Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Eich canllaw i Addysg Uwch: Gwneud y cam o Ymgeisio i Lwyddo
Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mae ein Tîm Denu Myfyrwyr yn gweithio’n ddiwyd i gynnig gwybodaeth o’r hyn yw addysg uwch i ddarpar fyfyrwyr, athrawon a rhieni.
Ymunwch â ni wrth i ni ymchwilio i amryw o faterion sydd yn ymwneud â'r siwrnai o lunio eich cais i gyrraedd y brifysgol.
Mewn partneriaeth â Channel Talent, mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cynnal gweminarau wythnosol byw. Mae'r gweminarau hyn yn trafod amryw o faterion a fydd yn eich helpu i wneud eich taith i'r brifysgol ychydig yn haws. Mae recordiadau o'r trafodaethau hyn hefyd yn cael eu cadw ar y tudalennau hyn.
Recordiadau Blaenorol
Dewis y Cwrs a Chwblhau’r Datganiad Personol: Gwneud y Penderfyniadau Cywir
Mae'r sesiwn wedi’i rannu’n ddau – y rhan gyntaf wedi’i anelu at gynorthwyo darpar-fyfyrwyr i ddeall pa rinweddau sydd i gael gradd a sut i ddewis y cwrs a phrifysgol iawn. Byddwn yn trafod:
Budd cael gradd
Sut i ddewis y cwrs perffaith
Sut i ddewis y prifysgol perffaith
Bydd ail ran y sesiwn yn edrych ar bwysigrwydd datganiad personol gwych a sut i’w ysgrifennu.
Bydd y sesiwn wedi’i rannu fel isod:
Disgrifiad byr o’r datganiad personol, a’i rol a’i bwysigrwydd o fewn y cais i brifysgol
Gorolwg o strwythur y Datganiad Personol
Ysgrifennu’r Rhagymadrodd
Beth i feddwl amdano pan yn siarad am eich pwnc dewisol
Pam bod ysgrifennu am eich llwyddiannau allgyrsiol yn bwysig
Ysgrifennu clo i’r datganiad.
Blas ar Fywyd Myfyriwr : Gwneud yr Dewisiadau Cyllido Cywir
Mae'r sesiwn yma wedi’i rannu’n ddau, gyda’r rhan gyntaf yn edrych ar gyllid myfyrwyr, a’r ail yn edrych ar fywyd myfyrwyr. Bydd y rhan gyntaf yn edrych ar:
Beth yw’r system gyllido sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru
Pa fath o gefnogaeth gaiff myfyrwyr – Ffioedd a Chynhaliaeth – esboniad o hwn
Sut mae’r system yn gweithio, a phryd mae gwneud cais
Sut mae ad-dalu’r benthyciad myfyrwyr
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau – esbonio sut mae’r rhain yn gweithio