Astudio yng Nghymru

pobl ifanc yn eistedd gyda'i gilydd ac yn siarad: tirwedd Cymru o'i hamgylch.

Dim ots ble rydych yn byw, mae sawl rheswm dros astudio yng Nghymru.

Prif Resymau:

  • Gwlad unigryw
    Mae gan Gymru hanes cyfoethog, diwylliant Celtaidd a threftadaeth falch, byddwch yn rhan o barhau’r traddodiad.
  • Tirwedd amrywiol
    Mae yma leoliadau astudio sy’n amrywio o drefi arfordirol hardd i ddinasoedd hanesyddol bywiog.
  • Cost byw yn is
    O’i gymharu â’r rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig, bydd eich arian gwario yn mynd ymhellach.
  • Ysgoloriaethau a bwrsarïau
    Unwaith eto, o’i gymharu â’r rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig, gallwch gael cymorth ariannol hael tuag at eich astudiaethau.
  • Myfyrwyr hapus
    Mae gan Brifysgol Aberystwyth rhai o'r myfyrwyr mwyaf bodlon yn y Deyrnas Unedig. Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf, rydym Ar y Brig yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr (ACF 2023).
  • Mae yma rywbeth bob amser i’w weld neu ei wneud
    O siopa i ymweld â llefydd diddorol, o glybiau chwaraeon i gyngherddau byw – a does dim rhaid i chi deithio’n bell i fod ar draeth, mewn coedwig neu wrth droed mynyddoedd.
  • Addysgu ac ymchwil ardderchog
    Ym mhrifysgolion Cymru, gyda’i gilydd, ceir nifer sylweddol o adrannau academaidd sydd wedi’u graddio’n 4* i gydnabod eu rhagoriaeth ryngwladol.
  • Cyflogadwyedd uchel
    Mae graddau sydd â blwyddyn mewn cyflogaeth a chysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu bod graddedigion o brifysgolion Cymru yn mynd ymlaen i gael gwaith boddhaus neu wneud astudiaethau pellach.