Arholiadau Mynediad a gynhelir ar y campws – Ddydd Sadwrn, 11 Chwefror 2023

Diolch am ddewis dod i Brifysgol Aberystwyth er mwyn sefyll arholiadau’r Ysgoloriaethau Mynediad ar ddydd Sadwrn, 11 Chwefror 2023. Mae'r dudalen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer eich ymweliad ag Aberystwyth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn eich ymweliad, cysylltwch â ni dros y ffôn (01970 622065) neu e-bostiwch ymholiadau@aber.ac.uk. Bydd ein tîm yn barod iawn i’ch helpu. 

Teithio a Pharcio

Wrth i chi gyrraedd Campws Penglais, dilynwch yr arwyddion ac unrhyw gyfarwyddiadau eraill a fydd yn eich tywys i’r maes parcio am ddim. Bydd parcio ar gyfer ymwelwyr ar gael yn y maes parcio y tu ol i'r Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol. 

Os oes angen parcio hygyrch ar unrhyw un yn eich grŵp (ac os nad ydych wedi nodi hyn pan oeddech yn bwcio lle), e-bostiwch
ymholiadau@aber.ac.uk fel y gallwn sicrhau bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud ar eich cyfer. 

Mae gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr sy'n teithio mewn car ar gael ar ein mapiau a thudalennau gwe teithio. 

Ar ôl i chi barcio, dilynwch yr arwyddion a’r cyfarwyddiadau a gewch gan ein Llysgenhadon Myfyrwyr er mwyn cerdded i adeilad Penbryn i gofrestru.

A oes pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar y campws?
 
Er mwyn cefnogi'r defnydd cynyddol sydd erbyn hyn ar gerbydau trydanol, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn sawl man ar draws y Brifysgol. Mae diagramau manwl ar bob pwynt gwefru sy’n dangos sut i’w ddefnyddio. Rhagor o wybodaeth am wefru cerbydau trydan.

Beth yw amserlen y diwrnod?

Dyma amserlen fras y diwrnod. 

Ar agor o 9.00 
Rhaid i ymgeiswyr gofrestru erbyn 10.00  

Cofrestru 

10.10

Ymgeiswyr yn cael eu tywys i ystafelloedd arholi gan Lysgenhadon Myfyrwyr

10.30  - 12.00

Arholiad 1*

10.30  - 12.00 

Egwyl cinio 

13.40

Ymgeiswyr yn cael eu tywys i ystafelloedd arholiad gan Lysgenhadon Myfyrwyr

10.30  - 12.00 

Arholiad 2*

* Bydd ymgeiswyr sy'n gymwys i gael 25% o amser ychwanegol (oherwydd gofynion arholiad penodol a gadarnhawyd gan y Brifysgol) yn cael cyfarwyddyd ar y diwrnod gan y goruchwylwyr - bydd yr amseroedd cychwyn ar gyfer yr arholiadau fel uchod. 

Ble ydw i'n cofrestru a ble fydda i’n sefyll yr arholiad?

Wrth gyrraedd y campws, bydd angen i chi gofrestru yn Adeilad  y Gwleidyddiaeth Ryngwladol  rhwng 9.00 a 10.00. Bydd ein tîm cofrestru yn esbonio amserlen y diwrnod ac yn ateb eich cwestiynau.

Byddwch yn sefyll eich arholiadau yn un o'n mannau addysgu a dysgu, a byddwch yn cwblhau eich arholiad ar-lein. Os ydych wedi dewis sefyll yr arholiadau Mathemateg a/neu Fathemateg Bellach, cofiwch y byddwch yn rhoi eich atebion mewn llyfrynnau ateb papur yn hytrach na’u cyflwyno ar-lein. Bydd ein goruchwylwyr yn casglu eich papurau ar ôl ichi eu cwblhau a byddwn yn eu huwchlwytho i'r system Turnitin ar eich rhan.

Bydd ein tîm o Lysgenhadon Myfyrwyr yn mynd â chi i'r ystafell arholi a byddant ar gael i’ch tywys yn ôl i Adeilad y Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar ddiwedd pob arholiad os oes angen i chi gwrdd unwaith eto ag aelod o’r teulu neu ffrind.

