Rhwydweithiau a Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Staff

Mae gan Brifysgol Aberystwyth amrywiaeth o hyrwyddwyr ac mae’n ymwneud â nifer o rwydweithiau mewnol ac allanol sy’n helpu i ymgynghori, hyrwyddo a rhannu ymarfer da ar ystod o feysydd cydraddoldeb ac amrywiaeth. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Dylan Jones ar dej20@aber.ac.uk neu 01970 62 8424.

Rhwydweithiau

Mae gan y Brifysgol nifer o wahanol rwydwaith sy'n ymwneud a Chydraddoldeb. Am ragor o wybodaeth, gwelir y wahanol rwydweithiau isod:

Hyrwyddwyr Cydraddoldeb

Lansiwyd rhwydwaith staff o Hyrwyddwyr Cydraddoldeb ym mis Awst 2011 i hyrwyddo ymhellach gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ehangach ar draws PA. Lladmeryddion cydraddoldeb yw’r hyrwyddwyr a’u nod yw codi ymwybyddiaeth o egwyddorion cydraddoldeb drwy’r Brifysgol gyfan.