Awgrymiadau Adolygu

Gall adolygu fod yn her.

Yn enwedig â chant a mil o bethau i dynnu’ch sylw oddi ar eich gwaith neu gant a mil o bethau eraill y byddai’n well gennych i’w gwneud.

Ond, mae’n rhaid adolygu ac ar ôl yr arholiadau byddwch yn teimlo balchder o fod wedi cyflawni rhywbeth a rhyddhad hefyd!

Dyma ambell awgrym ar gyfer adolygu all wneud y broses yn llai poenus ac yn fwy cynhyrchiol:

  1. Cynllunio: yn hytrach na phanig ar yr unfed awr ar ddeg, ceisiwch gynllunio’r gwaith adolygu ymlaen llaw er mwyn cael digon o amser a lleihau’r straen
  2. Cymryd seibiant: byddwch yn tueddu i ddysgu’n well mewn cyfnodau byrion yn hytrach na cheisio gwasgu’r wybodaeth i un cyfnod hir – felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael toriad yn rheolaidd, bob rhyw hanner awr efallai
  3. Papurau blaenorol: mynnwch olwg ar hen bapurau gan eu bod yn rhoi syniad da o’r hyn all ymddangos yn yr arholiad a byddan nhw’n help i ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei adolygu
  4. Canfod y ffordd orau i chi: mae pawb yn dysgu ac yn adolygu’n wahanol felly ceisiwch ganfod beth sydd orau i chi – amlygu mewn lliw, codio â lliwiau, ailysgrifennu nodiadau, ailwylio darlithoedd, mapiau meddwl, cerdiau fflach a llawer mwy
  5. Cymerwch ofal ohonoch eich hun: ceisiwch gael digon o gwsg, bwytewch fwydydd sy’n rhoi maeth i’r ymennydd – fel eog, llus, afocados, cnau, hadau, a.y.y.b., cofiwch yfed digon o ddŵr, tua 2-3 litr, gwrando ar gerddoriaeth sy’n eich ymlacio, mynd am dro neu i’r gampfa a chaniatáu amser ar gyfer bach o hwyl
  6. Cael gwared ar y pethau sy’n tynnu sylw oddi ar eich gwaith: os yw’n bosib! Efallai y dylech adolygu yn rhywle arall, fel yn y llyfrgell yn hytrach nag yn eich ystafell. Neu beth am ystyried dadactifadu (neu ddileu!) eich cyfryngau cymdeithasol am gyfnod os ydych yn parhau i oedi cyn bwrw ati

 

Gwyliwch ein fideo “Adolygu gydag Aber” ar gyfer rhagor o awgrymiadau a chyngor.