Sut fydd yr arholiadau ar-lein yn gweithio?

Bydd ein goruchwylwyr yn rhoi cyfarwyddyd ichi ar sut y bydd yr arholiadau'n cael eu cynnal a'r prosesau y mae angen i chi eu dilyn.

Dylech eisoes fod wedi rhoi eich cyfrif unigryw Prifysgol Aberystwyth ar waith gan ddefnyddio'r ddolen a anfonwyd i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd ar eich ffurflen gais UCAS. Os nad ydych wedi rhoi’r cyfrif hwn ar waith, gwnewch hyn cyn gynted â phosib. Dewch â'r wybodaeth fewngofnodi hon gyda chi ar y diwrnod gan y bydd ei hangen arnoch chi yn yr ystafell arholi i gael mynd i mewn Blackboard, sef platfform dysgu ar-lein Prifysgol Aberystwyth. 

Os ydych yn poeni efallai na fyddwch yn cofio'r wybodaeth hon yn yr ystafell arholi, bydd ein tîm cofrestru yn gallu rhoi cerdyn ichi roi’r manylion hyn arno. 

Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, neu os ydych am ailosod eich cyfrinair, cysylltwch â ysgoloriaethau@aber.ac.uk cyn yr arholiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ddiwrnod yr arholiadau, mynnwch air â'n tîm cofrestru. Bydd y goruchwylwyr yn esbonio sut i fewngofnodi pan fyddwch yn cyrraedd yr ystafell arholi.

Ar ddiwedd yr arholiad byddwch yn cyflwyno eich atebion ar-lein drwy Blackboard. Esbonnir y camau y bydd angen i chi eu cymryd yn hyn o beth yn y ddogfen hon: Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr. Bydd copïau o'r nodiadau canllaw hyn ar gael yn yr ystafell arholi a bydd goruchwylwyr ar gael i'ch cynorthwyo. 

Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod wedi darllen y Polisi ar Ymddygiad Academaidd Da ac Annheg ar gyfer yr Arholiadau Mynediad.

Beth os oes gennyf ofynion arholi arbennig?

Rhaid i ymgeiswyr sydd â gofynion arholi penodol ar gyfer eu harholiadau ysgol arferol (e.e. amser ychwanegol) gynnwys e-bost oddi wrth eu hysgol yn eu cais sy’n cadarnhau’r gofynion hynny. Heb y dystiolaeth ategol hon, ni fyddwn yn gallu caniatáu ystyriaethau arbennig. Mae’n bosib y caiff ymgeiswyr cymwys 25% o amser ychwanegol, a’r un trefniadau ag yn eu harholiadau arferol yn yr ysgol. Gweler ein Polisi ar wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sy’n sefyll yr Arholiadau Mynediad.

Os oes gennych ofynion arholi arbennig, ac os nad ydych eisoes wedi rhoi gwybod i'r Brifysgol am hyn, cysylltwch â'n tîm Ysgoloriaethau ar unwaith fel y gellir rhoi trefniadau priodol ar waith cyn ichi ymweld ag Aberystwyth (e-bost:ysgoloriaethau@aber.ac.uk).

Beth ga’ i ddod â mi i'r arholiadau?

Er mwyn helpu i awyru'r ystafelloedd arholiad, bydd y ffenestri ar agor yn ystod yr arholiad. Rydym yn cynghori pob ymgeisydd i wisgo'n briodol – caiff ymgeiswyr ddod â chotiau i mewn i'r ystafell arholi.

Cofiwch, os ydych yn sefyll yr arholiadau Mathemateg a/neu Fathemateg Bellach, bydd angen i chi ddod ag offer ysgrifennu gan y bydd llyfrynnau ateb papur yn cael eu darparu. Dylai ymgeiswyr ddod â'u cyfrifianellau eu hunain.

Mae croeso hefyd i ymgeiswyr mewn meysydd pwnc eraill ddod ag offer ysgrifennu. Cofiwch y bydd angen ichi roi’r offer mewn casyn clir.

I weld pa eitemau y cewch ddod gyda chi i’r ystafell arholi ar gyfer gwahanol bapurau pwnc, ynghyd â'r eitemau sydd wedi’u gwahardd, ewch i'n Tudalen We Arholiadau Mynediad.

Dylech eisoes fod wedi rhoi eich cyfrif unigryw Prifysgol Aberystwyth ar waith gan ddefnyddio'r ddolen a anfonwyd i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd ar eich ffurflen gais UCAS. Os nad ydych eisoes wedi rhoi’r cyfrif hwn ar waith, gwnewch hyn cyn gynted â phosib. Dewch â'r wybodaeth fewngofnodi hon gyda chi ar y diwrnod gan y bydd ei hangen arnoch chi yn yr ystafell arholi i gael mynd i mewn i Blackboard, sef platfform dysgu ar-lein Prifysgol Aberystwyth. 

Os ydych yn poeni efallai na fyddwch yn cofio'r wybodaeth hon yn yr ystafell arholi, bydd ein tîm cofrestru yn gallu rhoi cerdyn ichi roi eich gwybodaeth fewngofnodi a’ch cyfrinair arno (er gwybodaeth). Byddwch yn cael mynd â’r cerdyn hwn i mewn gyda chi i’r ystafell arholi. Ni chewch roi gwybodaeth ychwanegol ar y cerdyn hwn.

A fyddaf yn gallu mynd â'm bag a'm cot i'r ystafell arholi?

Byddwch yn gallu mynd â bagiau bach gyda chi i’r man arholi a bydd y goruchwyliwr yn esbonio ble y dylech eu gadael, ynghyd â'r rheolau ynghylch yr hyn y gallwch ei gael ar eich desg. Mewn rhai achosion, efallai y bydd cyfleusterau storio bagiau yn cael eu darparu mewn ystafell nesaf at y man arholi.  

I weld pa eitemau y cewch ddod gyda chi i’r ystafell arholi ar gyfer gwahanol bapurau pwnc, ynghyd â'r eitemau sydd wedi’u gwahardd, ewch i'n Tudalen We Arholiadau Mynediad.

Faint o ymwelwyr gaiff ddod gyda mi ar y diwrnod?

Ni chewch ddod â mwy na dau berson gyda chi ar ddiwrnod yr Arholiadau Mynediad. Tra bod yr ymgeiswyr yn sefyll arholiadau'r bore a'r prynhawn, bydd ein staff a'n Llysgenhadon Myfyrwyr yng ngofal yr ystafell i ymwelwyr yn yr adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol. 

Mae croeso i rieni ac ymwelwyr alw heibio a bydd ein tîm yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau ymarferol ynglŷn â’ch arhosiad ac ynglŷn â bywyd prifysgol/bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd copïau o gyhoeddiadau Prifysgol Aberystwyth ar gael ichi eu casglu, ynghyd â chyngor a gwybodaeth am arddangosfeydd ac atyniadau lleol.

Os oes gennych amser rhydd ar y campws, awgrymwn eich bod yn gwneud y pethau hyn:

  • Mynd ar daith o amgylch y campws – bydd rhagor o wybodaeth ar gael gan staff yn yr ystafell ymwelwyr (Medrus, Penbryn).
  • Ymweld â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (ar Gampws Penglais) - mae'r ganolfan arobryn hon yn cynnal rhaglen lawn drwy gydol y flwyddyn, megis perfformiadau byw, sinema, digwyddiadau arbennig, arddangosfeydd a chyrsiau.

Ble mae'r mannau gwerthu bwyd a diod ar y campws?

Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fannau gwerthu sy'n cynnig popeth o ddiodydd i brydau poeth. Cewch ragor o wybodaeth ar y gwe-dudalennau isod:

Sylwch nad oes yr un o'r mannau gwerthu ar y campws yn derbyn arian parod - rydym yn derbyn pob cerdyn debyd a chredyd, ac Apple Pay

Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar 11 Chwefror. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn eich ymweliad, cysylltwch â ni dros y ffôn (01970 622065) neu e-bostiwch ymholiadau@aber.ac.uk.