Pam mynd i Aberystwyth?
Mae sawl rheswm da i chi ddod i astudio i Brifysgol Aberystwyth, neu i “Aber” neu’r “Coleg ger y Lli” fel mae’n cael ei galw weithiau. Dyma rhai o’r rhesymau:
- Lleoliad trawiadol
Mae Aber wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin yn y Canolbarth, wedi’i amgylchynu gan dir gwledig hardd. Mae’r Brifysgol yn rhan o dref fywiog, glan môr ac mae’n cynnig cymuned ryngwladol a dwyieithog unigryw - Bodlonrwydd myfyrwyr
90% o fyfyrwyr yn fodlon a dyma’r Brifysgol Orau yng Nghymru ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr yn gyffredinol (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, 2018)* - Ansawdd yr addysgu
Gwobr Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu diweddar (Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr, 2018) a phrifysgol y flwyddyn ar gyfer ansawdd yr addysgu (Good University Guide, The Times and Sunday Times, 2018) ac wedi’i gosod yn 45fed yn y Deyrnas Unedig yn nhablau cynghrair prifysgolion diweddar y Guardian (The Guardian, 2018) - Rhagoriaeth ymchwil
Mae 95% o ymchwil y Brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2014) - Cyflogadwyedd uchel
Mae 96.8% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu addysg bellach 6 mis ar ôl graddio (Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, 2018)
*Caiff safle Prifysgol Aberystwyth ei gymharu yn erbyn sefydliadau addysg uwch eraill sydd wedi’u rhestru yn The Times and the Sunday Times Good University Guide 2018