Gwybodaeth i Ysgolion a Cholegau

Hoffem ddiolch i chi am ganiatáu i’ch disgyblion sefyll arholiadau’r Ysgoloriaeth yn eich ysgol/coleg. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl sefydliadau sy’n cytuno i gynnal yr arholiadau ac rydym yn ceisio trefnu hyn gan darfu cyn lleied â phosib arnoch. Mae gan Ysgoloriaethau Mynediad Prifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig – daw llwyddiant â chydnabyddiaeth i’r myfyrwyr a’u hysgolion/colegau.

 

Amserlen:

Medi - Ionawr:

Mae angen i’r myfyrwyr ofyn am ganiatâd eu Swyddog Arholiadau i sefyll yr arholiadau yn yr ysgol/coleg.

29 Ionawr:

Mae angen i’r myfyrwyr anfon eu ffurflen gais Arholiadau Mynediad electronig i’r Brifysgol.

Ystyriaethau arbennig:

Gofynnir i fyfyrwyr roi gwybod i ni a’u Swyddogion Arholiadau os oes ganddynt hawl i gael amser ychwanegol ar gyfer eu harholiadau. Mae gan y myfyrwyr hawl hefyd i ddefnyddio unrhyw lwfansau eraill yn union fel ag y maent mewn arholiadau ysgol arferol (e.e. defnyddio prosesydd geiriau / rhywun i gymryd nodiadau).

Wythnos cyntaf mis Chwefror:

Bydd y Brifysgol yn anfon yr holl ddeunydd angenrheidiol at y Swyddogion Arholiadau.

Rhaid eistedd yr arholiadau ar y dyddiad sydd wedi'i amserlennu; yn anffodus nid oes unrhyw hyblygrwydd ar hyn.

9 Chwefror:

Caiff yr arholiadau eu cynnal a'u cyflwyno i'r Brifysgol ar-lein. 

Diwedd mis Chwefror/Dechrau Mawrth:

Bydd y Brifysgol yn ysgrifennu at yr holl ymgeiswyr a’u hysgolion/colegau, i roi gwybod iddynt a oeddent yn llwyddiannus yn yr arholiadau ai peidio. Bydd enwau’r ymgeiswyr llwyddiannus ac enwau’r ysgolion/colegau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan hefyd.

Sylwer:

Rhaid i fyfyrwyr sy’n penderfynu peidio â sefyll yr arholiadau roi gwybod ar unwaith i’r Tîm Ysgoloriaethau.

Nid oes cost i'r ymgeisydd na'r ysgol/coleg, ond ni allwn gyfrannu at unrhyw gostau arolygu chwaith.

Er mwyn cyd-fynd ag amserlenni sefydliadau unigol, gall Ysgolion a Cholegau ddechrau'r arholiadau ar amser a phenodwyd ganddynt.

Os bydd pynciau ymgeiswyr yn gwrthdaro, bydd disgwyl iddynt sefyll un papur yn sesiwn y bore a’r llall yn sesiwn y prynhawn.

Rheoliadau

Dyma rai canllawiau pwnc-benodol ar gyfer arholiadau’r Ysgoloriaeth Mynediad:

  • Cyfrifeg a Chyllid – ceir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu
  • Celf – Arolygu Portffolio – gofynnir i ymgeiswyr gysylltu â’r Ysgol Gelf i drefnu Arolygu Portffolio cyn dyddiad olaf Arholiadau’r Ysgoloriaeth Mynediad
  • Busnes a Rheolaeth – ceir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu
  • Cemeg – darperir tabl yr elfennau a cheir defnyddio cyfrifiannell
  • Drama – ni chaiff ymgeiswyr ddod â thestunau i’r arholiad hwn
  • Economeg – ceir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu
  • Saesneg a Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol – ni chaiff ymgeiswyr ddod â thestunau i’r arholiad hwn
  • Ieithoedd Modern (Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg) – ni chaiff ymgeiswyr ddefnyddio geiriadur
  • Astudiaethau Ffilm a Theledu – ni chaiff ymgeiswyr ddod â thestunau i’r arholiad hwn
  • Ffrangeg – dylai ymgeiswyr ateb cwestiynau o adrannau ar wahân mewn llyfrau ateb ar wahân, lle gofynnir iddynt wneud hynny
  • Daearyddiaeth (Dynol a Ffisegol) – ni chaiff ymgeiswyr ddefnyddio atlas
  • Mathemateg – caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (os ydynt yn dawel, hunanbweredig, heb adnoddau cyfathrebu, ac yn methu cadw testun neu ddeunydd arall y gellir ei ddefnyddio i gael mantais annheg), dylai ymgeiswyr ddod â’u cyfrifianellau eu hunain. Gall ymgeiswyr ddod ag unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ i’r arholiad os ydynt wedi’u cymeradwyo gan eu bwrdd arholi i'w defnyddio mewn arholiadau (darperir Tablau Ystadegol). Dylai ymgeiswyr ateb cwestiynau o adrannau ar wahân mewn llyfrau ateb ar wahân, lle gofynnir iddynt wneud hynny
  • Ffiseg – bydd yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i chynnwys yn y papur, ond gall yr ymgeiswyr fynd ag unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ a ganiateir gan eu Byrddau Arholi i’r ystafell arholiad i’w defnyddio yn yr arholiadau hynny os hoffent. Caiff yr ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (os ydynt yn dawel, hunanbweredig, heb adnoddau cyfathrebu, ac yn methu dal testun neu ddeunydd arall y gellir ei ddefnyddio i ennill mantais annheg)
  • Astudiaethau Crefyddol – ni chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio Beibl
  • Cymraeg (IG ac IF) – ni chaniateir i ymgeiswyr ddod â thestunau neu eiriaduron i’r arholiad hwn

Trefniadau ar gyfer tywydd garw

Os bydd eich ysgol/coleg ar gau oherwydd y tywydd ar ddyddiau pan gynhelir arholiadau’r Ysgoloriaeth Mynediad, byddwn yn caniatáu i ymgeiswyr sefyll unrhyw arholiadau a fethwyd cyn gynted ag y bydd yr ysgol/coleg yn ailagor.

Os bydd hyn yn digwydd i chi, cysylltwch â’r swyddfa i roi gwybod i ni – ffôn: 01970 622065 neu ebost: marchnata@aber.ac.uk