Prof Jamie Medhurst

BA (Anrh), MLib, PhD, FRHistS, FHEA

Prof Jamie Medhurst

Professor of Media and Communication

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Manylion Cyswllt

Proffil

Yn enedigol o Bont-y-pwl, cefais fy nwyn fyny yng Nghasnewydd, de Cymru a mynychu Ysgol Gymraeg Casnewydd (1973-79) ac Ysgol Gyfun Rhydfelen (1979-86). I Aberystwyth wedyn i astudio ar gyfer gradd mewn Hanes a graddio ym 1989 cyn gwneud cwrs ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gwybodaeth, eto yn Aberystwyth (ble arall?!).

Ers 1996, rwyf wedi bod yn Ddarlithydd (yna Uwch Darlithydd, Darllenydd, a nawr Athro'r Cyfryngau a Chyfathrebu) yn yr Adran a chyn hynny fe fûm yn Diwtor Astudiaethau Gwybodaeth yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth (1993-96) yn dysgu ar wasanaethau a ffynonellau gwybodaeth i'r cyfryngau. Rwyf wedi ymgymryd â gwahanol swyddi gweinyddol a rheolaethol yn yr Adran/Prifysgol: Dirprwy Ddeon Cyfadran y Celfyddydau (2005-2008), Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (2007-2010) a Phennaeth Adran (Ionawr 2011 - Gorffennaf 2014, Awst 2018 - Ionawr 2019, ac Awst 2022 - Awst 2023). Rwyf yn briod ac mae gennym dri o blant (un wedi tyfu fyny a phriodi!). Y tu allan i'r gwaith rwyf yn mwynhau rygbi (gwylio yn hytrach na chwarae y dyddiau hyn!), pysgota, treulio amser gyda'r plant - ac chwarae'r organ a phregethu'n achlysurol yn Eglwys St Mair yn Aberystwyth. Treulir rhan o fis Rhagfyr mewn siwt coch a gwyn, 'sgidiau du, a barf gwyn ffals.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rwy'n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol a'r Academi Addysg Uwch ac yn arholwr allanol yn Birkbeck, Prifysgol Llundain (BA Film and Media) a Phrifysgol Lerpwl (BA Communication and Media). Rwyf wedi arholi oddeutu 17 traethawd hir PhD fel arholwr allanol mewn prifysgolion yn y DU ac Awstralia. Rwyf yn aelod o Bwyllgor Llywio rhwydwaith ymchwil hanes y cyfryngau, EMHIS (https://emhis.blogg.lu.se/). Adolygais bapurau i Contemporary Wales, Critical Studies in Television, Media History a Twentieth Century British History ynghyd â chynigion am lyfrau i Routledge, Sage Publications a Palgrave-Macmillan.

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys hanes darlledu; polisi cyfryngol; archifau ffilm a chyfryngau; y cyfryngau a chymdeithas yng Nghymru; hanes ffilm ddogfen.

Rwyf yn gweithio ar nifer o lyfrau/prosiectau ar hyn o bryd:

Programmes, Protest, and Politics: broadcasting and society in Wales in the 1970s (llyfr i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2025))

Audiences, Identities, and the BBC in Wales, 1923-2023

Entangled Media Histories (Prosiect ymchwil gyda chydweithwyr ym mhrifysgolion Macquarie, Lund, a Hamburg)

Grantiau/Ysgoloriaethau Ymchwil:

  • Gwobr Syr David Hughes Parry, 2006/07, i gynorthwyo gwaith ar lyfr (A History of Independent Television in Wales, 1956-1968).
  • Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Medi 2008-Ionawr 2009 - cyfnod ymchwil i gwblhau llyfr (A History of Independent Television in Wales, 1956-1968).
  • Grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig, Tachwedd 2008-Awst 2009; The Early Years of Television and the BBC, 1923-1939.
  • Cronfa Ymchwil Prifysgol Aberystwyth, Tachwedd 2008-Awst 2009; The Early Years of Television and the BBC, 1923-1939;
  • Grant Cynhadledd Dramor yr Academi Brydeinig, 'Television: the experimental moment 1935-1955', Prifysgol Paris 8, 27-29 Mai 2009.
  • Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Chwefror 2010-Ionawr 2012; rhwydwaith ymchwil ryngwladol ar hanes darlledu

Arolygu ac Arholi MPhil/PhD:

Arolygu

Huw Jones (PhD trwy gyhoeddiadau)

Lucy McFadzean (Ysgoloriaeth AHRC): ‘Community, politics and the economy in the cultural policies of the Greater London Council 1981-6.’

Gregor Cameron: ‘Re-performing Who: Tracing Theatre Technique Through Television Time’

Donald F. McLean (PhD trwy gyhoeddiadau): ‘Investigations into the emergence of British television, 1926-1936’

Dafydd Sills-Jones: ‘History Documentary on UK Terrestrial Television, 1982-2002.’

Rwyf wedi arholi nifer o draethodau ymchwil PhD yn y meysydd hyn, gan gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus, teledu Tsieiniaidd, radio lleol yn Lloegr, portreadau o Gymru mewn drama deledu ddogfennol a rhyngweithiol. Byddai gen i ddiddordeb i glywed gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil sy'n dymuno archwilio unrhyw agwedd ar hanes darlledu neu faterion cysylltiedig â darlledu a hunaniaeth genedlaethol.

Cyfrifoldebau

  • Cyfarwyddwr Ymchwil (Semester 1, 2023-24)
  • Cyd-gysylltydd y Flwyddyn Sylfaen
  • Cyd-gysylltydd Gradd, BA Media and Communication Studies
  • Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau Aberystwyth

Cyhoeddiadau

Medhurst, J, 100 Voices that made the BBC: Entertaining the Nation, 2021, Web publication/site, British Broadcasting Corporation, 2021. <https://www.bbc.com/historyofthebbc/100-voices/entertaining-the-nation>
Medhurst, J 2021, 'Reviews: JOHN ORMOND'S ORGANIC MOSAIC: POETRY, DOCUMENTARY, NATION', Welsh History Review, vol. 30, no. 3, pp. 424-425. 10.16922/whr.30.3.5
Medhurst, J 2020, The BBC and the origins and development of the notion of public service broadcasting. in G Fournier (ed.), La BBC et le service public de l'audiovisuel 1922-1995. Agregation Anglais, Ellipses, Paris, pp. 7-16.
Medhurst, J 2019, Theatre, Film and Television in Wales in the Twentieth Century. in G Evans & H Fulton (eds), The Cambridge History of Welsh Literature., 32, Cambridge University Press, Cambridge, pp. 637-652. 10.1017/9781316227206.034
Medhurst, J, The History of the BBC: Ally Pally, 2018, Web publication/site. <http://www.bbc.co.uk/historyofthebbc/birth-of-tv/ally-pally>
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil