Telerau ac Amodau
- Rhaid i ddeiliaid Ysgoloriaethau fod yn aelodau gweithgar o Ganolfan Gerdd Prifysgol Aberystwyth, ac yn aelodau o ddau grŵp cerddorol yn unol â rheoliadau’r Ysgoloriaethau a thrwy drefniant â’r Cyfarwyddwr Cerdd;
- Mae’n rhaid wrth bresenoldeb rheolaidd ac ymroddedig yn yr ymarferion a’r perfformiadau;
- Bydd deiliaid Ysgoloriaethau’n helpu i hybu proffil cerddoriaeth y Brifysgol ac mae’n bosib y gofynnir iddynt helpu â chynlluniau eraill i hybu’r Brifysgol (e.e. Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld) lle bo hynny’n briodol;
- Sylwer na wneir taliadau yn ystod blynyddoedd neu dymhorau a dreulir dramor, blynyddoedd mewn gwaith, blynyddoedd rhyng-gwrs, blynyddoedd sy’n cael eu hail-wneud ac ati;
- Rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio’n llawn amser;
- Mae’n bosibl i uwchraddedigion sy’n dal Ysgoloriaeth barhau i elwa cyhyd â’u bod yn fyfyrwyr llawn amser;
- Gellir dal Ysgoloriaeth Gerdd ar y cyd ag unrhyw wobr israddedig arall.