Lleoliadau Gwaith a Gyrfaoedd
Lleoliadau Gwaith
Mae myfyrwyr ar BA Astudiaethau Ffilm a Theledu yn cymryd modiwl lleoliad gwaith yn eu hail flwyddyn. Mae'r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i wahanol feysydd o weithio yn y diwydiannau ffilm a theledu, gyda rhaglen wythnosol o siaradwyr gwadd, gan gynnwys cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, golygyddion, ymchwilwyr, awduron, golygyddion sain ac artistiaid seiniau.
Rydym yn cefnogi myfyrwyr i chwilio am leoliad, sy'n para rhwng 5 a 15 diwrnod gwaith o amrywiaeth eang o gwmnïau a sefydliadau: o gwmnïau annibynnol bach, i ddarlledwyr rhyngwladol mawr.
Mae myfyrwyr ar unrhyw gynllun gradd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Film a Theledu yn cael eu hannog i ymgymryd â lleoliadau sy'n ymwneud â'u diddordebau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Fiction Factory ar Y Gwyll/Hinterland, rydym wedi cynnig dros 50 o leoliadau i fyfyrwyr yn ystod y ddau dymor diwethaf.
Gyrfaoedd
Mae nifer fawr o bosibiliadau'n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy'n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith yr opsiynau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy'n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth. Lawrlwythwch Useful Links TFTS (PDF)
Gwybodaeth i raddedigion ThFfTh
Mae cymorth a chyngor ar gael i raddedigion gan y gwasanaeth gyrfaoedd, ac mae croeso i Graddedigion Aber defnyddio'r gwasanaeth gyrfaoedd y Brifysgol ar ôl graddio. Byddwch yn dod o hyd i gysylltiadau â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Go!Wales i'r dde y sgrin hon.
Mae'r ddolen isod yn mynd â chi i gyflwyniad Powerpoint a baratowyd gan Gyrfa a Go!Wales sy'n cynnwys cysylltiadau byw a gwybodaeth ddefnyddiol.
Film & TV, Media & Communication: Your Degree - what next?
(yn saesneg yn unig)
Isod fe welwch gysylltiadau ar gyfer dau templedi CV, - mwy o gyngor ar gael gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
CV Template - Film and TV industry
(yn saesneg yn unig)