Trosolwg Pwnc

Cliciwch i weld trosolwg o'r hyn i'w ddisgwyl o bob papur arholiad.

Addysg ac Astudiaethau Plentyndod

Bydd yr arholiad hwn yn cynnwys dewis o gwestiynau a fydd yn eich galluogi i drafod nifer o bynciau a safbwyntiau cyfredol neu ddamcaniaethol ynglŷn ag addysg neu blentyndod neu’r ddau. Bydd y papur yn profi dealltwriaeth gyffredinol yr ymgeisydd o faterion yn ymwneud â phlentyndod, ysgolion, addysg a datblygu. Bydd yn rhoi cyfleoedd i’r ymgeisydd ddangos dadleuon rhesymegol, ystyriol, sgiliau ysgrifennu traethodau perswadiol a’r gallu i ddadansoddi materion cyfredol. Bydd y cwestiynau yn ddigon cyffredinol i sicrhau bod cyfle cyfartal i’r holl ymgeiswyr waeth beth fo’u cefndir academaidd.

Almaeneg

Rhennir y papur yn ddwy adran:

  1. Darn o waith mewn Almaeneg i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg;
  2. Traethawd yn Almaeneg (uchafswm o 300 o eiriau) ar destun cyffredinol.

Os bydd ymgeisydd i’r Adran yn astudio Almaeneg ar lefel A byddem yn disgwyl iddynt sefyll yr arholiad ysgoloriaeth yn y pwnc hwnnw.

Amaethyddiaeth a Chefn Gwlad

Bydd yr arholiad hwn yn profi gwybodaeth yr ymgeisydd o amrywiaeth, dosraniad a graddfa systemau ffermio yn y Deyrnas Unedig neu o ddylanwad gwahanol ddefnydd o’r tir a pholisi cadwraeth ar gefn gwlad.

Bydd angen i’r ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth ynghylch gwahanol ffurfiau o ddefnyddio tir amaethyddol a dealltwriaeth ynghylch un o’r materion canlynol: effeithiau cynhyrchu amaethyddol, coedwigaeth neu adloniant ar yr amgylchedd gwledig.

Yn arbennig, bydd disgwyl i’r ymgeiswyr ddangos gwybodaeth ynghylch dylanwad dyn ar yr amgylchedd, natur y tirwedd a sut y’i ffurfiwyd, y cynefinoedd sy’n bodoli yn amgylchedd y Deyrnas Unedig a chadwraeth ecosystemau daearol pwysig.

Astudiaethau Ffilm a Theledu

Bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i ysgrifennu dau draethawd ar bynciau a ddewisir o restr amrywiol o gwestiynau. Dylai’r ymgeiswyr bwyso a mesur yn feirniadol a defnyddio eu profiadau personol eu hunain – fel aelodau o’r gynulleidfa – i ateb cwestiynau a allai ganolbwyntio ar ddatblygiadau diweddar yn strwythur y byd darlledu, drama deledu, poblogrwydd operâu sebon ar y teledu, prif nodweddion gwahanol fathau o ffilm, neu werthusiad beirniadol o ffilm a welwyd yn ddiweddar. Byddai’n fanteisiol pe gallai’r ymgeiswyr ddangos diddordeb byw yn y ddau faes, os oes modd.

Ni chaiff yr ymgeiswyr ddod â thestunau i’r arholiad hwn.

Astudiaethau Gwybodaeth *newydd ar gyfer 2021

Bydd y papur yn cynnwys cwestiynau sy'n canolbwyntio ar bob agwedd ar astudiaethau gwybodaeth, gan gynnwys rôl ac effaith gwybodaeth ar gymdeithas, yn enwedig effaith y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol a'r byd digidol, astudiaethau llyfrgell ac archif, treftadaeth ddiwylliannol, trefnu a rheoli gwybodaeth. Ni ddisgwylir unrhyw wybodaeth arbenigol na thechnegol ond bydd gallu dangos ymgysylltiad â materion cyfoes, yn enwedig lle mae gwybodaeth yn cael effaith – e.e. 'newyddion ffug', sensoriaeth, preifatrwydd, cyfryngau electronig, yn fantais.  Dyma rhai esiamplau o gwestiynau:

  1. A yw'r Rhyngrwyd yn fygythiad neu'n gyfle i lyfrgelloedd?   
  2. Sut yr ydych yn cyfrif am y ffaith bod cyhoeddi llyfrau printiedig yn dal yn ddiwydiant llewyrchus ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain?  
  3. Yn eich barn chi, beth yw rhai o brif oblygiadau defnyddio safleoedd 'rhwydweithio cymdeithasol' ar gyfer cyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth?

Bioleg 1: Moleciwlau i Organau / Bioleg 2: Organebau i Ecosystemau

Ar y naill bapur a’r llall, disgwylir i fyfyrwyr ysgrifennu tri thraethawd mewn awr a hanner o blith dewis o 18 testun. Bydd y cwestiynau’n profi gwybodaeth am anifeiliaid, planhigion neu ficro-organebau, gan roi dewis eang o gwestiynau o’r maes llafur Bioleg Safon Uwch. Bydd saernïo traethawd yn fedrus, ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioleg i’r byd heddiw yn cael ei wobrwyo. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr roi cyfrif o’u harbenigedd personol ym meysydd bioleg a’i dulliau.

Bydd ‘Bioleg 1’ yn ymwneud ag agweddau biocemegol, cellog a ffisiolegol. Bydd yn cwmpasu’r holl grwpiau o organebau, ond dylai ddarparu digon o gyfle i fyfyrwyr sydd wedi arbenigo mewn Bioleg Ddynol. Bydd ‘Bioleg 2’ yn ymwneud mwy ag organebau cyfain, yng nghyswllt eu bioamrywiaeth, ecoleg a’u hymddygiad. Bydd y papur hwn yn ymwybodol o ddiddordebau posibl yn themâu ein cynlluniau gradd, Bioleg y Môr a Dŵr Croyw, neu Ymddygiad Anifeiliaid.

Noder: Gall ymgeiswyr sefyll y ddau bapur Bioleg, neu y naill neu’r llall gydag unrhyw bwnc arall.

Busnes a Rheolaeth

Bydd cwestiynau’r arholiad yn ymwneud â rheoli busnesau, gan gynnwys marchnata, rheoli adnoddau dynol, a moeseg busnes. Gofynnir cwestiynau hefyd am y rôl sydd i newidiadau cymdeithasol, cyfreithiol, economaidd, gwleidyddol a thechnolegol, ac am effaith y newidiadau hyn ar fyd busnes.

Lluniwyd y cwestiynau i roi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu bod yn ymwybodol o faterion cyfoes, a’u bod hefyd yn awyddus i gymryd gradd mewn Rheolaeth a Busnes. Rhennir y papur yn dair adran eang eu diffiniad, sef cyfrifeg, economeg a rheolaeth, a marchnata.

Bydd yn rhaid ateb tri chwestiwn – un o bob adran. Caniateir defnyddio cyfrifiannell sydd yn anrhaglenadwy.

Celfyddyd Gain (Portffolio)

Os ydych yn gwneud cais i gynllun gradd gan gynnwys Celfyddyd Gain, rhaid i chi gyflwyno portffolio o'ch gweithiau celf gwreiddiol fel un o'ch Arholiadau Mynediad. Dylid cyflwyno ffeil PowerPoint neu PDF o hyd at 20 o'ch gweithiau celf gorau hunan-ddewisedig, wedi'i nodi'n glir 'Portffolio Celf yr Ysgoloriaethau Mynediad' a chynnwys eich enw llawn a rhif UCAS.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys teitl, cyfrwng, maint a dyddiad y delweddau gyda'i gilydd, lle bo'n briodol, gyda disgrifiadau byr, dim mwy na 100 gair i roi gwybodaeth gefndir ychwanegol. Gall hyn fod yn ymwneud â pham rydych wedi dewis y deunydd pwnc hwn, neu sut mae'r gwaith celf yn cyd-fynd ag ymagwedd ehangach o fewn eich ymarfer celf neu o fewn cyd-destun cyfoes a/neu gelf hanesyddol. Nid ydym yn cyfyngu ar ein harholiadau ysgoloriaeth trwy nodi cyfryngau penodol o weithiau celf y dylai e-ffolio eu cynnwys.

Sylwch mai dim ond UN portffolio y gellir ei gyflwyno ar gyfer cystadleuaeth yr Arholiad Mynediad.

E-bostiwch eich e-ffolio neu ddolen i'r Ysgol Gelf artschool@aber.ac.uk erbyn 2 Chwefror 2024. Ni dderbynnir unrhyw gyflwyniadau hwyr.

Cemeg

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ateb dau gwestiwn o ddewis o bedwar yn ystod yr arholiad awr a hanner. Fe all y cwestiynau brofi gwybodaeth ar draws maes cemeg ffisegol, anorganig, organig ac ymarferol.

Fe all y cwestiynau hefyd gynnwys dehongli data neu gemeg feintiol. Rhoddir cydnabyddiaeth i sgiliau mynegiant clir ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ehangach cemeg.

Bydd Tabl Cyfnodol yn cael ei gynnwys gyda’r papur arholiad. Caniateir defnyddio cyfrifiannell na ellir ei raglennu.

Cyfrifeg

Papur awr a hanner yw hwn wedi ei seilio ar feysydd llafur lefel A mewn Cyfrifeg. Bydd pedwar cwestiwn ar y papur a bydd yn rhaid i fyfyrwyr ateb dau ohonynt.

Caniateir defnyddio cyfrifiannell sydd yn anrhaglenadwy.

Cyfrifiadureg

Bwriad yr arholiad Ysgoloriaeth Mynediad mewn Cyfrifiadureg yw asesu’r wybodaeth gyffredinol sydd gennych chi cyn i chi ddod i’r Brifysgol. Gallai’r arholiad gynnwys y pynciau canlynol mewn Cyfrifiadureg: rhaglennu cyffredinol a dylunio algorithmau, graffigwaith cyfrifiadurol, cronfa ddata, systemau gweithredu, a phensaernïaeth gyfrifiadurol. Fel arfer, gofynnir 3 neu 4 o gwestiynau o blith y pynciau hyn a bydd dewis sylweddol ar gael. Bydd y papur arholiad yn cael ei farcio ar sail eich dealltwriaeth chi o’r pynciau a safon y mynegiant a ddefnyddir i ateb y cwestiynau.

Cymdeithaseg

Mae’r papur hwn yn berthnasol i’r rheiny sy’n gwneud cais i astudio L300 Cymdeithaseg, L700 Daearyddiaeth Ddynol, neu bwnc arall yn y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r cwestiynau wedi’u seilio’n fras ar faes llafur Cymdeithaseg Safon Uwch, ac yn canolbwyntio ar gymdeithas, newid mewn cymdeithas, aml-ddiwylliannaeth a hunaniaeth. Mae’r papur yn cynnwys dewis o gwestiynau traethawd, a dylai’r ymgeiswyr gwblhau dau gwestiwn mewn 1 awr 30 munud. Dylai’r rheiny heb Safon Uwch Cymdeithaseg neu Ddaearyddiaeth gysylltu â thiwtor derbyn yr adran i gadarnhau addasrwydd: dges-admissions@aber.ac.uk.

Cwestiynau enghreifftiol:

  • Cloriannwch i ba raddau y mae globaleiddio yn newid hunaniaeth unigolion a grwpiau.
  • Sut mae newid cymdeithasol yn digwydd?
  • Trafodwch sut gallai agwedd gymdeithasegol helpu i wella un maes polisi cyhoeddus yn y DU.

Cymraeg (Iaith Fodern)

Os yw ymgeisydd yn bwriadu astudio cwrs gradd anrhydedd sengl/gyfun yn y Gymraeg, disgwylir iddynt sefyll yr arholiad Cymraeg perthnasol fel un o’u dewisiadau ysgoloriaeth mynediad.

Mae’r papur yma i fyfyrwyr sydd wedi dysgu’r Gymraeg fel ail iaith; bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn gan eu hysgol/coleg.

Mair tair prif adran yn y papur:

  1. Darllen a Deall (=25%): Bydd ymgeiswyr yn ateb cyfres o gwestiynau sy'n seiliedig ar erthygl fer yn y Gymraeg.
  2. Cyfieithu (=25%): Bydd ymgeiswyr yn cyfieithu cyfres o frawddegau Saesneg i'r Gymraeg.
  3. Ysgrifennu (=50%): Gofynnir i ymgeiswyr ysgrifennu darn byr yn y Gymraeg ar bwnc penodol. Bydd dewis o bynciau yn cael eu cynnig.

Ni chaniateir defnyddio geiriaduron.

Cymraeg (Iaith Gyntaf)

Os yw ymgeisydd yn bwriadu astudio cwrs gradd anrhydedd sengl/gyfun yn y Gymraeg, disgwylir iddynt sefyll yr arholiad Cymraeg perthnasol fel un o’u dewisiadau ysgoloriaeth mynediad.

Rhennir y papur yn ddwy adran, sef Dadansoddi Llenyddiaeth a Defnyddio’r Iaith. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd ateb un cwestiwn o bob adran.

Adran A: Dadansoddi Llenyddiaeth
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd gyflwyno gwerthfawrogiad llenyddol o gerdd neu ddarn o ryddiaith mewn Cymraeg llenyddol graenus.

Adran B: Defnyddio’r Iaith
Rhoddir cyfle i’r ymgeisydd ddangos ei wybodaeth o’r iaith drwy gyfieithu darn o’r Saesneg i Gymraeg llenyddol safonol neu drwy ailysgrifennu darn o Gymraeg gwallus mewn Cymraeg llenyddol safonol ac esbonio rhai o’r gwallau.

Nid oes gan ymgeiswyr hawl i ddod â thestunau na geiriaduron i’r arholiad hwn.

Daeareg

Mae’r arholiad hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n ymgeisio ar gyfer y cynlluniau gradd BSc mewn ‘Gwyddor yr Amgylchedd’, ‘Gwyddor Daear Amgylcheddol’, a ‘Daearyddiaeth Ffisegol’.

Cynigir dewis o gwestiynau a dylai ymgeiswyr ateb dau ohonynt. Er y bydd y cwestiynau’n seiliedig yn fras ar y maes llafur Safon Uwch, bydd y rhan fwyaf o’r cwestiynau yn gofyn am dystiolaeth o ddarllen a meddwl ehangach am brosesau a phynciau daearegol.

Anogir ymgeiswyr i ehangu eu gwybodaeth ddaearegol trwy ddarllen erthyglau addas mewn cylchgronau a fwriadwyd ar gyfer cynulleidfa ehangach, megis New Scientist, Scientific American a Geology Today.

Daearyddiaeth Ddynol / Daearyddiaeth Ffisegol

Gall yr ymgeiswyr sefyll:

  1. papur daearyddiaeth ddynol;
  2. papur daearyddiaeth ffisegol; neu’r
  3. ddau bapur.

Bydd eu dewis o bapurau ysgoloriaeth yn dibynnu ar arbenigedd y rhaglen radd a ddewiswyd ganddynt o fewn yr Adran. Bydd y cwestiynau’n profi gwybodaeth a dealltwriaeth am yr egwyddorion cyffredinol y mae’r rhan fwyaf o feysydd llafur Safon Uwch yn y pwnc yn ymdrin â hwy.

Gallai’r pynciau yr ymdrinir â hwy gynnwys tirffurf a phrosesau tirffurfio mewn amgylcheddau rhewlifol, arfordirol neu anfonol, newid amgylcheddol byd-eang, rheoli ecosystemau, newid trefol-gwledig, datblygu rhanbarthol, clefyd ac anghydraddoldebau gofodol.

