Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Academaidd

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Academaidd

£2,000 yn eich blwyddyn gyntaf.

Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Academaidd yn gwobrwyo rhagoriaeth academaidd cyn dechrau yn y Brifysgol.

Mae’r Ysgoloriaethau yma bellach ar gael ar gyfer ymgeiswyr Clirio a’r sawl sy’n dal ni fel dewis Yswiriant ar gyfer mynediad yn 2019!

Sut mae gwneud cais?

Does dim rhaid i chi wneud cais – os ydych wedi nodi Aberystwyth fel dewis Cadarn drwy UCAS ac os cewch y canlyniadau isod byddwch yn derbyn y wobr yn awtomatig:

  • Graddau AAA yn yr arholiadau Safon Uwch*
  • DDD yn Niploma Estynedig Lefel 3 BTEC
  • 34 pwynt yn y Fagloriaeth Ryngwladol
  • Ystyrir cymwysterau eraill y DU/UE hefyd

*Mae’n bosibl y derbynnir gradd A yn Niploma Uwch Bagloriaeth Cymru, a fydd yn cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch, yn lle un o’r graddau Safon Uwch.

 

Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?

Cewch eich talu mewn dau randaliad cyfartal yn syth i’ch cyfrif banc yn ystod eich blwyddyn gyntaf – y cyntaf ddechrau mis Rhagfyr a’r ail ddechrau mis Mawrth.

 

Mae rhagor o fanylion ar gael yn y llyfryn Ysgoloriaethau