Cwis Pynciau a Gyrfaoedd - SACU

Mae gan SACU Gwis Pynciau a Gyrfaoedd unigryw a ddefnyddir gan filoedd o fyfyrwyr yn ysgolion a cholegau ar draws y DU.

Dilynwch y ddolen isod i fanteisio ar gwis gwych SACU a gwybodaeth annibynnol wych. 

Fideo: Cyflwyno SACU (yn Saesneg yn unig)

Beth yw SACU?

Mae SACU yn sefydliad annibynnol sydd â'r nod o helpu myfyrwyr i wneud y penderfyniad cywir am eu dyfodol. Drwy gymryd eu Cwis am ddim, byddwch yn cael eich paru ag ystod o bynciau a gyrfaoedd a allai fod o ddiddordeb i chi. Hefyd, byddwch yn cael dolenni i wahanol gyrsiau y gallwch eu hastudio. Rydym yn argymell defnyddio SACU fel cam cyntaf yn eich chwiliad am y cwrs perffaith yn y Brifysgol.  

Sut i gwblhau cwis SACU?

Dewiswch 1 llun allan o 4. Wedyn gwnewch hyn gyda lluniau eraill 48 o weithiau. Dyna fe. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis y llun sy'n eich cynrychioli orau (os o gwbl). Peidiwch â chymryd gormod o amser a pheidiwch â dadansoddi'n rhy ddwfn ar ystyron cudd posibl!

Os nad ydych chi'n hoffi unrhyw un o'r delweddau, peidiwch â dewis un – defnyddiwch y botwm 'dim un o'r uchod' o dan y lluniau.

Mae'r holl sgorio cymhleth, algorithmau a chronfeydd data sy'n gyrru'r cwis wedi'i guddio yn y cefndir.