Bydd y ddau bapur yn cynnwys dewis o gwestiynau traethawd. Dylai’r ymgeiswyr gwblhau dau gwestiwn.

Ni chaniateir defnyddio atlas na chyfrifiannell.

Mae tiwtor derbyn yr adran yn fodlon cynghori ar y papur(au) arholiad Ysgoloriaeth mwyaf priodol i bob ymgeisydd. Am ragor o fanylion, cysylltwch â: dges-admissions@aber.ac.uk

Drama ac Astudiaethau Theatr

Bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i ysgrifennu dau draethawd ar bynciau a ddewisir o restr amrywiol o gwestiynau. Gallai’r cwestiynau gynnwys ysgrifennu am ddrama ac ystyried rhai o’r heriau a’r anawsterau sy’n codi o lwyfannu cynhyrchiad o’r fath, pwyso a mesur sut y dysgir gwaith Shakespeare mewn ysgolion, cloriannu perfformiad a welwyd yn y theatr yn ddiweddar, neu ymwneud â chysyniadau megis mynegiadaeth neu abswrdiaeth. Wrth ateb cwestiynau o’r fath, dylai’r ymgeiswyr geisio dangos eu dealltwriaeth gyffredinol o’r theatr, gan wneud sylwadau gwreiddiol a chreu trafodaeth am y prif faterion sy’n llifo ac sydd wedi’i pharatoi’n dda.

Ni chaiff yr ymgeiswyr ddod â thestunau i’r arholiad hwn.

Economeg

Mae’r arholiad yn cynnwys wyth cwestiwn, a dylid ymgeisio i ateb dau ohonynt. Bydd y cwestiynau’n ymwneud â phynciau mewn economeg macro a micro, ac efallai y byddant yn cynnwys cwestiynau y bydd angen eu hateb drwy ddelio â materion cyfoes. Disgwylir i ymgeiswyr gymhwyso egwyddorion a damcaniaethau economeg i’r cwestiynau hyn mewn dull clir a rhesymol.

Caniateir defnyddio cyfrifiannell sydd yn anrhaglenadwy.

Ffiseg

Bydd dwy adran i’r papur Ysgoloriaeth Ffiseg. Yn Adran A ceir nifer o broblemau ffiseg cryno wedi eu seilio’n bennaf ar y meysydd llafur CBAC i Safon Uwch ac Uwch Atodol. Yn Adran B ceir cyfres o gwestiynau cysylltiedig ag arbrawf syml. Mae wedi ei gynllunio i brofi sgiliau dadansoddi data (e.e. trin data, graffio, asesu ansicrwydd mewn data, cynllun arbrofion, ac yn y blaen).

Os yw ymgeiswyr am Ysgoloriaeth yn bwriadu astudio Ffiseg dylent sefyll y papur Ffiseg fel un o’r ddau bapur.

Gall ymgeiswyr gymryd i’r arholiad unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ a ganiatawyd gan eu Byrddau Arholi i’w defnyddio mewn arholiad.

Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau, cyn belled â’u bod yn rhai tawel, hunanbweru, heb adnoddau cyfathrebu, na allant ddal testun na deunydd arall.

Ffotograffiaeth

Os ydych yn gwneud cais i gynllun gradd gan gynnwys Ffotograffiaeth, rhaid i chi gyflwyno portffolio o'ch ffotograffau gwreiddiol fel un o'ch Arholiadau Mynediad. Dylid cyflwyno ffeil PowerPoint o hyd at 20 o’ch gweithiau ffotograffig gorau hunan-ddewisedig, wedi’i nodi’n glir ‘Portffolio Ffotograffiaeth Ysgoloriaethau Mynediad’ a chynnwys eich enw llawn a rhif UCAS. Dylai eich portffolio ddangos ymgysylltiad ymarferol yn ogystal â dadansoddol ag arferion ffotograffig.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys teitl, cyfrwng, maint (pan fo angen, er enghraifft os yw'r llun wedi'i argraffu) a dyddiad y delweddau gyda'i gilydd, lle bo'n briodol, gyda disgrifiad byr, dim mwy na 100 gair, i roi gwybodaeth gefndir ychwanegol. Gall hyn fod yn ymwneud â pham rydych wedi dewis y deunydd pwnc hwn, neu sut mae'r gwaith celf yn cyd-fynd ag ymagwedd ehangach o fewn eich ymarfer celf neu o fewn cyd-destun cyfoes a/neu gelf hanesyddol.

Sylwch mai dim ond UN portffolio y gellir ei gyflwyno ar gyfer cystadleuaeth yr Arholiad Mynediad.

E-bostiwch eich e-ffolio neu ddolen i'r Ysgol Gelf artschool@aber.ac.uk erbyn 2 Chwefror 2024. Ni dderbynnir unrhyw gyflwyniadau hwyr.

Ffrangeg

Bydd y papur Ffrangeg yn cynnwys dau gwestiwn gorfodol, a bydd y ddau gwestiwn yn cael eu gofyn a’u hateb yn Ffrangeg:

  1. traethawd (o leiaf 200 ond dim mwy na 250 gair),
  2. sylwebaeth yn Ffrangeg ar destun Ffrangeg (o leiaf 200 ond dim mwy na 250 gair).

Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr ateb y ddau gwestiwn, sy’n werth yr un faint o farciau.

Os bydd ymgeisydd i’r Adran yn astudio Ffrangeg ar gyfer Safon Uwch byddem yn disgwyl iddynt sefyll yr arholiad ysgoloriaeth yn y pwnc hwnnw.

Ni cheir defnyddio geiriaduron Ffrangeg yn yr arholiad hwn. Ni chaniateir i ymgeiswyr ddod ag unrhyw nodiadau i fewn i’r ystafell arholi.

Gwleidyddiaeth / Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Gall yr ymgeiswyr ateb y papur:

  1. Gwleidyddiaeth;
  2. Gwleidyddiaeth Ryngwladol; neu’r
  3. Ddau bapur

Bydd y papurau Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ill dau yn cynnwys deg cwestiwn traethawd, a dylai’r ymgeiswyr ateb dau gwestiwn. Mae rhyddid i’r ymgeiswyr benderfynu a ydynt eisiau ateb: (i) y papur Gwleidyddiaeth; (ii) y papur Gwleidyddiaeth Ryngwladol; neu (iii) y ddau bapur.

Noder na fydd y papurau wedi eu seilio ar faes llafur y cwrs Gwleidyddiaeth Safon Uwch, a byddant yn addas i unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb arbennig mewn materion gwleidyddol/gwleidyddiaeth ryngwladol. Mae’r cwestiynau wedi’u cynllunio i’ch galluogi i fynegi barn bersonol sy’n seiliedig ar wybodaeth o faterion gwleidyddol diweddar, digwyddiadau rhyngwladol a heriau byd-eang. Rydym yn chwilio am safbwyntiau diddorol a dadleuon darbwyllol sydd wedi’u seilio ar wybodaeth dda.

Mae’r pynciau yr ymdriniwyd â hwy’n ddiweddar yn cynnwys materion megis: argyfwng y ffoaduriaid, rôl fyd-eang Tsieina, anghydraddoldeb byd-eang, amlhad arfau niwclear, rhywedd a gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth y DU a datganoli, newid yn yr hinsawdd, arweinyddiaeth fyd-eang yn yr Unol Daleithiau, terfysgaeth, dyfodol yr UE, y rhyngrwyd a gwleidyddiaeth, amlddiwylliannaeth.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch ag: interpol@aber.ac.uk.

Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau

Bydd yr arholiad hwn yn profi gwybodaeth yr ymgeisydd wrth geisio deall prif systemau’r corff mewn bioleg famalaidd, yn arbennig eu cymhwysiad i anifeiliaid domestig gan gynnwys y ceffyl, anifeiliaid fferm ac anifeiliaid cymar.

Bydd angen i’r ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth o brif systemau biogemegol y corff mamalaidd, dealltwriaeth ynghylch geneteg Fendelaidd, a gwerthfawrogiad o’r materion biolegol sy’n effeithio ar iechyd a lles anifeiliaid domestig.

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Gofynnir i ymgeiswyr ysgrifennu dau draethawd, gan ddewis o chwe phwnc ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Ni fydd y pynciau’n deillio’n uniongyrchol o feysydd llafur Safon Uwch. Ni chaniateir geiriaduron, cyfrifiannellau na gwerslyfrau ychwanegol. Argymhellir y dylai ymgeiswyr sy’n gwneud cais i astudio gradd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff sefyll yr arholiad Ysgoloriaeth gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff fel un o’u dau ddewis.

Bydd y traethodau yn profi gwybodaeth yr ymgeiswyr am fiofecaneg, ffisioleg a seicoleg, yn ogystal â’u gallu i ddefnyddio’r wybodaeth honno wrth ddadansoddi enghreifftiau ymarferol o fyd chwaraeon ac ymarfer corff.

Anogir yr ymgeiswyr i dynnu ar eu profiadau personol neu faterion cyfoes a dangos dull beirniadol a dadansoddol yn eu hatebion.

Gwyddor yr Amgylchedd

Mae’r papur hwn yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion allweddol sy’n cael eu trafod ym meysydd llafur Safon Uwch Gwyddor yr Amgylchedd, gan ganolbwyntio ar systemau naturiol y Ddaear (e.e. yr atmosffer, hydrosffer, biosffer, lithosffer) a sut mae dyn yn rhyngweithio â nhw. Mae’r papur yn cynnwys dewis o gwestiynau traethawd, a dylai’r ymgeiswyr gwblhau dau gwestiwn mewn 1 awr 30 munud.

Mae’r papur yn addas ar gyfer y rheiny sydd wedi astudio Daeareg, Daearyddiaeth neu Wyddor yr Amgylchedd ar gyfer Safon Uwch ac sy’n bwriadu astudio Gwyddor yr Amgylchedd, Gwyddor Daear Amgylcheddol neu Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dylai’r rheiny sydd wedi astudio Bioleg Safon Uwch heb Ddaearyddiaeth neu Wyddor yr Amgylchedd gysylltu â thiwtor derbyn yr adran i gadarnhau addasrwydd: dges-admissions@aber.ac.uk.

Nid oes angen atlasau na chyfrifianellau.

