Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Hyd at £3,000 i gefnogi'ch astudiaethau.
Nod y cynllun Ysgoloriaethau yw cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae dau wobr ar gael, yn dibynnu ar nifer y credydau rydych yn eu hastudio drwy’r Gymraeg.
Beth yw'r gwobrau?
- Prif Ysgoloriaeth - £1,000 y flwyddyn
Mae’r cynllun Prif Ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd cymwys sy’n cynnwys o leiaf 240 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg (o leiaf 80 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn). - Ysgoloriaethau Cymhelliant - £500 y flwyddyn
Mae’r cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio unrhyw gwrs gradd gydag o leiaf 33% trwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut mae gwneud cais?
Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae rhagor o fanylion ar gael yn y llyfryn Ysgoloriaethau