Gwybodaeth Bwysig

  1. Mae’n bosibl dal Ysgoloriaeth Mynediad neu Wobr Teilyngdod ynghyd ag unrhyw un, neu bob un, o’n gwobrau eraill;
  2. Mae i bob Ysgoloriaeth a Bwrsariaeth eu telerau ac amodau eu hunain;
  3. Bydd myfyrwyr sy’n gohirio mynediad yn derbyn Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau ar y lefel a hysbysebwyd ar gyfer y flwyddyn gais;
  4. Mae’r gwobrau’n daladwy i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd llawn yn unig (nid i’r sawl sydd wedi trosglwyddo i flynyddoedd 2 neu 3 o’r cwrs).
  5. Bydd y taliadau’n para tra bydd myfyriwr yn dal y wobr yn amodol â bodloni’r rheoliadau (os bydd blwyddyn yn cael ei hailwneud ni wneir taliadau, ac eithrio Bwrsariaeth Aberystwyth);
  6. Dim ond yn ystod y blynyddoedd pan fo’r myfyriwr yn talu ffioedd llawn y caiff taliadau Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau eu gwneud (ni fydd taliadau’n cael eu gwneud yn ystod blynyddoedd tramor fel rhan o’r cwrs neu yn ystod blynyddoedd mewn diwydiant);
  7. Fel arfer, gwneir taliadau ddwywaith y flwyddyn yn syth i gyfrifon banc y myfyrwyr. Cyfrifoldeb y myfyrwyr unigol yw darparu manylion dilys y banc pan ofynnir iddynt amdanynt. Os nad ydynt yn rhoi’r manylion hynny erbyn y dyddiad penodedig, ni fydd yr arian yn cael ei dalu. Os na ddarperir manylion cyfrif banc erbyn y dyddiad penodedig, ni fydd gan ddeiliad y grant hawl i dderbyn taliad y flwyddyn honno. Gall taliadau blynyddoedd diweddarach barhau os bydd deiliad y grant yn darparu manylion ei gyfrif banc erbyn y dyddiadau penodedig ar gyfer y blynyddoedd hynny;
  8. Bydd taliadau i fyfyrwyr sy’n tynnu’n ôl dros dro yn ailgychwyn o ddechrau’r tymor llawn nesaf pan ailgychwynnant ar eu hastudiaethau (ni fydd unrhyw daliadau sy’n weddill o’r tymor pan dynnant yn ôl yn cael eu talu);
  9. Mae’n bwysig cofio os y byddwch mewn dyled i’r Brifysgol, y bydd taliadau’r Ysgoloriaeth neu Fwrsariaeth yn cael eu dal yn ôl a’u defnyddio yn erbyn y ddyled;
  10. Os bydd myfyriwr yn tynnu’n ôl o’u hastudiaethau am byth cyn Rhagfyr 1af, bydd y Swyddfa Gyllid yn hawlio’r cyfan o’r taliad cyntaf yn ôl. Os bydd myfyriwr yn tynnu’n ôl am byth rhwng Rhagfyr 1af a Mawrth 2il, bydd y Swyddfa Gyllid yn hawlio yn ôl y cyfan o’r ail daliad. O dan yr amgylchiadau hyn, os nad yw’r symiau hyn yn cael eu had-dalu, mae’n bosib y bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at asiantaeth gasglu dyledion y Brifysgol;
  11. Mae’r wybodaeth a geir yma yn berthnasol i fyfyrwyr a fydd yn ymgymryd â’u hastudiaethau yn Aberystwyth yn unig, ac nid yw’n berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio rhaglenni breiniol neu raglenni wedi’u dilysu a gyflwynir gan bartneriaid.