Cymorth Ychwanegol
Os ydych yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch, mae croeso i chi gysylltu â’r canlynol:
Cefnogaeth sydd ar gael gan y Brifysgol
- Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd - Gellir cysylltu ag aelod o’r tîm Cyngor, Gwybodaeth ac Arian trwy anfon e-bost i student-adviser@aber.ac.uk neu trwy ffonio 01970 621761. Gallwch hefyd gofrestru i gael cymorth gan Wasanaeth Lles y Myfyrwyr trwy lenwi eu ffurflen gofrestru ar-lein sydd ar gael yma: Gwasanaeth Lles
- Undeb Myfyrwyr Brifysgol Aberystwyth - gallwch gysylltu â thîm Gwasanaeth Cynghori UMAber naill ai drwy e-bostio cyngor@aber.ac.uk, ffonio 01970 621712 neu drwy ddefnyddio eu ffurflen ymholi ar-lein. Am ragor o wybodaeth am eu gwasanaethau, ewch i wefan Cyngor Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Ffynonellau cymorth allanol
- Mae Togetherall yn wasanaeth iechyd meddwl a lles digidol sy’n cynnig cymorth ar-lein diogel a dienw, ac sydd ar gael 24/7, https://togetherall.com/en-gb/.
- Os ydych yn teimlo bod arnoch angen siarad â rhywun, gellir cysylltu â’r Samariaid ar y ffôn am ddim ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos trwy ffonio 116 123. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.samaritans.org/?nation=wales
- Gellir dod o hyd i ragor o ffynonellau cymorth ar y wefan A-Y o Lles