Cwrs Haf: Sgript i sgrin mewn 1 wythnos

Creu film eich hun mewn 1 wythnos
Yng nghwmni gwneuthurwr ffilmiau proffesiynol o’r Adran Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth a thrwy gyfrwng gweithdai a’r profiad ymarferol o wneud ffilm mewn grwpiau, byddwch yn dysgu:
- Gweithio mewn timau i ddatblygu ac ysgrifennu eich sgript
- Cynllunio, ffilmio, golygu a chwblhau eich film yn llwyr;
- Defnyddio offer goleuo a chamerâu;
- Creu trac sain llwyddiannus ar gyfer eich ffilm.
Bob nos byddwch yn mynd i ddangosiadau ffilm yn sinema soffistigedig yr Adran, ac ar ddiwrnod olaf y cwrs byddwn yn dangos yr holl ffilmiau a wnaed yn ystod yr wythnos. Hefyd, ar ddiwedd y cwrs, byddwn yn rhoi copi i chi o’ch ffilm eich hun.
Cwrs preswyl am wythnos yw hwn, sy’n gymwys am Wobr Aur Dug Caeredin. Byddwch yn lletya yn un o’r neuaddau preswyl ar gampws y Brifysgol nesaf at adeilad yr Adran lle cynhelir y cwrs.
Dyddiadau’r cwrs eleni yw:
21 – 26 Gorffennaf 2019
28 Gorffenaf - 2 Awst 2019