Hanes - Ynysoedd Prydain / Hanes - Y Byd

Gall ymgeiswyr sefyll y papurau hyn:

  1. Hanes – Ynysoedd Prydain;
  2. Hanes – Y Byd; neu
  3. Y ddau bapur

Bydd pa bapur ysgoloriaeth a ddewisir yn dibynnu ar brofiad blaenorol o hanes Safon Uwch. Mae croeso i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am raddau hanes sefyll y ddau bapur.

Mae’r papur ‘Hanes – Ynysoedd Prydain’ yn trafod hanes Prydain, Cymru ac Iwerddon.

Mae’r papur ‘Hanes – Y Byd’ yn ymdrin â hanes Ewrop (ac eithrio Prydain), Dwyrain a De-ddwyrain Asia, America Ladin a'r Caribî, a'r Unol Daleithiau. Bydd rhai cwestiynau yn caniatau i ymgeiswyr ddefnyddio tystiolaeth o unrhyw ardal ddaearyddol, ond bydd cwestiynau penodol am yr Almaen, Gogledd Ewrop, Dwyrain Ewrop, Tsieina, Japan.

Bydd pob papur yn cynnwys tua 30 cwestiwn, wedi’u rhannu’n ddwy adran. Bydd ymgeiswyr yn ateb un cwestiwn o Adran A ac un cwestiwn o Adran B.

Bydd Adran A yn cael ei neilltuo i gwestiynau am gysyniadau a methodoleg hanesyddol cyffredinol. Mae’r adran hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu bod yn gallu delio â heriau ehangach astudio hanesyddol mewn ffordd wybodus a systematig. Cynghorir myfyrwyr y dylai atebion ddangos meddwl difrifol ac eang, a chynnwys enghreifftiau perthnasol o wybodaeth hanesyddol yr ymgeisydd.

Bydd Adran B yn cynnwys amrywiaeth eang o gwestiynau o’r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, wedi’u gosod yn nhrefn amser.

Gall ysgrifenyddes ysgoloriaethau’r adran roi cyngor ar y papur(au) mwyaf addas ar gyfer pob ymgeisydd: ebost: history-enquiries@aber.ac.uk.

Hanes Celf

Mae'r papur hwn yn eich galluogi i ysgrifennu am rai o'r cwestiynau mawr a ofynnir gan gelf a'i hanesion. Gofynnir i chi ystyried cwestiynau fel 'A yw ffotograffau yn gelf?', 'A ddylai celfyddyd gael neges wleidyddol?', 'Pwy ddylai fod yn berchen ar gelfyddyd?' mewn perthynas ag enghreifftiau penodol o waith celf. Does dim rhaid i chi fod wedi astudio Hanes Celf o'r blaen, ond dylech allu dangos diddordeb ac ymwybyddiaeth o gelf a'i hanesion: efallai yr hoffech ysgrifennu am arddangosfeydd rydych chi wedi ymweld â nhw'n ddiweddar, neu lyfrau rydych chi wedi'u darllen yn ddiweddar. Byddwch yn ateb dau gwestiwn mewn 90 munud. Os ydych yn gwneud cais i gynllun gradd gan gynnwys Hanes Celf, rhaid i chi sefyll y papur hwn.

Cysylltwch â'r Ysgol Gelf gydag unrhyw ymholiadau: 01970 622460, artschool@aber.ac.uk.

Mathemateg / Mathemateg Bellach

Mae dau bapur: Mathemateg a Mathemateg Bellach. Dyma’r rheolau:

  • Gall unrhyw un o ymgeiswyr yr Ysgoloriaethau sefyll y papur Mathemateg. 
  • Os yw ymgeiswyr yn dewis sefyll y papur Mathemateg Bellach, rhaid iddynt sefyll y papur Mathemateg hefyd.
  • Os yw ymgeiswyr yn gwneud cais am gwrs sy’n cynnwys mathemateg*, i fod yn gymwys i gael cynnig di-amod o le ar y cwrs rhaid iddynt sefyll y papur Mathemateg yn un o’u dewisiadau.
  • Nid oes rheidrwydd sefyll y ddau bapur.

*rhestrir y cyrsiau sy’n cynnwys mathemateg yn https://cyrsiau.aber.ac.uk/subject/mathematics/.

Bydd y papurau Ysgoloriaeth Mathemateg a Mathemateg Bellach yn cynnwys dwy adran: Adran A, sy’n cynnwys cwestiynau cymharol fyr ar Fathemateg Bur; ac Adran B, sy’n cynnwys cwestiynau hirach ar Fathemateg Bur, Mecaneg ac Ystadegaeth, gyda’r un pwysau’n cael eu rhoi i bob un o’r tri maes. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr ateb yr holl gwestiynau yn Adran A a dau gwestiwn yn Adran B o fewn yr amser a ganiateir, sef awr a hanner.

I’r papurau Ysgoloriaeth Mathemateg a Mathemateg Bellach, rhagdybir y bydd yr ymgeiswyr yn gyfarwydd â’r pynciau a gynhwysir yn y manylebau Safon Uwch ar gyfer Mathemateg a Mathemateg Bellach; fodd bynnag gallai arddull y cwestiynau fod yn wahanol i’r rhai a geir ar bapurau Safon Uwch. Dylai ystod y cwestiynau fod yn ddigon eang i sicrhau bod gan ymgeiswyr bob cyfle i sgorio’n uchel, beth bynnag fo’r drefn y mae’r pynciau’n cael eu cyflwyno i’r disgyblion yn eu hysgolion neu golegau. Argymhellir yn gryf fod ymgeiswyr yn paratoi at yr arholiad drwy ddatrys y problemau a geir ar yr hen bapurau Mathemateg, sydd ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Brifysgol.

