copa a'r Camera Obscura byd enwog. Mae'r adeilad presennol y Camera Obscura wedi ei fodelu ar gynllun yr adeilad Fictorianaidd gwreiddiol. Datgelir golygfeydd manwl o'r cefn gwlad gyfagos wrth i’r drych gylchdroi gan daflu’r adlewyrchiad ar y bwrdd yng nghanol yr adeilad.

Mae rheilffordd hefyd yn darparu’r man cychwyn perffaith ar gyfer taith gerdded syml ar hyd y clogwyni i lawr i fae cyfagos Clarach, cewch ddal bws yn ôl i’r dref. Mae’r llwybr yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru, ac i’r rhai sydd eisiau cerdded ymhellach gallwch gerdded ymlaen i dref Glan Mor Borth gan ddal y bws neu’r trên yn ôl i Aberystwyth.

 

Anturiaethau yn Aber

Aberystwyth fel tref cynnig ei hun i nifer o anturiaethau awyr agored gyda thair o draethau yn amgylchynu’r dref a chyfres o fynyddoedd Pumlumon ar Cambrian mewn pellter hwylus i fynd i’w harchwilio.

Anturiaethau môr

Mae syrffwyr a byrddwyr padlo i’w gweld yn ddyddiol ar arfordir Aber a hyfforddiant triathletwyr i'w gweld yn gweithio ar eu nofio môr yn y bae, ble mae caiacwyr i'w gweld yn padlo ymhlith y dolffiniaid trwynbwl. Mae nifer o glybiau a chymdeithasau yn gysylltiedig ag Undeb y Myfyrwyr y brifysgol a gwefan yr undeb yn fan cychwyn gwych i ddechrau ymchwilio a dechrau eich antur nesaf.

Gweithgareddau glan môr

Aberystwyth wedi ei hamgylchynu gan draethau prydferth, Traeth y Gogledd, Traeth y De a Thraeth Tanybwlch wedi ei leoli ochr draw i'r afon yn Nhrefechan.

Mae Traeth y Gogledd, traeth dynodedig Baner Las, yn cael ei defnyddio’n aml gan fyfyrwyr a theuluoedd gyda Chraig Glais yn gefndir a siopau’r dref mor gyfagos.  Does dim yn well yma na mwyhau’r teimlad o’r tywod cynnes rhwng bodiau eich traed.

Traeth creigiog i’w traeth y De ac yn gyrchfan i rai sydd eisiau gwneud y mwyaf o fwynhau’r môr neu gynnal barbeciw. Yn yr haf, mae nifer yn heidio yma, boed yn fyfyrwyr, ymwelwyr neu bobl leol, i fwynhau’r machlud haul gyda thân bach neu farbeciw.

Gweithgareddau ar y tir

Wedi'i leoli tua 10 milltir o ganol y dref mae  Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nantyrarian sydd yn ganolbwynt i selogion cerdded neu feicio mynydd gyda thros 9km o lwybrau coch (gradd: caled) wedi ei neilltuo i feicio mynydd.

Mae'r holl ddarpariaeth llety'r Brifysgol wedi'i gyfarparu â storio beiciau diogel tram a llety Fferm Penglais wedi'i gyfarparu gyda chawodydd beic hefyd. Oddeutu awr i ffwrdd mewn, i’r Gogledd o Aberystwyth, mae canolfan beicio mynydd Coed y Brenin, un o'r canolfannau beicio mynydd gorau yn Ewrop.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn gartref i dros 7 miliwn o lyfrau, llawysgrifau a chyhoeddiadau, mae ffasâd adeilad neo-glasurol y Llyfrgell Genedlaethol Cymru i’w gweld yn drawiadol ar ganol allt Penglais yn edrych dros y dref. Yn un o 6 llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig, mae'r Llyfrgell yn cynnal sawl digwyddiad, ac arddangosfeydd trawiadol trwy gydol y flwyddyn ac yn adnodd gwych prin dafliad carreg i gampws y Brifysgol. Mae’r llyfrgell adnoddau yn unig yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ac yn brolio caffi penigamp ar gyfer y seibiannau astudio hollbwysig hynny.