Polisi ar wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sy’n sefyllyr Arholiadau Mynediad

Rydym yn hapus i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sy'n dymuno sefyll arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad y Brifysgol sydd â gofynion penodol. Fel arfer, bydd trefniadau'r un fath ag y mae ymgeiswyr yn derbyn ar gyfer eu harholiadau ysgol/coleg, fel y'i cymeradwywyd gan eu Swyddog Arholiadau, a gall gynnwys y canlynol:

  • Darparu 25% o amser ychwanegol
  • Defnyddio ystafelloedd neu weithfannau dynodedig
  • Defnyddio technoleg gynorthwyol (yn cynnwys cyfrifiadur personol, ond nid defnydd o’r rhyngrwyd)
  • Defnyddio gwirydd sillafu safonol ar y bar offer
  • Darparu rhywun i ysgrifennu neu ddarllen o ran y myfyriwr
  • Seibiant gorffwys
  • Defnyddio troshaenau lliw
  • Papurau ar ffurfiau eraill (e.e. Braille)

Nid yw’r rhestr hon yn ddihysbydd gan fod trefniadau wedi eu bwriadu i gwrdd ag anghenion unigolion. Ar ben hynny, dichon y bydd ar rai myfyrwyr cyfuniad o’r trefniadau.

Cyfrifoldeb y myfyriwr unigol yw rhoi gwybod i’r Brifysgol a’r Swyddog Arholiadau am eu gofynion cyn gynted â phosibl. Rhaid i addasiadau fod yn rhesymol yn unol â gofynion deddfwriaeth cydraddoldeb ac yn ymarferol i’w gweithredu yn yr amser sydd ar gael (nid llai na saith diwrnod gwaith cyn yr arholiad). Mewn achosion lle nad yw’n ymarferol i wneud addasiadau yn yr amser sydd ar gael, neu pan dderbynnir ceisiadau lain a saith diwrnod cyn yr arholiad, ni fydd yn bosibl fel rheol i gyflawni addasiadau a dichon y bydd rhaid i’r myfyriwr sefyll yr arholiad heb unrhyw addasiad.

Lle y gwneir addasiadau, a thrwy hynny sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei asesu ar sail gyfartal â’i gyfoedion, ni fydd fel rheol unrhyw ofyn i gymryd sylw pellach o anghenion myfyriwr wrth farcio papurau.

Bydd angen i ysgolion/colegau cadarnhau fod yr addasiadau yn unol â’r trefniadau arferol ar gyfer y myfyriwr wrth eistedd arholiadau, a’u bod yn angenrheidiol oherwydd materion iechyd/nam hir-sefydlog, a bod yr ysgol/coleg wedi derbyn tystiolaeth ynglŷn â hyn - ebostiwch ysgoloriaethau@aber.ac.uk