Cefnogi eich ymweliad

I wneud pethau’n haws, byddwn yn cyfrannu tuag at eich costau Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr. 

 

Ymgeiswyr presennol:

Bydd pob ymgeisydd yn gallu hawlio cyfraniad tuag at eu costau ymweld, hyd at uchafswm o £75 (yn seiliedig ar bellter taith un ffordd rhwng eich côd post cartref a chôd post Prifysgol penodol).

 

Milltir Hawliad
Llai na 75 milltir £15.00
75–174 milltir £40.00
Mwy na 175 milltir £75.00

 

Bydd rhagor o wybodaeth am sut i hawlio cyfraniad tuag at eich costau ymweld yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost yn dilyn eich ymweliad

Sylwer, yn achos darpar fyfyrwyr sy’n gadael gofal, gofalwyr ifainc, y rhai sydd heb gymorth teuluol a grwpiau eraill sy’n dod o fewn maes ‘ehangu mynediad’, mae’n bosib y bydd cefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael i ddod i Ddiwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr. Os yw'r holl gostau yn golygu na allwch ymweld â ni, cysylltwch â’r tȋm Ehangu Cyfranogiad ar ehangu-cyfranogiad@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth.