Arholiadau Mynediad a Gwobrau Teilyngdod - Mynediad yn 2024

Arholiadau Mynediad a Gwobrau Teilyngdod; myfyriwr yn llyfrgell

Gallwch ennill £3,000 a chynnig diamod i astudio gyda ni!

Mae ymgeiswyr ar gyfer ein harholiadau mynediad yn sefyll dau bapur arholiad sy'n para awr a hanner yr un.  Yn dibynnu ar y marciau a gewch yn y ddau bapur, gallech dderbyn hyd at £1,000 y flwyddyn a chynnig diamod i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Sicrhewch eich bod wedi darllen y cwestiynau cyffredin isod cyn i chi fynd ati i wneud cais. 

Sylwer nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol, Nyrsio Milfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr arholiadau.

Cwestiynau Cyffredin

Pa wobrau sydd ar gael?

Ysgoloriaeth y Brifysgol – £1,000 y flwyddyn

Mae gennym 50 o Ysgoloriaethau’r Brifysgol i’w dyfarnu i’r ymgeiswyr sy’n cael y marciau cyfunol uchaf yn y ddau bapur arholiad. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £1,000 ym mhob blwyddyn o’u cwrs. Gweler hefyd rhif 3 isod.

Gwobr Teilyngdod – £1,000 yn y flwyddyn gyntaf

Rydym yn cynnig tua 100 o Wobrau Teilyngdod bob blwyddyn i fyfyrwyr sy’n gwneud yn dda yn yr Arholiadau Mynediad ond yn methu o drwch blewyn â chael Ysgoloriaeth. Bydd deiliaid Gwobrau Teilyngdod yn derbyn £1,000 yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Gweler hefyd rhif 3 isod.

Cynig Diamod

Gall perfformiad cryf yn yr Arholiadau Mynediad arwain at y Brifysgol yn cadarnhau lleoedd ymgeiswyr heb fwy o amodau gan arwain at gynnig diamod trwy UCAS. Mae’n bosib bydd ymgeiswyr sy’n colli allan ar wobr o drwch blewyn yn derbyn cynnig diamod ar sail perfformiad cryf yn yr Arholiadau.

Pryd mae'r Arholiadau Mynediad?

  1. Bydd yr arholiadau yn cael eu cynnal ar-lein yn dy Ysgol neu Goleg* Dydd Gwener, 9fed o Chwefror. Rhaid sicrhau dy fod yn cael caniatâd dy Swyddog Arholiadau cyn cyflwyno dy gais.
  2. Dyddiad Cau gwneud cais yw 4pm, Dydd Gwener 2 Chwefror.

*Os nad oes modd i ti eistedd dy arholiadau yn dy Ysgol neu Goleg, cysyllta a ni drwy ebostio ysgoloriaethau@aber.ac.uk i drafod dy opsiynau 

 

 

Beth yw'r Arholiadau Mynediad?

  1. Mae Arholiadau Mynediad yn ddewisol i fyfyrwyr sy'n gwneud cais am gynllun gradd israddedig yn Aberystwyth.
  2. Bydd pob arholiad yn cael ei gynnal ar-lein. Bydd angen i chi gael defnydd o gyfrifiadur/gliniadur gyda chysylltiad â'r rhyngrwyd, Microsoft Word a phorwr gwe Chrome (neu Firefox).
  3. Byddwch yn sefyll dau arholiad o'r dewis o bynciau a gynigiwn (Strwythur yr Arholiadau a Chyn Papurau).
  4. Mae pob arholiad yn para am awr a hanner, a bydd y ddau ar yr un diwrnod.
  5. Caiff yr arholiadau eu gosod a'u marcio gan ein hadrannau academaidd, felly nid ydynt yn dilyn unrhyw faes llafur penodol, ond dylent fod yn safon debyg i arholiadau Safon Uwch.

 

 

Pam sefyll yr Arholiadau Mynediad?

1. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn un o 3 gwobr:

  • Ysgoloriaethau’r Brifysgol – £1,000 y flwyddyn a chynnig diamod
    Mae gennym 50 o Ysgoloriaethau’r Brifysgol i’w dyfarnu i’r ymgeiswyr sy’n cael y marciau cyfunol uchaf yn y ddau bapur arholiad. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £1,000 ym mhob blwyddyn o’u cwrs. 
  • Gwobrau Teilyngdod – £1,000 yn y flwyddyn gyntaf a chynnig diamod
    Rydym yn cynnig tua 100 o Wobrau Teilyngdod bob blwyddyn i fyfyrwyr sy’n gwneud yn dda yn yr Arholiadau Mynediad ond yn methu o drwch blewyn â chael Ysgoloriaeth. Bydd deiliaid Gwobrau Teilyngdod yn derbyn £1,000 yn ystod eu blwyddyn gyntaf. 
  • Cynigion Diamod
    Gall perfformiad cryf yn yr Arholiadau Mynediad arwain at y Brifysgol yn cadarnhau lleoedd ymgeiswyr heb fwy o amodau gan arwain at gynnig diamod trwy UCAS. Mae’n bosib bydd ymgeiswyr sy’n colli allan ar wobr o drwch blewyn yn derbyn cynnig diamod ar sail perfformiad cryf yn yr Arholiadau. 

    *Sylwch bod y Cynnig Diamod hwn ar gyfer y cwrs(cyrsiau) yr ydych eisoes wedi gwneud cais amdanynt. Ni fyddwch yn gallu addasu eich cwrs yn dilyn canlyniadau'r Arholiadau Mynediad. 

2. Gall lle gwarantedig gan Brifysgol dynnu'r pwysau oddi ar ganlyniadau arholiadau eraill.

3. Mae cael Ysgoloriaeth yn ychwanegiad gwych i'ch CV.

Pa bapurau arholiad ddylwn i eu dewis?

Sicrhewch eich bod yn dewis pynciau sy’n berthnasol i’r cynllun gradd rydych am ei astudio. Os na fyddwch yn sefyll arholiadau mewn pynciau priodol, gallai hynny olygu na fyddwch yn gymwys i gael gwobr a/neu gynnig gostyngol.

Mae’n syniad da edrych ar rai o Hen Bapurau’r Arholiadau Mynediad er mwyn cael syniad o’r math o gwestiynau sy’n debygol o gael eu gofyn, ac ar ba lefel, ond cofiwch y gall ffurf y papurau cwestiynau newid o flwyddyn i flwyddyn. 

Sylwer nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr arholiadau.

Sut i ymgeisio

Mae ein Ffurflen Gais Ar-lein ar agor. Rhaid cyflwyno ffurflen gais erbyn 4pm, dydd Gwener 2 Chwefror 2024.

Mae'n RHAID i chi gael caniatâd eich Swyddog Arholiadau cyn cyflwyno'ch ffurflen gais i sicrhau eu bod yn gallu gwneud y trefniadau angenrheidiol.  Bydd angen eu cyfeiriad e-bost arnom fel rhan o'r broses ymgeisio er mwyn cael cadarnhad, ac anfon cyfarwyddiadau arholiad maes o law. 

Sut fydd yr arholiadau ar-lein yn gweithio?

Sicrhewch eich bod yn darllen y Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr - Arholiadau Mynediad 2024 ac yn gwylio'r fideo ar Sut i Gwblhau'r Arholiadau Mynediad fel eich bod yn ymwybodol o drefn yr arholiadau ymlaen llaw. 

Gwnewch yn siwr hefyd eich bod wedi ymgyfarwyddo â'r Polisi ar Ymddygiad Academaidd Da

Beth os oes gennyf ofynion arholi arbennig?

Ymgynghorwch â'ch Swyddog Arholiadau ynghylch unrhyw drefniadau sydd gennych ar gyfer arholiadau ysgol/coleg arferol.

Gweler ein Polisi ar wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sy’n sefyll yr Arholiadau Mynediad.

Beth sydd hawl gennyf i fynd mewn i'r arholiadau?

Ni chaniateir i ymgeiswyr fynd â ffonau symudol, oriawr digidol (smart watch) nag unrhyw ddyfeisiau digidol tebyg i fewn i'r Arholiadau Mynediad.  Oni noder yn wahanol isod, ni chaniateir defnyddio testunau, geiriaduron, atlas, nac ychwaith unrhyw ddogfennau neu gyfarpar ychwanegol yn yr arholiadau:

  • Busnes a Rheolaeth– gellir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
  • Celf (Portffolio) – rhaid i ymgeiswyr drefnu i gyflwyno eu portffolio erbyn dyddiad yr arholiadau ysgrifenedig.
  • Cemeg– darperir tabl cyfnodol a gellir defnyddio cyfrifiannell.
  • Cyfrifeg a Chyllid – gellir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
  • Economeg– gellir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
  • Ffiseg– bydd yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i chynnwys yn y papur, ond gall yr ymgeiswyr fynd ag unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ a ganiateir gan eu Byrddau Arholi i’r ystafell arholiad i’w defnyddio yn yr arholiadau hynny os hoffent. Caiff yr ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (os ydynt yn dawel, hunanbweredig, heb adnoddau cyfathrebu, ac yn methu dal testun neu ddeunydd arall y gellir ei ddefnyddio i ennill mantais annheg).
  • Ffotograffiaeth – rhaid i ymgeiswyr drefnu i gyflwyno eu portffolio erbyn dyddiad yr arholiadau ysgrifenedig.
  • Mathemateg– caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (os ydynt yn dawel, hunanbweredig, heb adnoddau cyfathrebu, ac yn methu dal testun neu ddeunydd arall y gellir ei ddefnyddio i ennill mantais annheg), dylai ymgeiswyr ddod â’u cyfrifianellau eu hunain. Gall ymgeiswyr ddod ag unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ i’r arholiad os ydynt wedi’u cymeradwyo gan eu bwrdd arholi ar gyfer eu defnyddio mewn arholiadau (darperir Tablau Ystadegol ar gyfer y papur Mathemateg Bellach). 

Gwybodaeth i Ysgolion a Cholegau

Canllawiau ar gyfer Ysgolion/Colegau 2024

Bydd yr holl Arholiadau Mynediad yn cael eu cynnal ar-lein. Bydd angen y canlynol ar ymgeiswyr:

  • Cyfrifiadur neu liniadur
  • Microsoft Word
  • Porwr gwe (Chrome, Firefox, Edge)
  • Dyddiad cau ar gyfer arholiadau 2024 fydd dydd Gwener, 2il o Chwefror. Wedi'r dyddiad hwn bydd cyfrifon Prifysgol Aberystwyth yn cael eu creu a bydd y manylion yn cael eu hanfon at ymgeiswyr. Bydd hyn yn galluogi ymgeiswyr i fewngofnodi i'r safle arholiadau ymlaen llaw, er mwyn ymgyfarwyddo â'r system.
  • Bydd yr holl bapurau arholiad ar gael i'r swyddogion arholiad lawrlwytho o wefan a ddiogelir gan gyfrinair ar ol y 5ed o Chwefror. Bydd y ddolen yn cael ei hanfon ar y swyddiogion arholiad ymlaen llaw.  

Mae gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r ddau arholiad yn yr un diwrnod. Mae croeso i ysgolion/colegau benodi amser dechrau addas i'w amserlenni unigol. Mae'r arholiadau'n para awr a hanner.  

Ni chodir tâl am sefyll yr Arholiadau Mynediad, ond ni all y Brifysgol gyfrannu at unrhyw gostau goruchwylio nac archebu ystafelloedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu a ni drwy ebostio ysgoloriaethau@aber.ac.uk

Canlyniadau a Thaliadau

Anfonir yr holl ganlyniadau at ymgeiswyr drwy e-bost o fewn 4-6 wythnos i gynnal yr arholiadau. 

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn taliadau mewn dau randaliad cyfartal (Rhagfyr a Mawrth) yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr gyda ni. Sicrhewch eich bod wedi rhoi eich manylion banc ar eich porth myfyrwyr (o dan 'Gwybodaeth Bersonol') er mwyn i ni allu gwneud y taliadau.

Cymwynaswyr

Cynigiwn ein Hysgoloriaethau Mynediad drwy garedigrwydd nifer o gymwynaswyr sydd wedi rhoi rhoddion hael i ni dros y blynyddoedd. Mae cyfyngiadau ar rai gwobrau o ran pwy gaiff eu derbyn. Nid oes raid gwneud cais am Ysgoloriaeth benodol – os bydd eich canlyniadau’n ddigon da byddwn yn dyfarnu Ysgoloriaeth addas i chi. Fodd bynnag, dylech roi gwybod i ni os ydych yn fab i Weinidog Anghydffurfiol ac felly’n gymwys i gael eich ystyried am Ysgoloriaeth Goffa David Morgan Thomas o Caterham. Mae rhestr o’n cymwynaswyr a’r telerau a’r amodau sydd ynghlwm wrth wobrau unigol ar gael ar-lein.