Caiff ymgeiswyr fynd ag unrhyw lyfrynnau gwybodaeth neu dablau ystadegol a gymeradwyir gan eu bwrdd arholi i’w defnyddio mewn arholiadau gyda nhw i’r arholiad. Os oes angen unrhyw bapur arbennig, megis papur graff, bydd hynny’n cael ei ddatgan yn glir ar y papur arholiad. Fel arall, disgwylir y bydd yr holl atebion yn cael eu rhoi yn y llyfrau ateb a ddarperir, gan gynnwys brasluniau o ddiagramau a graffiau.

Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau, cyhyd â’u bod yn cydymffurfio gyda gofynion byrddau arholi safon uwch.

Saesneg: Llenyddiaeth

Bydd rhaid i’r ymgeiswyr ysgrifennu un traethawd ar bwnc a ddewiswyd o restr o gwestiynau cyffredinol. Mae’n rhaid i’r traethawd ddangos gwybodaeth feirniadol am ddau destun o’ch dewis. Gall rhain fod yn destunau yr ydych wedi’u hastudio o’r blaen neu’n destunau yr ydych wedi’u darllen y tu allan i’r cwricwlwm.

Dylai’r traethawd geisio cyflwyno dadl feirniadol wybodus, ac iddi fframwaith da, gan lynu at y cwestiwn. Nid ydym yn ceisio profi’ch gallu i gofio dyfyniadau hir o’ch dewis destunau (er y gall defnydd perthnasol o ymadroddion allweddol roi min i ddadl). Rydym yn chwilio am dystiolaeth o ddarllen gofalus, sgiliau ysgrifennu da a dawn feirniadol. Ni chaniateir i ymgeiswyr ddod â thestunau i mewn i’r arholiad hwn.

Sbaeneg

Bydd DWY adran i’r papur Sbaeneg:

  • Darn yn Gymraeg neu Saesneg i’w gyfieithu i Sbaeneg (tua 250 gair)
  • Traethawd i’w gyfansoddi yn Sbaeneg ar destun cyffredinol (250-300 gair)

Disgwylir i ymgeiswyr ddefnyddio amrywiaeth eang o gystrawennau, amserau berf, a geirfa yn yr ymarfer cyfansoddi (adran y traethawd).

Os yw ymgeiswyr i’r Adran yn astudio Sbaeneg i Safon Uwch byddem yn disgwyl iddynt sefyll yr arholiad ysgoloriaeth Sbaeneg. Ni chaniateir i fyfyrwyr ddefnyddio geiriaduron na deunydd ysgrifenedig arall i’w cynorthwyo i ateb y papur.

Pwysig: Mae fformat newydd i arholiad Sbaeneg yr Ysgoloriaethau ar gyfer 2019.

Seicoleg

Bydd y cwestiynau ar y papur yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu dealltwriaeth o seicoleg a’r trafodaethau sy’n gysylltiedig â’r maes. Amcanion y papur yw:

  1. Asesir dirnadaeth ymgeiswyr ym mhwnc seicoleg a/neu eu gallu i archwilio a thrafod rhai o’r materion cyffredinol sy’n ymwneud â seicoleg. Mae hyn yn cynnwys materion cysylltiedig â chynllun ymchwil a moeseg ymchwil.
  2. Profi gallu’r ymgeiswyr i ysgrifennu traethodau, i ganfod y dadleuon a dangos eu sgiliau dadansoddi.

Mae dwy adran i’r papur. Yn Adran A (40% o gyfanswm marc yr arholiad), bydd gan ymgeiswyr ddewis o ddau gwestiwn traethawd ar bynciau cynllun ymchwil a moeseg ymchwil, a rhaid iddynt ateb un ohonynt. Yn Adran B (60% o gyfanswm marc yr arholiad), bydd gan ymgeiswyr ddewis o bedwar cwestiwn traethawd ar bynciau cyfoes ym maes seicoleg, a rhaid iddynt ateb un ohonynt. Cynlluniwyd y papur i asesu addewid yr ymgeiswyr ar gyfer astudio seicoleg ar lefel israddedig a gellir eu hateb gan ymgeiswyr sy’n cymryd y pwnc i’w harholiadau Safon Uwch a rhai sydd â diddordeb gwirioneddol yn y maes ond dim gwybodaeth uniongyrchol yn y pwnc.

Technoleg Gwybodaeth

Bwriad yr arholiad Ysgoloriaeth Mynediad mewn Technoleg Gwybodaeth yw edrych ar y math o ddeunydd y gallech chi fod wedi’i astudio ar eich cwrs Technoleg Gwybodaeth Safon Uwch neu gwrs tebyg.

Gallai’r arholiad ymdrin â’r pynciau canlynol: cronfeydd data; taenlenni; datblygu’r we a phynciau busnes. Fel arfer, gofynnir 3 neu 4 o gwestiynau o blith y pynciau hyn a bydd dewis sylweddol ar gael. Bydd y papur arholiad yn cael ei farcio ar sail eich dealltwriaeth chi o’r pynciau a safon y mynegiant a ddefnyddir i ateb y cwestiynau.

