Ceisiadau hwyr

Os wnaethoch chi fethu dyddiad cau UCAS, peidiwch â phoeni, nid yw hi’n rhy hwyr i wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth fis Medi!

Sut i ymgeisio

Am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais, dilynwch ein canllaw cam-wrth-gam. 

Gwnewch gais nawr trwy UCAS. 

Rydym yn cynnig dewis eang o gyrsiau ar gyfer ein darpar fyfyrwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau ar gael yma

 

Beth i'w ddisgwyl os ydych ch'n dod i astudio gyda ni

Mae tref Aberystwyth yn swatio’n ddelfrydol rhwng y mynyddoedd a Bae Ceredigion yng nghanolbarth Cymru. Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog, yn gyrchfan glan môr a chartref-oddi-cartref i 9,000 o fyfyrwyr. Trwy gydol y flwyddyn mae'r dref yn llawn bywyd gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd yn heidio yma a thwristiaid yn cael eu denu yma i fwynhau golygfeydd Aberystwyth, gan greu naws gosmopolitan amlwg i'r dref.

 

Aelodaeth y Ganolfan Chwaraeon AM DDIM

Os ydych chi’n dewis gwneud cais i astudio yma ac yn dewis byw yn llety’r Brifysgol ym mis Medi, byddwn yn cynnwys Aelodaeth Blatinwm yn y Ganolfan Chwaraeon yn RHAD AC AM DDIM i chi.

Mae’r Aelodaeth Blatinwm yn werth £225 y flwyddyn ac mae’n cynnwys mynediad anghyfyngedig i’r gampfa, y pwll nofio, y sawna a’r wal ddringo yn ogystal â’r dosbarthiadau ymarfer corff, iechyd a lles.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Chwaraeon ar gael ar-lein www.aber.ac.uk/sportscentre

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Derbyn Myfyrwyr cyfeillgar ar 01970 622021 neu derbyn-israddedig@aber.ac.uk