Amgylchiadau Arbennig ac Estyniadau
Cliciwch ar y dolenni canlynol os ydych angen estyniad i ddyddiad cau asesiad neu os ydych am hysbysu'r Adran o unrhyw Amgylchiadau Arbennig:
- Estyniadau - Os na allwch gwblhau eich gwaith erbyn y dyddiad cau oherwydd amgylchiadau meddygol/personol clir ac eich bod angen amser ychwanegol.
Noder y gellir lawrlwytho copi o'r Ffurflen Estyniad o ran 3.13 Templedau o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. - Amgylchiadau Arbennig - Rhoi gwybod i'r Adran am unrhyw Amgylchiadau Arbennig a allai fod wedi cael effaith ar berfformiad myfyriwr yn ystod y semester.
Rhaid cyflwyno ffurflen wedi'i gwblhau a thystiolaeth i gefnogi pob cais Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i'r e-bost tfts-extensions@aber.ac.uk / tfts-specialcircs@aber.ac.uk
Os yw eich cais i wneud gyda modiwl tu allan i'r Adran, cyfeiriwch at restr y Swyddogion Estyniadau ac anfonwch y ffurflenni a'r dystiolaeth ategol i'r cyswllt/e-bost a enwir.