Mae’n rhaid i chi nawr ystyried y cynigion rydych wedi’u cael a rhoi gwybod i UCAS am eich dewis drwy system UCAS Track. Nodir yn Track erbyn pryd y mae’n rhaid i chi ymateb.
Mae gennych dri dewis:
- Dewis cadarn
Dyma eich dewis cyntaf. Dim ond un dewis cadarn a gewch.
- Dewis yswiriant (dewisol)
Os yw eich dewis pendant yn gynnig amodol, cewch dderbyn cynnig arall (amodol neu ddiamod) fel dewis yswiriant rhag ofn na lwyddwch i fodloni telerau eich dewis cadarn. Dim ond un dewis yswiriant a gewch.
- Gwrthod
Rhaid i chi wrthod pob dewis arall. Os nad ydych am dderbyn yr un o’ch cynigion, cewch wrthod pob un. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ddefnyddio UCAS Extra neu’r drefn Glirio. I gael manylion ynghylch sut a phryd i ymateb i’ch cynigion, ewch i wefan UCAS.
Beth i’w wneud os na chewch gynigion
Os na chewch yr un cynnig neu os penderfynwch wrthod pob cynnig, mae’n bosib y cewch wneud cais drwy UCAS Extra am gwrs arall. Dim ond ar gyfer cyrsiau sydd â lleoedd gwag y cewch wneud cais. Mae UCAS Extra ar agor o ddiwedd mis Chwefror tan ddechrau mis Gorffennaf. Yn UCAS Extra, byddwch yn gwneud cais am un cwrs ar y tro gan ddefnyddio UCAS Track.
I fod yn gymwys ar gyfer UCAS Extra bydd yn rhaid i chi fod:
- Eisoes wedi gwneud pum dewis
- Wedi derbyn penderfyniadau gan bob un o’ch dewisiadau, a
- Naill ai heb gael yr un cynnig neu fod wedi gwrthod pob un o’ch cynigion
Cofiwch: Os gwrthodwch eich cynigion ac ychwanegu dewis drwy UCAS Extra, ni chewch dderbyn yr un o’ch dewisiadau gwreiddiol yn nes ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan UCAS.