Ysgoloriaethau Cerdd

Ysgoloriaethau Cerdd; Myfyriwr yn dal offeryn cerdd

£650 ar gael i ymgeiswyr o'r DU a rhyngwladol

Ffurflen Gais

(30 Mehefin 2024 yw'r dyddiad cau)

Un o gryfderau Aberystwyth yw’r bywyd cerddorol gwych sydd yma. Er nid oes modd gwneud gradd gerddoriaeth yn y Brifysgol mwyach, rydym yn dal i werthfawrogi pwysigrwydd bwrlwm y gymuned gerddorol.  Rydym yn cynnig cyfle i bob myfyriwr i chwarae, dysgu a mwynhau cerddoriaeth ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

Rhoddir Ysgoloriaethau Cerdd (4 ar gael bob blwyddyn) i gerddorion profiadol a all wneud cyfraniad ymarferol i gerddorfeydd, bandiau, corau ac ensembles y Brifysgol. Cant eu dyfarnu ar sail clyweliad cystadleuol i fyfyrwyr newydd mewn unrhyw ddisgyblaeth (israddedig neu uwchraddedig) ac fe’u dyfernir am hyd y cwrs.

Manteision:

  • Aelodaeth rad ac am ddim i holl ensembles cerddorol (gan gynnwys cerddorfeydd, bandiau ac ati)
  • Cyfle i ddefnyddio adnoddau ymarfer a llyfrgell ac adnoddau priodol eraill yn rhad ac am ddim
  • Sicrwydd o lety mewn eiddo a reolir gan y Brifysgol am hyd y cwrs*

* Er mwyn sicrhau eich lle mewn Neuadd, mae’n rhaid i chi wneud cais am lety ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf o fewn y dyddiadau a hysbysebir gan y Swyddfa Lety i fyfyrwyr sy’n dychwelyd.

Sut i ymgeisio:

  • Rhaid ymgeisio i’r Brifysgol a nodi Aberystwyth fel dewis cadarn.
  • Rhaid cwblhau a chyflwyno ffurflen gais erbyn 30 Mehefin 2024.
  • Rhaid i ymgeiswyr a gaiff wahoddiad fod ar gael am glyweliad ar adeg sy’n gyfleus i bawb
  • Mae’r Ysgoloriaethau ar gael i offerynwyr a chantorion cymwys o bob gwlad, yn unol â’r hyn a nodir yn y rheoloiadau

 Ceir manylion llawn ar ein gwefan www.aber.ac.uk/cy/music neu drwy gysylltu â: music@aber.ac.uk