Cynllun Mynediad Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Sefydlwyd Cynllun Mynediad yr adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i helpu ein cyn-fyfyrwyr â’u dyheadau gyrfaol ac i ddatblygu eu portffolio, ac i sicrhau bod ein holl raddedigion diweddar yn gallu cynnal y momentwm a’r gweithgaredd creadigol sydd eu hangen er mwyn cyflawni eu huchelgeisiau.

Ar ôl gadael y Brifysgol, mae'n anodd weithiau i'n graddedigion gael cyfleoedd i ddefnyddio offer a gweithio mewn amgylchedd cydweithredol, a gall hyn fod yn rhwystr i’w cynnydd proffesiynol. Wrth inni gyflwyno ein Cynllun Mynediad, gall ein graddedigion barhau i fanteisio ar nifer o gyfleusterau ac adnoddau’r adran hyd yn oed ar ôl graddio.

Ein meysydd cymorth allweddol…

Mae ein Cynllun Mynediad yn ymrwymedig i gefnogi’n cyn-fyfyrwyr mewn dwy ffordd allweddol:

Cyfnod Preswyl - Bydd hyn yn eich galluogi i ddefnyddio cyfleusterau ac adnoddau Labordy Ymchwil yr adran fel rhan o gyfnod preswyl byr. Gallai cyfnodau preswylio amrywio o gwpl o ddiwrnodau i ychydig wythnosau, ac maent yn addas i unigolion neu grwpiau bychain sydd angen lle i weithio’n greadigol i ddatblygu syniadau a chynhyrchu gwaith. Gallai’r cyfnod preswyl eich cynorthwyo i gynhyrchu ffilm fer neu ‘showreel’, i ymarfer a ddatblygu perfformaid, neu unrhyw beth arall a fyddai’n rhoi hwb i’ch portffolio creadigol ac a fyddai’n gwella eich cyflogadwyedd.

Ymarfer Proffesiynol –Bydd hyn yn rhoi cyfle ichi fenthyg offer o Labordy Ymchwil yr adran am gyfnod byr (fel arfer, hyd at wythnos) er mwyn gweithio ar brosiectau annibynnol. Efallai eich bod eisoes yn cynhyrchu gwaith a bod angen meicroffon ychwanegol, lens amgen, cymysgedd sain neu taflunydd. Efallai y bydd angen stand trithroed neu mynediad at feddalwedd arbenigol. Rydym yn awyddus i gefnogi cynhyrchwyr ac artistiaid rhagweithiol ac uchelgeisiol sy’n cymryd y camau nesaf ar lwybr eu gyrfa.

Cyfarpar a Chyfleusterau*

Mae Labordy Ymchwil yr adran yn cynnwys ystod eang o offer cynhyrchu cyfryngol o ansawdd uchel, gan gynnwys:

  • Ystod o gamerâu, o HD i 5K
  • Lensys ac offer gafael, gan gynnwys standiau trithroed a modrwyau dwbl
  • Recordwyr sain a microffonau
  • Gorsafoedd golygu manyleb-uchel gyda sgriniau 4K
  • Gliniaduron, llechi ac iPods
  • Meddalwedd: Adobe Creative Cloud, Avid, Da Vinci Resolve, Isadora, QLab a Logic Pro
  • Taflunyddion a sgriniau
  • Lle i gynnal cyfarfodydd a chynhyrchu prosiectau
  • Cyfleusterau sgrinio / gwylio
  • Offer ffilmio seliwloid, gan gynnwys camerâu 16mm, telelunydd ac argraffydd optegol

Mynediad i ofodau gweithdy ac ymarfer, yn ogystal â phropiau a gwisgoedd, hefyd ar gael.

Os ydych wedi graddio o ThFfTh o fewn y tair blynedd diwethaf ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun, cysylltwch â Greg Bevan (gwb15@aber.ac.uk) i drafod eich amcanion a syniad eich prosiect.

* Ni allwn sicrhau y byddwn yn gallu hwyluso pob cais a phrosiect - bydd dewisiadau yn seiliedig ar argaeledd adnoddau, hyfywedd y prosiect o dan y cynllun, a'i botensial go iawn i gynyddu eich cyfleoedd gyrfaol a’ch portffolio creadigol.