Pwyllgor Cyswllt Staff a Myfyrwyr (PCSM)
Pwrpas y Pwyllgor
Mae' Pwyllgor Cyswllt yn cyfarfod tair gwaith bob blwyddyn academaidd ac yn cynnig pwynt cyfathrebu rhwng myfyrwyr a staff yr Adran. Bydd yr Adran yn eich hysbysu pan fydd cyfarfod ar fin cael ei alw ac os oes gyda chi ymholiadau neu faterion i'w codi yna dylech drafod y mater gyda'ch cynrychiolydd. Yn ogystal, gallwch ebostio Tim Gweinyddol TFTS (tfts@aber.ac.uk) a fydd yn cyfeirio'ch neges i'r Cynrychiolydd perthnasol ac i'r Pwyllgor. Mae'r cynrychiolwyr yna i sicrhau bod gyda chi lais felly cysylltwch da chi os oes gyda chi unrhyw beth i rhannu parthed eich astudiaethau neu am unrhyw agwedd arall o'ch bywyd fel myfyriwr.