Troseddeg

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ateb tri chwestiwn o bapur sy’n cynnwys saith cwestiwn.

Bydd y papur yn profi sgiliau’r ymgeiswyr o ysgrifennu traethawd, dadansoddi a dadlau. Pan fo’n briodol, anogir yr ymgeiswyr i fynegi eu barn bersonol gan ddangos gwybodaeth am y materion diweddaraf yn y maes hwn. Bydd y cwestiynau ar y papur yn ddigon cyffredinol, felly ni fydd unrhyw ymgeisydd o dan anfantais os nad ydynt wedi astudio Troseddeg neu os ydynt wedi dilyn maes llafur penodol mewn Troseddeg.

Twristiaeth

Bydd dwy adran i’r papur. Bydd y gyntaf (Adran A) yn ymwneud â thwristiaeth yn y Deyrnas Unedig, a’r ail (Adran B) â thwristiaeth fyd-eang.

Gan na fydd llawer o’r ymgeiswyr wedi astudio twristiaeth yn flaenorol, mae’r cwestiynau wedi eu cynllunio i annog myfyrwyr i roi sylwadau ar bynciau cyffredinol sy’n ymwneud â datblygu a rheoli twristiaeth, gan gynnwys effeithiau twristiaeth, pwysigrwydd economaidd twristiaeth, a fframwaith y diwydiant twristaidd.

Anogir ymgeiswyr i ymgyfarwyddo ag egwyddorion twristiaeth y DU a thwristiaeth fyd-eang drwy astudio llyfrau addas, “Tourism: Principles and Practice” (Fletcher et al, 2013).

Y Gyfraith

Mae gan y papur dair adran. Ar gyfer Adran A, bydd angen i’r ymgeiswyr ysgrifennu traethawd ar bwnc cyffredinol sy’n ymwneud â’r gyfraith a chyfiawnder, sef dewis un o dri o gwestiynau. Mae Adran B yn cynnwys un cwestiwn gorfodol, a bydd angen i’r ymgeisydd gymhwyso rheol gyfreithiol (a ddarperir ar y papur) i nifer o wahanol sefyllfaoedd ffeithiol. Mae Adran C hefyd yn cynnwys un cwestiwn gorfodol, a fydd yn gofyn i ymgeiswyr ddarllen dyfyniad sy’n gysylltiedig â’r gyfraith o ffynhonnell allanol, i roi sylwadau ar gynnwys y dyfyniad a’i werthuso, ac i roi dadansoddiad cyffredinol o’r testun.

Bydd y papur yn profi sgiliau’r ymgeiswyr o ran ysgrifennu traethawd, sgiliau ieithyddol, dadansoddi, rhesymu a dadlau. Lle’n berthnasol, anogir yr ymgeiswyr i fynegi eu barn bersonol gan ddangos gwybodaeth am y materion diweddar yn y maes hwn. Bydd y cwestiynau ar y papur yn ddigon cyffredinol, felly ni fydd unrhyw ymgeisydd o dan anfantais os nad ydynt wedi astudio’r Gyfraith neu os ydynt wedi dilyn maes llafur penodol yn y Gyfraith.

Ysgrifennu Creadigol (yn Saesneg)

Bydd yr ymgeiswyr yn ysgrifennu stori fer yn seiliedig ar un allan o ddewis o bynciau penodedig. Byddant hefyd yn ysgrifennu darn byr (200 i 400 gair) o sylwebaeth ar y stori.

Adran A: Y stori
Dylai hon fod yn stori fer orffenedig (er yn gryno, wrth raid), sy’n dangos synnwyr cryf o strwythur cyffredinol. Dyfernir marciau am ddefnyddio’r dychymyg i ymdrin â’r pwnc penodedig ac am arddull: golyga arddull, ar lefel gyffredinol, afael dda ar ramadeg ac atalnodi ac, ar lefel fwy soffistigedig, y gallu i ddefnyddio iaith yn gelfydd ac effeithiol. Gellir canolbwyntio’n gryf ar y pwnc penodedig neu i raddau llai, ond dylai’r pwnc chwarae rhan arwyddocaol yn y stori.

Adran B: Y sylwebaeth
Bydd yr adran hon yn ymdrin â phroses ysgrifennu’r stori, gan egluro’r penderfyniadau a wnaed wrth ei chynllunio a’i hysgrifennu – er enghraifft, pa un ai ysgrifennu yn y person cyntaf neu’r trydydd person, pam mae cymeriadau’r stori yn ymddwyn fel ag y maent, pa ysbrydoliaeth (llenyddol neu fel arall) sydd y tu ôl i’r stori. (ON: canllaw yn unig yw’r enghreifftiau hyn i’r math o gwestiwn y bydd y sylwebaeth efallai yn ceisio ei ateb, nid cyfarwyddyd penodol).

Ni chaniateir i’r ymgeiswyr ddod â thestunau i’r arholiad hwn.

Noder: Mae meini prawf asesu gwahanol ar gyfer y ddwy elfen, ond ystyrir y ddwy elfen yn gyfartal. Bydd un marc yn cael ei ddynodi i’r papur cyfan.